Ewch i’r prif gynnwys

Hyfforddiant hanfodol y Brifysgol yn diwallu'r angen brys yn neheubarth Affrica

25 Mai 2016

Phoenix project

Mae'r Brifysgol yn trefnu'r gynhadledd gyntaf o'i math a allai arbed bywydau yn neheubarth Affrica drwy gynnig hyfforddiant pwysig i feddygon a nyrsys o'r rhanbarth.

Bydd chwe uwch-anaesthetydd o Gymru yn rhoi hyfforddiant ac addysg am reoli llwybrau anadlu i 60 o feddygon a nyrsys o Namibia, Simbabwe, Angola a Botswana. Mae'r sgil hwn yn hanfodol mewn gofal acíwt.

Cynhelir cynhadledd Profiad Rheoli Llwybrau Anadlu Namibia rhwng 7 a 9 Mehefin ym mhrifddinas y wlad, Windhoek. Dyma'r gynhadledd gyntaf i gael ei chynnal yn y rhanbarth y tu allan i Dde Affrica.

Prosiect Phoenix y Brifysgol sydd wedi trefnu'r hyfforddiant hwn. Prosiect ymgysylltu yw hwn sy'n gweithio gyda Phrifysgol Namibia (UNAM) ar amrywiaeth o weithgareddau sy'n cynnwys addysg, iechyd a gwyddoniaeth.

Dywedodd yr Athro Judith Hall, Athro Anaestheteg a Gofal Dwys ym Mhrifysgol Caerdydd ac arweinydd prosiect, bod gwir angen y math hwn o hyfforddiant yn neheubarth Affrica ac y gallai arbed llawer o fywydau.

"Mae cleifion yn marw o ganlyniad i beidio â rheoli eu llwybrau anadlu'n gywir," meddai.

"Pan mae anaesthetydd yn rhoi rhywun i gysgu, mae angen ocsigen ychwanegol arno; os na chaiff yr ocsigen ei roi drwy gefnogi'r anadlu, mae ymennydd y claf yn cael ei amddifadu o ocsigen, a gall farw. Gall hyn ddigwydd mewn cyn lleied â thair munud.

"Dylai neb farw o ganlyniad i feddygon yn methu rhoi digon o ocsigen i'w cleifion. Ar hyn o bryd, nid oes digon o arbenigedd yn y maes hwn.

"Dyma gyfle gwych i rannu arferion gorau â'r rhai sydd â llai o brofiad. Mae hefyd yn gyfle i'r rhai mwy profiadol i gael gwybod am y technegau a'r syniadau diweddaraf."

Mae rheoli llwybrau anadlu yn sgil hanfodol i anaesthetyddion. Yn y DU, maent fel arfer yn cael saith neu wyth mlynedd o hyfforddiant arbenigol. Dim ond ychydig wythnosau neu fisoedd o hyfforddiant anaethesia y bydd llawer o'r meddygon o ddeheubarth Affrica sy'n mynd i'r gynhadledd wedi'i gael.

Er enghraifft, er bod Namibia'n wlad ddaearyddol enfawr, â thros ddwy filiwn o bobl yn byw ynddi, dim ond llond llaw o anaesthetegyddion a meddygon gofal critigol cymwys sydd ganddi.

Bydd arbenigwyr llwybrau anadlu o Fotswana, Simbabwe, De Affrica a Namibia ei hun yn ymuno â'r anaesthetyddion o Gymru, a gefnogir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cam Taf.

Mae Dr Bernard Haufiki, Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Namibia, hefyd yn cefnogi'r gynhadledd fydd yn cynnwys arddangosiadau ymarferol, sgyrsiau a thrafodaethau am achosion.

Mae Prosiect Phoenix yn cydweithio'n agos iawn ag UNAM ar hyn o bryd yn paratoi cwrs Meistr ôl-raddedig cyntaf Namibia i fynd i'r afael â phrinder yr anaesthetyddion cymwys.

Disgwylir i'r cwrs Meistr, sy'n bedair neu bum mlynedd o hyd, ddechrau nes ymlaen eleni.

Mae Prosiect Phoenix y Brifysgol yn cydweithio â Llywodraeth Cymru ac UNAM mewn llu o weithgareddau eraill hefyd sy'n cynnwys addysg, iechyd a gwyddoniaeth.

Mae gan staff o dri Choleg y Brifysgol rôl uniongyrchol, yn ogystal â staff gwasanaethau proffesiynol mewn meysydd fel Llyfrgelloedd ac Adnoddau Dynol.

Bydd rhai o aelodau staff eraill y Brifysgol hefyd yn teithio i Namibia ddiwedd mis Mai a dechrau mis Mehefin fel rhan o'r prosiect. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Grace Thomas, Pennaeth Bydwreigiaeth Broffesiynol a Bydwraig Arweiniol Addysg, a'i chydweithwraig Sarah Davies. Mae'r ddwy ohonynt yn gweithio yn Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd ac maent yn cynnal hyfforddiant efelychu bydwreigiaeth.
  • Mae Dr Mark Kelson o'r Ysgol Meddygaeth yn cynnal clinigau ystadegau ar gyfer staff a myfyrwyr ôl-raddedig, a bydd hefyd yn gweithio gyda Dr Zoe Prytherch o Ysgol y Biowyddorau.
  • Mae Dr Andrew Freedman o'r Ysgol Meddygaeth yn hyfforddi mewn gweithdrefnau clinigol wrth erchwyn y gwely, a bydd yr Athro Timothy Walsh, sy'n arbenigo mewn ymwrthedd gwrthficrobaidd, yn Oshakati i asesu anghenion presennol.
  • Mae academyddion o Brifysgol Caerdydd yn asesu gofynion UNAM ar gyfer ieithoedd modern ac ym maes y gwyddorau cymdeithasol.

Prosiect Phoenix yw un o brosiectau ymgysylltu blaenllaw Prifysgol Caerdydd, neu'r Rhaglen Trawsnewid Cymunedau. Mae'n gweithio gyda chymunedau yng Nghaerdydd, Cymru a thu hwnt ym meysydd iechyd, addysg a lles ymhlith eraill.

Rhannu’r stori hon