Ewch i’r prif gynnwys

Varsity Cymru 2015 yn mynd tua’r gorllewin

3 Hydref 2014

Welsh Varsity
Welsh Varsity

Flwyddyn nesaf, bydd Varsity Cymru'n symud i Stadiwm Liberty, Abertawe, yn dilyn blynyddoedd llwyddiannus yn Stadiwm y Mileniwm yng Nghaerdydd. Bydd hyn yn caniatáu i fyfyrwyr Abertawe chwarae ar eu tir eu hunain am y tro cyntaf ers 2010.

Varsity Cymru yw digwyddiad chwaraeon mwyaf Cymru i fyfyrwyr, lle mae myfyrwyr o brifysgolion Caerdydd ac Abertawe'n cystadlu yn erbyn ei gilydd mewn amrywiaeth o chwaraeon, sy'n dod i ben gyda gêm rygbi'r dynion.

Mae Bryn Griffiths, Is-lywydd Chwaraeon a Llywydd yr Undeb Athletau ym Mhrifysgol Caerdydd, yn frwdfrydig ynghylch y newid: "Bydd Varsity 2015 heb os yn uchafbwynt y flwyddyn ar gyfer Tîm Caerdydd, ac rwy'n siŵr y bydd ein timau'n awyddus i herio Abertawe ar eu tir nhw ar ôl pedair blynedd lwyddiannus adref. Gyda phennaeth rygbi newydd, byddwn yn llygadu'r Cwpan yn ogystal â pharhau â'n goruchafiaeth yn Nharian y Varsity! Byddwch yn siŵr o fynd i'r gorllewin i Stadiwm Liberty, gan y bydd yn siŵr o fod yn agos at fod yn llawn ac yn siŵr o ddarparu awyrgylch enfawr a fydd yn rhagori ar y blynyddoedd blaenorol."

Agorodd Stadiwm Liberty yn 2005 i fod yn gartref i dîm pêl-droed Dinas Abertawe a chlwb rygbi'r Gweilch, a darparu cyfleuster y gall Abertawe fod yn falch ohono. Yn sgil gweledigaeth Cyngor Dinas a Sir Abertawe, adeiladwyd Stadiwm Abertawe wrth ochr Parc Manwerthu Morfa, ychydig funudau o Ganol Dinas Abertawe.

Mae Charlotte Peters, Swyddog Chwaraeon ym Mhrifysgol Abertawe, yn edrych ymlaen at y twrnamaint: "Mae'n hynod gyffrous bod Varsity Cymru yn dychwelyd i Abertawe am y tro cyntaf mewn pum mlynedd, ac mae'r ffaith bod ein hathletwyr yn cael chwarae o flaen eu torf cartref, ar dir cartref, yn wych!"

Mae Paul Thorburn, Cadeirydd Varsity Cymru, o'r farn bod hwn yn benderfyniad cadarnhaol a fydd yn gwella digwyddiadau yn y dyfodol: "Mae hyn yn unol â phenderfyniad y bwrdd i wneud y gêm yn ddigwyddiad cartref ac oddi cartref blynyddol. Mae cystadleuaeth Varsity Cymru yn un o'r achlysuron gorau yng nghalendr myfyrwyr Cymru, a'r digwyddiad chwaraeon mwyaf yng Nghymru i fyfyrwyr. Mae'r ffaith bod Varsity yn dychwelyd i Abertawe am y tro cyntaf mewn pum mlynedd yn newyddion cyffrous i'r ddinas a'r myfyrwyr."

Mae twrnamaint Varsity Cymru wedi tyfu llawer dros y pum mlynedd diwethaf, gan ddenu torfeydd o fwy nag 20,000 o fyfyrwyr yn cefnogi eu Prifysgolion. Enillodd Abertawe y cwpan am yr ail flwyddyn ym mis Ebrill 2014, ar ôl trechu Caerdydd 19 - 15. Bydd Caerdydd eisiau ailennill eu teitl pan fyddan nhw'n herio Abertawe fel y tîm oddi cartref y flwyddyn nesaf.

Bydd twrnamaint Tarian Varsity Cymru 2015 yn fwy ac yn well nag erioed o'r blaen. Bydd dros 30 o glybiau chwaraeon yn cystadlu am y darian fawr ei chwennych y mae Caerdydd wedi ei hennill ers i'r twrnamaint ddechau ym 1996. Mae'r chwaraeon yn amrywio o bêl-rwyd a rygbi, i fadminton a ffrisbi eithafol.

Rhannu’r stori hon