Ewch i’r prif gynnwys

Brwydr Coedwig Mametz

16 Mai 2016

Battle of the Somme

Bydd digwyddiad cyhoeddus i gofio canmlwyddiant un o’r brwydrau mwyaf gwaedlyd a ymladdwyd gan filwyr o Gymru yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf yn cael ei gynnal yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ddydd Sadwrn 21 Mai.

Bydd Coedwig Mametz, Barddoniaeth a Chân, a drefnwyd gan Brifysgol Caerdydd mewn cydweithrediad ag Opera Cenedlaethol Cymru, yn coffáu’r frwydr trwy archwilio gwrthdaro a chreadigrwydd y Rhyfel Byd Cyntaf.

Bydd y digwyddiad yn cynnwys sgyrsiau gan arbenigwyr o’r Brifysgol, cyfle i glywed gan Iain Bell, sef cyfansoddwr yr opera In Parenthesis sydd newydd gael ei gomisiynu gan Opera Cenedlaethol Cymru, a pherfformiad caneuon nas clywir yn aml o adeg y rhyfel.

Bydd ymchwilwyr blaenllaw o Ysgolion Cerddoriaeth, Cymraeg, a Hanes, Archaeoleg a Chrefydd y Brifysgol yn ymchwilio i ymatebion Cymru i’r Rhyfel Mawr, gyda sgyrsiau’n archwilio Brwydr Coedwig Mametz o safbwynt Cymru, y farddoniaeth a’r caneuon y’u hysbrydolodd, yn ogystal â materion yn ymwneud â chof a heddychiaeth:

  • Coedwig Mametz mewn Cof a Hanes (Dr Toby Thacker)
  • Sosban Fach a’r Ffosydd (yr Athro Sioned Davies)
  • Gwrthwynebiad i'r Rhyfel Mawr yng Nghymru (Aled Eirug, myfyriwr PhD)
  • Barddoniaeth Gymraeg Grangetown yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf (Dr Dylan Foster Evans)
  • Ymgyrchoedd Cerddorol y Cyfansoddwyr o Gymru Ivor Novello a Clara Novello Davies yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf (Dr Rachelle Barlow)

Bydd y mezzo-soprano Siân Cameron yn dod â’r diwrnod i ben drwy berfformio caneuon rhyfel a gyfansoddwyd gan Ivor Novello, Clara Novello Davies ac eraill.

Y digwyddiad hwn yw'r cyntaf mewn cyfres yn archwilio cynrychioliadau o'r Rhyfel Mawr mewn hanes, cerddoriaeth, llenyddiaeth a diwylliannau gweledol. Mae Coffáu’r Rhyfel Byd Cyntaf: Gwrthdaro a Chreadigrwydd yn cael ei drefnu gan Ganolfan Prifysgol Caerdydd ar gyfer Ymchwil Ryngddisgyblaethol mewn Opera a Drama (CIRO) ac fe’i hariennir gan Gymrodoriaeth Ymgysylltu Diwylliannol gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau (AHRC).

Bydd digwyddiadau yn y dyfodol yn cynnwys gweithdy cyhoeddus #MappingGrangetown (4 Mehefin), cyfres o ddarlithoedd amser cinio yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, symposiwm rhyngwladol ar greu artistig yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf (11-12 Tachwedd), a dangos y ffilm fud o 1916 Battle of the Somme gyda chyfeiliant byw gan Gerddorfa Symffoni Prifysgol Caerdydd ar Sul y Cofio (13 Tachwedd).

Dywedodd Dr Rachelle Barlow, Cymrawd Ymgysylltu Diwylliannol yn Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Caerdydd: "Mae'r gyfres hon yn gyfle ardderchog i ni ymgysylltu â chynulleidfaoedd newydd trwy ein hymchwil a ffurfio rhan unigryw o ddigwyddiadau parhaus ar draws y Deyrnas Unedig i goffáu’r Rhyfel Byd Cyntaf.

"Mae coffáu rhyfel mewn llenyddiaeth a'r celfyddydau yn bwnc amrywiol iawn sy’n codi llawer o gwestiynau diddorol: Pwy sy’n ffurfio naratifau hanes? Sut maen nhw’n cael eu dehongli gan wahanol gynulleidfaoedd? A yw’r Rhyfel Byd Cyntaf yn cael ei gofio’n wahanol yng Nghymru o gymharu â rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig? Sut mae’r ymateb yn y Deyrnas Unedig yn wahanol i hwnnw mewn rhannau o gyfandir Ewrop? Rydym ni’n edrych ymlaen at archwilio’r atebion i'r cwestiynau hyn a llawer mwy drwy gydol ein cyfres."

Mae mynediad i Coedwig Mametz, Barddoniaeth a Chân yn rhad ac am ddim ond hyn a hyn o leoedd sydd ar gael. Gellir archebu tocynnau trwy mametzwoodstudyday.eventbrite.co.uk

Rhannu’r stori hon