Ewch i’r prif gynnwys

Syr David Attenborough yn traddodi darlith ragorol

20 Medi 2013

Attenborough

Llwyddodd Syr David Attenborough, y mae ei waith wedi cwmpasu dros 60 o flynyddoedd, i ysbrydoli cynulleidfa o dros 1000 o bobl yr wythnos hon gyda'i gipolygon personol i rai o'r teuluoedd adar mwyaf dirgel, godidog a lliwgar.

Roedd y naturiaethwr, y gwneuthurwr ffilmiau a'r darlledwr amlwg yn dathlu gwaith y naturiaethwr o Gymru, Alfred Russell Wallace. Aeth â'r gynulleidfa ar daith i ddatgelu mordaith Wallace i Ynysfor  Malay a'i arsylliadau arloesol o adar paradwys.

Mae ei ddarlith yn nodi dechrau cyfres o ddigwyddiadau'r Brifysgol i nodi canmlwyddiant marwolaeth Wallace ym 1913, sy'n cynnwys cyfres o Ddarlithoedd Cyhoeddus rhad ac am ddim, a drefnir gan yr Ysgol Gwyddorau Daear a'r Amgylchedd.

Sefydlwyd Cyfres Darlithoedd Nodedig Hadyn Ellis er cof am yr Athro Hadyn Ellis CBE, a wnaeth gyfraniad pwysig at sefydlu'r ddisgyblaeth niwroseiciatreg wybyddol, ac a fu â rhan allweddol yn sefydlu Caerdydd fel un o brifysgolion ymchwil mwyaf blaenllaw y DU. Mae siaradwyr blaenorol wedi cynnwys y Farwnes Helena Kennedy, Yr Arglwydd David Puttnam, Jonathan Porrit, Mary Robinson a Syr Ranulph Fiennes.

Cefnogwyd darlith Hadyn Ellis eleni yn garedig gan Sefydliad Waterloo.

Bydd yr holl dderbyniadau o werthiannau tocynnau yn mynd tuag at greu Gwobr Deithio Alfred Russell Wallace i helpu cefnogi'r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr daear sy'n astudio ym Mhrifysgol Caerdydd

Nodiadau gweledol o'r darlith

Llyfryn Cofrodd - Syr David Attenborough: Wallace a'r Adar Paradwys

Rhannu’r stori hon