Ewch i’r prif gynnwys

Athro Nodedig Anrhydeddus

17 Awst 2016

Richard Rawlins

Mae un o arbenigwyr cyfreithiol mwyaf blaenllaw'r DU ym maes datganoli wedi'i wneud yn Athro Nodedig Anrhydeddus yn y Brifysgol.

Cafodd yr Athro Richard (Rick) Rawlings ei enwebu ar gyfer y teitl gan yr Athro Richard Wyn Jones ar ran Canolfan Llywodraethiant Cymru ac Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth.

Bydd yr Athro Rawlings yn cadw'r teitl anrhydeddus hwn am gyfnod o bum mlynedd, a bydd yn cryfhau Canolfan Llywodraethiant Cymru hyd yn oed ymhellach. Mae'n ganolfan ymchwil flaenllaw sy'n ymgymryd â gwaith ymchwil arloesol am bob agwedd ar y gyfraith, gwleidyddiaeth, llywodraeth ac economi wleidyddol Cymru, yn ogystal â chyd-destun llywodraethu tiriogaethol ehangach y DU ac Ewrop.

Mae'r Athro Rick Rawlings yn Athro Cyfraith Gyhoeddus yng Ngholeg Prifysgol Llundain. Mae'n Gydymaith o'r Uned Gyfansoddiadol, ac yn Feinciwr Anrhydeddus o'r Deml Fewnol, yn Gymrawd o Gymdeithas Ddysgedig Cymru, ac yn Gymrawd Bywyd o'r Sefydliad Materion Cymreig. Roedd yn arfer bod yn Gynghorydd Cyfreithiol i Bwyllgor Cyfansoddiadol Tŷ'r Arglwyddi, ac mae'n aelod o Bwyllgor Cynghori Cymru yng Nghomisiwn y Gyfraith ar hyn o bryd.

Mae ei feysydd arbenigedd yn ymestyn ar draws cyfraith gyfansoddiadol a gweinyddol. Maent yn cynnwys cyfansoddiad tiriogaethol y DU a chysylltiadau rhynglywodraethol; gweithredu polisïau a chyfiawnder gweinyddol; adolygiad barnwrol a hawliau dynol; yn ogystal â chyfraith a llywodraethu'r UE. Mae'n arloeswr ym maes astudio'r gyfraith a llywodraethu yng Nghymru yng ngoleuni'r trefniadau datganoli sy'n prysur ddatblygu.

Dywedodd yr Athro Rawlings:"Ers amser maith, rwyf wedi mwynhau fy ngwaith a'm cysylltiad â Chanolfan Llywodraethiant Cymru. Mae'n ganolfan yn hanfodol o ran ei harbenigedd a'i hymchwil ym maes gwleidyddiaeth yng Nghymru.  Roedd yn bleser gennyf draddodi'r ddarlith Ddydd Gŵyl Dewi flynyddol ar ran y Ganolfan y llynedd, ac mae'r anrhydedd hon yn cryfhau fy mherthynas â Chanolfan Llywodraethiant Cymru wrth i mi ymgymryd ag astudiaeth bwysig ynghylch Cymru a'r Undeb gyda chefnogaeth Ymddiriedolaeth Leverhulme.

Dywedodd yr Athro Daniel Wincott, Pennaeth Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth y Brifysgol:"Mae gan yr Athro Richard Rawlings enw da rhyngwladol, ac mae'n un o brif Gadeiryddion y Gyfraith yn y DU. Mae'n ysgolhaig cyfreithiol nodedig ynghylch datganoli, ac mae ei lyfr Delineating Wales, a ysgrifennodd yn 2003, yn parhau i fod yn un o'r astudiaethau ysgolheigaidd gorau am ddatganoli.

"Mae gan yr Athro Rawlings gysylltiadau cryf â Chanolfan Llywodraethiant ar ôl bod yn aelod o'i fwrdd cynghori. Ef oedd awdur y darn hynod ddylanwadol a gyhoeddodd y Ganolfan ar Ddrafft Bil Cymru yn 2015.  Wrth i'r Bil Cymru newydd gyflymu'r broses ddatganoli, ochr yn ochr â'r  cyfrifoldebau treth ac ariannol newydd, mae'r Athro Rawlings yn cryfhau enw da Canolfan Llywodraethiant Cymru hyd yn oed ymhellach."