Ewch i’r prif gynnwys

Clirio'r cosmos

29 Mehefin 2016

Herschel - Moon (Crop)

Mae'r Bydysawd yn cael ei lanhau'n raddol wrth i fwy a mwy o lwch cosmig gael ei waredu wrth i sêr ffurfio o fewn galaethau, yn ôl tîm rhyngwladol o seryddwyr.

Mae'r tîm, sydd wedi ei arwain gan ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd, wedi gallu edrych 12 biliwn o flynyddoedd i'r gorffennol gan ddefnyddio Telesgop gofod Herschel i gynhyrchu delweddau isgoch-bell o'r awyr, ac maent wedi gweld galaethau yn eu cyfnodau cynharaf, a'u cymharu wedyn â galaethau sydd wedi ffurfio'n fwy diweddar.

Dangosodd y canlyniadau bod sêr yn ffurfio mewn galaethau'n llawer cynt yn y gorffennol o gymharu â heddiw, a bod y sêr hyn sy'n ffurfio mor gyflym, yn defnyddio mwy a mwy o lwch cosmig sy'n hollbresennol yn y Bydysawd.

Mae llwch cosmig yn cynnwys gronynnau mân a solet sydd i'w canfod ym mhobman yn y gofod rhwng y sêr. Y llwch a'r nwy yn y bydysawd yw'r deunydd crai sy'n ffurfio sêr a galaethau.

Er bod yr elfennau hyn yn allweddol er mwyn ffurfio sêr a galaethau, maent yn fel sbwng yn amsugno bron i hanner y golau sy'n cael ei allyrru gan wrthrychau serol, gan olygu nad oes modd eu gweld â thelesgopau optegol arferol.

Gyda lansiad y Telesgop gofod Herschel yn 2009, cafodd ymchwilwyr yr adnodd perffaith i graffu ar ddirgelwch y bydysawd hwn. Yn sgîl y casgliad o offer sensitif, drychau a hidlyddion sydd ganddo, roedd Telesgop Herschel yn gallu canfod y llwch o'r allyriadau isgoch-bell oedd yn cael eu cynhyrchu, gan ddatgelu bodolaeth sêr a galaethau oedd yn cael eu cuddio gan y llwch.

Dywedodd cyd-arweinydd yr astudiaeth, yr Athro Steve Eales, o Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth Prifysgol Caerdydd: "Cawsom ein synnu nad oedd angen inni edrych yn bell i'r gorffennol i weld arwyddion o esblygiad galaeth. Mae ein canfyddiadau'n dangos mai'r rheswm dros yr esblygiad hwn yw bod galaethau'n arfer cynnwys mwy o lwch a nwy yn y gorffennol, a bod y bydysawd yn raddol yn dod yn lanach wrth i'r llwch gael ei ddefnyddio."

Cyflwynodd yr Athro Haley Gomez, hefyd o'r Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth, ganfyddiadau'r tîm heddiw, 29 Mehefin, yn y Cyfarfod Seryddiaeth Cenedlaethol yn Nottingham. Ar ôl saith mlynedd o waith dadansoddi delweddau Telesgop Herschel, mae'r tîm o dros 100 o seryddwyr wedi cyhoeddi catalog mawr o ffynonellau'r pelydriad isgoch-bell yn y bydysawd dirgel hwn.

Mae arolwg y tîm o'r awyr, sef Arolwg Ardal Mawr Terahertz Astroffisegol Herschel (ATLAS Herschel), wedi datgelu manylion dros hanner miliwn o alaethau, llawer ohonynt wedi'u harsylwi fel ag yr oeddent dros 12 biliwn o flynyddoedd yn ôl, yn fuan ar ôl y glec fawr.

Mae'r tîm yn gobeithio y bydd y catalog digynsail hwn o ffynonellau, yn adnodd hanfodol ar gyfer seryddwyr sydd am ddeall hanes manwl galaethau a chosmos ehangach.

Dywedodd Dr Elizabeth Valiante, sy'n awdur blaenllaw o Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth Prifysgol Caerdydd: "Yr hyn sy'n gyffrous am ein harolwg yw ei fod yn cwmpasu bron holl hanes cosmig, o systemau ffurfio sêr treisgar a llawn llwch a nwy yn nechreuad y bydysawd, sef galaethau wrthi'n ffurfio yn eu hanfod, i'r systemau tawelach sydd i'w gweld heddiw."

Dywedodd cyd-arweinydd yr astudiaeth, Dr Loretta Dunne, o Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth Prifysgol Caerdydd: "Cyn Herschel, dim ond ychydig gannoedd o'r ffynonellau llychlyd yn y bydysawd pell y gwyddom amdanynt, a dim ond mewn du a gwyn yr oedd modd i ni eu 'gweld'. Gyda phum gwahanol hidlydd, mae Herschel yn caniatáu inni weld yn aml liw, ac mae lliw yr alaeth yn fodd o wybod eu pellteroedd a'u tymheredd. Bellach mae gennym hanner miliwn o alaethau y gallwn eu defnyddio i fapio sut mae sêr cudd wedi'u ffurfio yn y bydysawd."

Ariannwyd y prosiect ar y cyd gan y Cyngor Cyfleusterau Gwyddoniaeth a Thechnoleg, 7fed Rhaglen Fframwaith yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer Ymchwil a Datblygu Technolegol, a'r Cyngor Ymchwil Ewropeaidd.

Rhannu’r stori hon