Ewch i’r prif gynnwys

Cydnabyddiaeth i ddisgyblion o Gymru mewn menter dysgu iaith

18 Mai 2016

globe

Cynhelir digwyddiad ym Mhrifysgol Caerdydd yr wythnos hon i gydnabod y garfan gyntaf o ddisgyblion ysgol i elwa ar fenter gan Lywodraeth Cymru i'w hannog i ddysgu iaith fodern.

Cafodd Cynllun Mentora Myfyrwyr Ieithoedd Tramor Modern ei lansio fis Rhagfyr 2015 i fynd i'r afael â'r 'dirywiad difrifol' yn nifer y disgyblion yng Nghymru sy'n astudio ieithoedd modern.

Bydd y digwyddiad, a gynhelir ar 19 Mai, yn gyfle i wobrwyo disgyblion o dde-ddwyrain a chanol de Cymru sydd wedi cymryd rhan yn y cynllun, a rhoi cipolwg iddynt ar fywyd mewn brifysgol.

Bydd tua 150 o ddisgyblion yn cael tystysgrifau am gymryd rhan ac yn cael eu tywys o amgylch yr Ysgol Ieithoedd Modern. Byddant hefyd yn cymryd rhan mewn sesiynau rhagflas mewn Japaneeg a Phortiwgaleg, dwy o'r ieithoedd a gynigir yng Nghaerdydd.

Drwy'r cynllun mentora hwn, sy'n rhan o strategaeth Dyfodol Byd-eang Llywodraeth Cymru, mae adrannau iaith prifysgolion Caerdydd, Abertawe, Bangor ac Aberystwyth wedi dod ynghyd i hyfforddi israddedigion i fod yn fentoriaid i ddisgyblion mewn ysgolion uwchradd lleol.

Ar ôl ei lansio y llynedd, gofynnwyd i gydlynwyr ieithoedd modern mewn ysgolion ddewis disgyblion ym Mlynyddoedd 8 a 9 a fyddai'n gallu elwa ar y cynllun mentora yn eu barn nhw. Mewn rhai achosion, cafodd disgyblion o gefndiroedd difreintiedig y cyfle i gymryd rhan, tra bod disgyblion oedd heb benderfynu eu pynciau TGAU neu'n ansicr ynghylch ieithoedd wedi cael eu mewn ysgolion eraill.

Ym mhob achos, mae'r disgyblion a gymerodd ran wedi mynychu sesiynau gyda'u mentoriaid israddedig oedd yn tynnu sylw at fanteision dysgu ieithoedd modern a'r cyfleoedd y maent yn eu cynnig mewn gyrfaoedd.

Mae'r dystiolaeth gan fentoriaid a disgyblion hyd yma yn awgrymu bod y disgyblion yn cael profiad hynod gadarnhaol a'u bod yn fwy awyddus i astudio ieithoedd ar lefel TGAU.

Mae'r cynllun yn adeiladu ar waith presennol a wneir rhwng prifysgolion ac ysgolion yng Nghymru, gan gynnwys rhaglen Llwybrau at Ieithoedd Cymru, lle mae prifysgolion yn cymryd rhan mewn rhaglenni allgymorth gyda disgyblion mewn ysgolion cynradd ac uwchradd lleol.

Yn ogystal â chreu cysylltiadau cynaliadwy rhwng adrannau ieithoedd tramor modern mewn addysg uwch ac ysgolion uwchradd, bydd y cynllun yn cynnig profiadau a chyfleoedd cyflogadwyedd i israddedigion ieithoedd modern.

Dywedodd yr Athro Claire Gorrara, Pennaeth Ysgol Ieithoedd Modern Prifysgol Caerdydd ac arweinydd academaidd y prosiect: "Drwy'r prosiect hwn, mae'r ysgolion a'r disgyblion sy'n cymryd rhan yn cael cyfle gwych i weithio gyda ieithwyr talentog o'r Brifysgol sy'n dangos y manteision clir sy'n gysylltiedig ag astudio iaith."

Rhannu’r stori hon