Ewch i’r prif gynnwys

Canolfan £50m ar gyfer Bywyd y Myfyrwyr yn cael mynd yn ei blaen

14 Rhagfyr 2016

Darlun Pensaer o ochr blaen Canolfan Bywyd y Myfyrwyr
Darlun Pensaer o ochr blaen Canolfan Bywyd y Myfyrwyr.

Mae Cyngor Dinas Caerdydd wedi penderfynu rhoi caniatâd cynllunio i Brifysgol Caerdydd ddechrau codi adeilad nodedig gwerth £50m yng nghalon Campws Cathays.

Mae'r Ganolfan Bywyd y Myfyrwyr yn rhan o fuddsoddiad mawr ym mhrofiad myfyrwyr ac yn rhan o’r gwaith mwyaf ers cenhedlaeth i uwchraddio'r campws.

Mae'r Ganolfan yn brosiect partneriaeth ag Undeb y Myfyrwyr, ac yn ymateb i geisiadau gan fyfyrwyr am well wasanaethau a lleoedd dysgu ac astudio. Mae'n ffrwyth partneriaeth lwyddiannus a dynamig y mae’r Brifysgol yn falch o’i mwynhau gyda’i chorff o fyfyrwyr.

Bydd yr adeilad newydd yn creu canolbwynt ar gyfer ein gwasanaethau cefnogi myfyrwyr yn ogystal â chynnig mannau dysgu cymdeithasol modern, hyblyg a darlithfa 550-sedd gyfoethog ei thechnoleg.

Canolfan Bywyd y Myfyrwyr - Darlithfa
Darlithfa 550 sedd arfaethedig yn y Ganolfan Bywyd y Myfyrwyr

Bydd Canolfan Bywyd y Myfyrwyr yn gwneud gwasanaethau cymorth yn fwy hygyrch i fyfyrwyr, gan gynnwys y rhai sy'n astudio y tu hwnt i Barc Cathays.

Bydd gwasanaeth cymorth ar-lein gwell, a bydd y Ganolfan yn cynnig un pwynt cyswllt i fyfyrwyr ac Ysgolion Prifysgol Caerdydd. Bydd yn hawdd cael mynediad at amrywiaeth o wasanaethau a chyfleusterau, a bydd gan y Ganolfan oriau agor estynedig.

Bydd gwasanaethau myfyrwyr yn cael eu strwythuro o gwmpas:

  • Dyfodol: gyrfaoedd, cyflogadwyedd a chyfleoedd byd-eang
  • Lles: iechyd meddwl a chwnsela
  • Bywyd y myfyriwr: arian, cymorth i fyfyrwyr rhyngwladol, cymorth i bobl anabl, gweinyddiaeth myfyrwyr
  • Bar cynghori: gall myfyrwyr drafod ymholiadau wyneb yn wyneb yn y ganolfan, neu ar-lein 24/7
Canolfan Bywyd y Myfyrwyr - Llawr Cyntaf
Bydd y Ganolfan Bywyd y Myfyrwyr yn darparu mannau cymdeithasol modern ar gyfer myfyrwyr a staff.

Meddai'r Athro Colin Riordan, Is-Ganghellor y Brifysgol: "Mae hwn yn fuddsoddiad mawr yn ein myfyrwyr ac yn eu profiad dysgu..."

"Mae ein myfyrwyr yn disgwyl cyfleusterau sy'n arwain y byd a bydd y Ganolfan ar gyfer Bywyd Myfyrwyr yn bodloni'r disgwyliadau uchel hynny."

Yr Athro Colin Riordan Llywydd ac Is-Ganghellor, Prifysgol Caerdydd

"Nid ein myfyrwyr a'n staff yw’r unig rai a fydd yn manteisio oherwydd bydd hwn yn adeilad nodedig ar gyfer pobl a dinas Caerdydd."

Meddai Sophie Timbers, Llywydd Undeb y Myfyrwyr: “Gwyddom mai’r datblygiad hwn yw'r buddsoddiad mwyaf sylweddol ym mhrofiad y myfyrwyr ers cenhedlaeth.

"Mae’n dilyn buddsoddiad mawr y Brifysgol yn adeilad Undeb y Myfyrwyr sydd wedi gweddnewid mynedfa Heol Senghennydd i Undeb y Myfyrwyr, gan gynnig croeso cynnes, amrywiaeth o siopau a chaffis sydd o fudd i’r myfyrwyr ac i'r cyhoedd.

"Rwy'n hapus iawn fod Cyngor Dinas Caerdydd wedi cefnogi cynlluniau uchelgeisiol y Brifysgol i greu’r Ganolfan ar gyfer Bywyd Myfyrwyr..."

"Bydd cyd-leoli’r Ganolfan ac Undeb y Myfyrwyr yn galluogi mynediad hawdd at wasanaethau, a fydd o fudd aruthrol i fyfyrwyr."

Sophie Timbers Llywydd Undeb y Myfyrwyr

"Mae’r bartneriaeth rhwng y Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr yn un hanfodol i’r ddau barti a bydd hyn yn caniatáu inni gydweithio hyd yn oed yn fwy agos."

Canolfan Bywyd y Myfyrwyr - Bar Cyngor
Datblygwyd Cynllun Meistr y Campws ar ôl ymgynghoriad mawr gyda staff a myfyrwyr.

Cynlluniwyd yr adeilad gan y penseiri arobryn Feilden Clegg Bradley Studios (FCB Studios) sydd wedi gwneud gwaith gydag adeiladau cyhoeddus proffil uchel.

Mae gan FCB Studios brofiad o weithio ar brosiectau prifysgolion yn y DU ac yn rhyngwladol, ac maent wedi gweithio ar nifer o gynlluniau blaenllaw ar gyfer cleientiaid o bwys, fel Ysgol Gelf Manceinion, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Amgueddfa Rhyfel Oer yr Awyrlu Brenhinol, a Chanolfan Southbank.

Meddai Tom Jarman, y Prif bensaer: "Mae Feilden Clegg Bradley Studios yn falch iawn fod y Ganolfan ar gyfer Bywyd Myfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd wedi cael caniatâd cynllunio ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr iawn at symud y prosiect i'r camau nesaf.

"Mae'r cynllun yn dal i fod yn driw i gysyniadau gwreiddiol y gystadleuaeth ac rydym yn gyffrous wrth gymryd un cam yn nes at ei weld yn dwyn ffrwyth."

Canolfan Bywyd y Myfyrwyr - Ail lawr
Ystafell gyffredin yr ail lawr yng Nghanolfan Bywyd y Myfyrwyr

Disgwylir i’r gwaith adeiladu ddechrau yn 2017 ac i’r Ganolfan fod yn barod erbyn blwyddyn academaidd 2019/20.

Mae'r penderfyniad ar Ganolfan Bywyd y Myfyrwyr yn dilyn caniatâd gan gynllunwyr y ddinas i gyfnod diweddaraf Campws Arloesedd y Brifysgol sy’n werth £300m ganol mis Tachwedd. Bydd dau adeilad newydd, sy’n costio cyfanswm o £135m, yn dod ag ymchwilwyr, busnesau, cefnogwyr o'r sector cyhoeddus, a myfyrwyr at ei gilydd i ddatblygu syniadau sy'n sbarduno twf economaidd.

Rhannu’r stori hon

The Campus Master Plan is a major transformation of our campus to provide new state-of-the-art research, teaching and student facilities.