Ewch i’r prif gynnwys

Byddai prawf geneteg yn helpu i ‘atal canser rhag lledu’

30 Medi 2014

DNA

Mae ymchwil a gafodd ei chynnal gan y Brifysgol wedi canfod y byddai sgrinio teuluoedd cleifion canser y coluddyn am gyflwr genetig yn helpu i ostwng y risg o ddatblygu canser y coluddyn, canser y groth a chanser yr ofari.

Mewn astudiaeth fawr, gwerthusodd Dr Ian Frayling o'r Ysgol Feddygaeth ac ymchwilwyr o Ysgol Feddygaeth Prifysgol Exeter effeithiolrwydd cyflwyno rhaglen sgrinio'r DU cyfan ar gyfer cyflwr genetig o'r enw Syndrom Lynch.

Achosir Syndrom Lynch gan newidiadau bychain yn y genynnau. Mae'r cyflwr yn cynyddu'r risg o bobl yn datblygu canser, yn enwedig canser y coluddyn a chanser y groth a'r ofari yn hwyrach mewn bywyd.

Mae'n gyfrifol am oddeutu 1 o bob 12 achos ymhlith pobl o dan 50 oed ac mae oddeutu traean o'r bobl sy'n dioddef o'r afiechyd yn datblygu canser y coluddyn cyn iddynt droi'n 70 oed, os nad oes unrhyw beth yn cael ei wneud.

Achosir Syndrom Lynch gan newidiadau yn y genynnau sy'n gwirio'r sillafu mewn DNA. Mae'r cyflwr yn cynyddu risg pobl o ddatblygu canser, yn enwedig canser y coluddyn a chanser y groth a'r ofari yn hwyrach mewn bywyd. Heb brofi am ganser, nid yw'n amlwg eu bod nhw'n cael eu hachosi gan Syndrom Lynch, ac felly yn aml nid oes modd cael diagnosis. 

Mae'n gyfrifol am oddeutu 1 o bob 12 achos ymysg pobl o dan 50 oed ac mae oddeutu traean o'r bobl sy'n dioddef o'r afiechyd yn datblygu canser y coluddyn cyn iddynt droi'n 70 oed, os nad oes unrhyw beth yn cael ei wneud.

"Os nodir Syndrom Lynch fel achos canser y coluddyn, mae'n bosibl cynnig mesurau gostwng risg i gleifion, gan gynnwys cadw golwg agosach a mwy dwys yn dilyn colonosgopi mewn ymdrech i weld dychweliadau a chanser newydd yn gynnar," yn ôl Dr Ian Frayling o Brifysgol Caerdydd, ymgynghorydd clinigol yr astudiaeth.

"Oherwydd bod gan berthnasau agos 50% o siawns o rannu'r un gennyn, byddai sgrinio yn gyfle gwerthfawr i ganfod y cyflwr mewn plant, brodyr a chwiorydd, rhieni a pherthnasau pellennig.

"Byddai'n golygu gallu cymryd mesurau i ostwng y risg o ganser yn datblygu," ychwanegodd.

Mae'r canfyddiadau, sy'n cael eu cyhoeddi yn Health Technology Assessment, yn awgrymu y byddai sgrinio'r 1,700 o bobl o dan 50 oed sy'n cael diagnosis o ganser y coluddyn (yn Lloegr) bob blwyddyn yn adnabod y ddau draean o'r rhain sydd wedi gweld y canser yn cael ei achosi gan Syndrom Lynch. 

O'r grŵp hwn, mae'r canfyddiadau'n awgrymu y gellir osgoi 40 o achosion pellach o ganser ymhlith y dioddefwyr a'u perthnasau.

Ychwanega Dr Frayling: "Mae hwn yn ddarn pwysig o waith sydd i'w groesawu.

"Mae'n cyfiawnhau cyflwyno'r fath brofion ar y GIG yn y DU, sydd eisoes yn cael eu gweithredu mewn gwledydd Ewropeaidd eraill.

"Yn awr, bydd y rheiny sy'n dioddef o Syndrom Lynch yn cael y gofal y maen nhw'n ei haeddu, gan arbed amser, bywydau, arian ac adnoddau. Mae ein cydweithwyr ledled y byd yn awyddus i ddefnyddio'r model hwn a ddatblygwyd gan Ysgol Feddygaeth Prifysgol Exeter er mwyn sicrhau bod y manteision yn ymestyn ymhell y tu hwnt i'r DU."

Adolygodd y tîm yr holl dystiolaeth sy'n gysylltiedig â Syndrom Lynch a chanser y coluddyn yn systematig, gan nodi ac asesu cyfanswm o 42 o astudiaethau, cyn creu model cyfrifiadurol o strategaethau sgrinio ar gyfer Syndrom Lynch.  

Darganfuwyd bod pob strategaeth sgrinio yn helpu i wella deilliannau iechyd am gost sy'n dderbyniol yn gyffredinol i'r GIG. Y ffordd fwyaf cost-effeithiol o adnabod Syndrom Lynch oedd cynnal profion ar y tiwmor cyn cynnig cwnsela a phrofion geneteg.  

Mewn gwerthusiad ar wahân, sydd heb gael ei gyhoeddi na'i adolygu gan gymheiriaid eto, defnyddiodd y tîm yr un model i amcangyfrif y byddai'n bosibl atal 28 o farwolaethau sy'n gysylltiedig â chanser bob blwyddyn, petai sgrinio Syndrom Lynch mewn dioddefwyr canser y coluddyn yn cael ei gyflwyno.

Dywedodd Deborah Alsina, Prif Weithredwr Canser y Coluddyn y DU: "Rydym yn croesawu'r canfyddiadau ymchwil hyn, sy'n dangos bod modd achub bywydau trwy adnabod yn gynt y rheiny sydd mewn mwy o berygl o ddatblygu canser y coluddyn oherwydd cyflyrau genetig megis Syndrom Lynch.

"Mae'n hollbwysig bod mwy o fywydau yn cael eu hachub trwy sicrhau bod pobl yn cael mynediad at y gwasanaeth sgrinio sydd ei angen arnyn nhw, er mwyn diystyru canser y coluddyn yn gyntaf, yn hytrach nac yn olaf, ymhlith cleifion ifancach." 

"Tra bob canser y coluddyn yn eithaf anghyffredin ymysg pobl o dan 50 oed, mae yna 550 o bobl o hyd yn y grŵp oedran hwn sy'n marw oherwydd canser y coluddyn bob blwyddyn, a rhaid i hynny newid."

Ariannwyd yr ymchwil gan y Sefydliad Cenedlaethol er Ymchwil Iechyd, gyda'r Sefydliad Cenedlaethol er Ymchwil Gofal Cymdeithasol ac Iechyd yn cefnogi Dr Frayling, trwy Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.