Ewch i’r prif gynnwys

Lleoedd rhad ac am ddim ar gael ar gyfer Hanner Marathon Caerdydd

31 Awst 2016

Elite Runners

Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnig nifer cyfyngedig o leoedd i'r rhai sydd am gymryd rhan yn un o'r cystadlaethau hanner marathon mwyaf poblogaidd y DU.

Er mwyn cael lle yn rhad ac am ddim yn Hanner Marathon Caerdydd/Prifysgol Caerdydd, rhaid i'r rhedwyr ymrwymo i godi arian ar gyfer ymchwil cancr neu ymchwil dementia ac iechyd meddwl Prifysgol Caerdydd.

Bydd pob ceiniog o'r arian a godir gan redwyr #TîmCaerdydd yn mynd tuag at ymchwil y Brifysgol  yn y meysydd hyn.

Team Cardiff

Mae'r Brifysgol ymysg y tair prifysgol orau ym Mhrydain ar gyfer Seicoleg, Seiciatreg a Niwrowyddoniaeth, ynghyd â Chaergrawnt a Rhydychen.

Tra bo myfyrwyr, staff a graddedigion y Brifysgol yn cael eu hannog i redeg i #TîmCaerdydd, mae'r lleoedd cyfyngedig yn agored i bawb.

I fod yn gymwys, rhaid i redwyr ymrwymo i godi o leiaf £150 i elusen, neu £100 os ydych yn fyfyriwr.

Cynhelir Hanner Marathon Caerdydd/Prifysgol Caerdydd ddydd Sul, 2 Hydref. Cymerodd 22,000 o redwyr ran y llynedd gan olygu ei bod yn un o'r cystadlaethau hanner marathon mwyaf yn y DU.

Y Brifysgol yw prif noddwr y digwyddiad yn dilyn ei phartneriaeth lwyddiannus gyda Hanner Marathon y Byd IAAF/Prifysgol Caerdydd ym mis Mawrth eleni.

Fodd bynnag, nid noddi yn unig fydd rôl Prifysgol Caerdydd. Mae iechyd y cyhoedd yn rhan bwysig o waith y Brifysgol ac mae Hanner Marathon Caerdydd yn cyd-fynd â'r agenda hon.

Mae'r Brifysgol yn gwneud gwaith ymchwil rhagorol ym maes iechyd, ac mae'n hyfforddi'r bobl fydd yn weithwyr gofal iechyd proffesiynol yn y dyfodol.

Mae'r digwyddiad yn llwyfan perffaith ar gyfer dod â phobl o'r sector iechyd a'n cymunedau lleol ynghyd i hyrwyddo manteision ffordd iach a gweithgar o fyw.

Cafodd miloedd o redwyr y cyfle i ganlyn 200 o athletwyr penigamp, gan gynnwys enillydd dwbl y Gemau Olympaidd, Mo Farah yn Hanner Marathon y Byd.

Rhedodd dros 200 o bobl gyda thîm y Brifysgol, tra bu eraill yn gwirfoddoli ar gyfer cefnogi'r gystadleuaeth a gafodd ei darlledu ar y teledu.

Cewch ragor o fanylion am redeg fel rhan o #TîmCaerdydd - tecstiwch RUN i 66777 neu ewch i www.cardiff.ac.uk/cy/cardiff-half