Meddalwedd genomeg newydd yn rhoi hwb i ymchwil canser
26 Mehefin 2025

Bydd offeryn newydd – y gellir ei gymharu â Google Earth ar gyfer genomeg – yn trawsnewid sut mae gwyddonwyr yn delweddu ac yn dadansoddi data genomig, gan roi hwb i dechnegau ym maes ymchwil canser.
Cafodd Genome-Wide (GW) ei gyhoeddi gan Dr Kez Cleal, Darlithydd Biowybodeg Canser yn yr Ysgol Meddygaeth. Dyma feddalwedd newydd â gallu prosesu sydd 100 gwaith yn gyflymach nag unrhyw offer sydd ar gael ar hyn o bryd, a fydd yn galluogi ymchwilwyr i weld setiau data enfawr yn gyflymach nag erioed o’r blaen.
Dywedodd Dr Cleal: “Mae'r datblygiad arloesol hwn yn arbennig o bwysig ym maes ymchwil canser, lle mae deall newidiadau strwythurol mawr yn y genom yn allweddol i ddatgloi'r mecanweithiau sy’n sail i'r clefyd."
Gyda GW, rydyn ni’n gallu delweddu newidiadau ar raddfa genom mewn ffordd ddeinamig, sy’n rhoi’r gallu i ni ystyried a deall strwythurau genetig cymhleth mewn ffyrdd nad oedd yn bosibl o’r blaen. Bydd hyn yn arwain at ymchwil canser fwy effeithlon, sy’n ein helpu i nodi’n gyflym unrhyw newidiadau genetig o ddiddordeb yn y genom canser.
Mae porwyr genomau presennol yn amhrisiadwy ar gyfer ymchwilio i newidiadau genetig, ond nid ydyn nhw mor gyflym â fframweithiau a llyfrgelloedd perfformiad uchel. Mae’r offer sydd ar gael ar hyn o bryd yn cael trafferth delweddu rhanbarthau genomig mawr, sy’n hanfodol i ddeall ad-drefnu genetig cymhleth.
Mae GW yn ei gwneud hi’n bosibl arsylwi newidiadau genetig mewn amser real, gan gyflymu tasgau ymchwil hanfodol.
Mae tîm Dr Cleal bellach yn canolbwyntio ar ddatblygu offer diagnostig i helpu i nodi a chategoreiddio cleifion â strwythurau genomig annormal ac ymchwilio i'r mecanweithiau biolegol sy'n achosi’r newidiadau hyn. Nod y tîm yn y pen draw yw ystyried ffyrdd newydd o dargedu'r prosesau hyn at ddibenion trin canser.
“Mae deall y newidiadau genetig sy’n achosi canser yn hanfodol i nodi ffyrdd newydd o wneud diagnosis o ganser, nodi risgiau a dod o hyd i driniaethau ar gyfer y dyfodol. Ychwanegodd Dr Cleal: “Mae GW yn gam ymlaen o ran offer sy’n gallu helpu ymchwilwyr i ddeall geneteg canser yn well.”
Cafodd y papur ‘GW: ultra-fast chromosome-scale visualisation of genomics data’ ei gyhoeddi yn Nature Methods a’i ariannu gan Ganolfan Ymchwil Canser Cymru, ac fe’i hariannwyd gan Ymchwil Canser y DU a Chanolfan Ymchwil Canser Cymru.