Ewch i’r prif gynnwys

Arian i ehangu eich busnes - cyngor yr arbenigwyr

8 Tachwedd 2016

Business growth in graph form

Ydych chi erioed wedi meddwl am sut i gael cefnogaeth y Llywodraeth i'ch helpu i ehangu eich busnes?

Bydd Innovate UK - asiantaeth arloesedd y DU - yn amlinellu gwahanol ffyrdd o wneud cais am gymorth ariannol gan yr Asiantaeth.

Bydd Jon Wood, Rheolwr Cymru Innovate UK a'r entrepreneur yr Athro James Birchall yn trin a thrafod y manteision, yr anfanteision a'r peryglon – ac yn egluro sut i lwyddo.

Ers 2007, mae Innovate UK wedi ymrwymo £1.8 biliwn i arloesedd gan helpu dros 7.600 o sefydliadau. Amcangyfrifir bod y sefydliadau hyn wedi ychwanegu dros £11.5 biliwn at economi'r DU a chreu 55,000 o swyddi newydd.

Meddai Jon Wood: "Mae peryglon yn gysylltiedig ag arloesedd, ac yn aml mae angen gallu neu adnoddau y tu hwnt i gryfderau busnes craidd. Mae Innovate UK, asiantaeth arloesedd y DU, yn helpu i leihau'r peryglon sy'n gysylltiedig â phrosiectau arloesedd drwy gynnig arian. Maen nhw hefyd yn eu helpu i gysylltu â chyrff ymchwil, busnesau eraill a phrifysgolion sy'n gallu mynd i'r afael â heriau penodol.

“Yn rhinwedd fy swydd, rydw i'n gweithio gyda Llywodraeth Cymru ac asiantaethau cefnogi arloesedd eraill yng Nghymru i ganfod ac arwain yr arloesedd ym meysydd gwyddoniaeth a thechnoleg fydd yn galluogi economïau Cymru a'r DU i dyfu."

Mae arian Innovate UK yn ceisio helpu mentrau bach a chanolig i feithrin partneriaethau newydd sy'n creu twf economaidd. Mae Prifysgol Caerdydd yn cydweithio â mentrau bach a chanolig wrth iddynt gyflwyno ceisiadau am arian gan Innovate UK drwy gynnig arbenigedd academaidd, cymorth busnes, neu gydweithio â chonsortia.

Mae'r Athro Birchall o Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol Prifysgol Caerdydd, yn gyfarwyddwr cwmni llwyddiannus sydd wedi deillio o'r Brifysgol.

Mae wedi llwyddo i gael dros £15 miliwn o arian grant allanol ar y cyd o amrywiaeth eang o ffynonellau, gan gynnwys Cynghorau Ymchwil, y diwydiant fferyllol, cyrff y llywodraeth ac elusennau.

Bydd James yn rhannu ei brofiad o gyflwyno ceisiadau llwyddiannus am arian gan Innovate UK a'i reoli, fel academydd a Chyfarwyddwr Extraject Technologies Ltd.

Cynhelir y digwyddiad - 'Ariannu Arloesedd: Trosolwg o arian Innovate UK a sut i wneud cais' – ddydd Mercher, 9 Tachwedd rhwng 18:00 a 20:30.

I gadw tocynnau, ewch yma.

Bydd lluniaeth ysgafn a chyfle i rwydweithio ar ôl y sesiwn.

Rhannu’r stori hon

Yma, cewch wybod sut mae ein rhagoriaeth ym meysydd ymchwil, trosglwyddo technoleg, datblygu busnesau a mentrau myfyrwyr, yn arwain ein gweledigaeth.