Ewch i’r prif gynnwys

Mae gwyddonwyr yn cyfrifo faint o weips wlyb sy'n mynd i mewn i ddyfroedd y DU fesul person

19 Mehefin 2025

Llaw yn tynnu cadach gwlyb allan o'r pecyn

Yn ôl model mathemategol newydd, mae cymaint â 100kg o weips gwlyb yn mynd i rannau isaf afon Taf bob blwyddyn.

Mae gwyddonwyr o Brifysgol Caerdydd wedi datblygu'r model cynhwysfawr cyntaf sy’n cyfrifo allyriadau weips gwlyb i afonydd a nifer y ffibrau naturiol, ffibrau atgynyrchiedig a ffibrau plastig y pen sy'n mynd i afonydd bob blwyddyn.

Drwy gyfuno'r data sydd ar gael ar waredu weips gwlyb drwy eu fflysio a sut maen nhw’n cynhyrchu microffibrau â modelau mathemategol sy'n canolbwyntio ar allyriadau, mae tîm ymchwil Prifysgol Caerdydd yn amcangyfrif bod rhan is o afon Taf yn derbyn 100kg o weips gwlyb solet bob blwyddyn.

Mae'r tîm ymchwil hefyd wedi amcangyfrif nifer y microffibrau sy’n mynd i’r afonydd yn nalgylch Taf Isaf bob blwyddyn ar gyfartaledd:

  • 11,912 gram (6.5 biliwn o ffibrau) o ffibrau naturiol y flwyddyn
  • 1,531 gram (42.6 miliwn o ffibrau) o ffibrau atgynyrchiedig y flwyddyn
  • 2,670 gram (7.8 miliwn o ffibrau) o ffibrau plastig y flwyddyn

Dywedodd Thomas Allison, ymchwilydd PhD yn Sefydliad Ymchwil Dŵr Prifysgol Caerdydd: “Mae weips gwlyb sy’n cael eu fflysio’n peri risg sylweddol o ran llygredd i systemau afonydd, boed drwy gael effaith ar y system neu ansawdd y dŵr neu drwy gyflwyno microblastigion i'r amgylchedd.

“Fodd bynnag, mae'r cysylltiad rhwng eu hallyriadau a halogi amgylcheddol yn aneglur o hyd. Aethon ni ati i gyfuno modelau sy’n canolbwyntio ar allyriadau â’r data presennol ar waredu weips gwlyb a chynhyrchu microffibrau er mwyn rhagweld nifer yr allyriadau sy'n mynd i systemau afonydd, gan gynnwys y llwybrau cludo sydd dan sylw.

Tom Allison
Er bod llawer iawn o bobl yn gwybod na ddylen nhw fflysio weips gwlyb, mae gwaredu amhriodol yn parhau o hyd. Mae angen i ni asesu'n drylwyr y risgiau amgylcheddol y mae’r weips hyn yn eu peri. I wneud hynny, mae angen i ni wybod faint sy'n debygol o fynd i systemau afonydd.
Tom Allison Ymgeisydd PhD

Mae'r tîm ymchwil o Ysgol y Biowyddorau, yr Ysgol Cemeg a'r Ysgol Peirianneg ym Mhrifysgol Caerdydd wedi datblygu'r model cynhwysfawr cyntaf i amcangyfrif yn fanwl gywir allyriadau weips gwlyb i afonydd drwy gyfuno data sydd ar gael ar waredu weips gwlyb drwy eu fflysio a sut maen nhw’n cynhyrchu microffibrau â modelau mathemategol sy'n canolbwyntio ar allyriadau.

Datblygodd yr ymchwilwyr fodel y weips gwlyb drwy gyfuno modelau o allyriadau microblastig â modelau arbrofol o sut mae weips gwlyb yn cynhyrchu microffibrau mewn systemau dŵr gwastraff. Nod y model mathemategol newydd yw mapio taith gyfan weips gwlyb wedi'u fflysio o systemau dŵr gwastraff i afonydd, nodi’r prif ffyrdd y mae weips gwlyb sydd wedi'u fflysio’n cyrraedd afonydd, amcangyfrif allyriadau weips gwlyb ledled afonydd y DU a'r UE a chyd-destunoli effaith llygredd weips gwlyb drwy gymharu eu hallyriadau yn yr afon â microffibrau ar ôl golchi dillad.

Er bod bron i 99% o weips gwlyb solet yn cael eu cludo i weithfeydd trin dŵr gwastraff a’u cyfeirio wedyn at safleoedd tirlenwi a chyfleusterau eraill, canfu'r ymchwilwyr fod weips gwlyb yn mynd i systemau dŵr o hyd.

Yn y model, dangoswyd bod allyriadau weips gwlyb i systemau dŵr gwastraff yn y DU yn sylweddol. Weips plastig sy’n gyfrifol am y rhan fwyaf o’r allyriadau solet, ac mae unigolion yn cyfrannu cyfartaledd amcangyfrifedig o 33 o weips plastig bob blwyddyn, o’u cymharu â 4 weip seliwlosig (dewis eco-gyfeillgar a chynaliadwy yn lle weips traddodiadol).

Cyfrifwyd bod un person yn ychwanegu 268,520 o ffibrau naturiol, 1,668 o ffibrau atgynyrchiedig a 323 o ffibrau plastig at systemau dŵr bob blwyddyn yn y DU ar gyfartaledd.

Benjamin Ward
Ar gyfer afon o’r un faint ag afon Taf, mae hyn yn golygu bod 7,054kg o weipiau plastig a 784kg o weipiau seliwlosig yn mynd i systemau dŵr gwastraff, sy’n sylweddol. Mae hyn yn cyfateb i oddeutu 1.5 miliwn o weips plastig a 165,000 o weips seliwlosig yn cael eu fflysio'n flynyddol,
Dr Benjamin Ward Darllenydd mewn Cemeg Anorganig

Nododd y model newydd naw ffordd y gall allyriadau (weips gwlyb solet a microffibrau fel ei gilydd) gael eu cludo, megis drwy ddŵr gwastraff i weithfeydd trin, dŵr ffo i afonydd, toiledau sydd wedi’u cysylltu’n anghywir i afonydd a charthffosydd sy’n gorflifo i afonydd.

Michael Harbottle
Yn aml, bydd achosion o gysylltu toiledau neu offer cegin yn anghywir yn cael eu hanwybyddu o ran bod yn ffyrdd o gludo llygryddion, ond mae ein canfyddiadau’n dangos efallai eu bod yn cyfrannu hyd at 16% o’r holl weips gwlyb solet i afonydd.
Dr Michael Harbottle Cyfarwyddwr Recriwtio a Derbyn

Mae’r canfyddiadau hefyd yn tynnu sylw at y risgiau amgylcheddol posibl y mae weips solet a'u microffibrau’n eu peri mewn systemau afonydd. Mae angen gwneud rhagor o waith i fireinio ein hamcangyfrifon, ond yn y cyfamser, mae’r gwaith hwn yn dangos bod gwir angen datblygu strategaethau wedi'u targedu i liniaru llygredd weips gwlyb yn ein systemau dŵr.
Athro Isabelle Durance, Cyfarwyddwr y Sefydliad Ymchwil Dŵr ym Mhrifysgol Caerdydd

Cyhoeddwyd yr ymchwil, ‘Predicting wet wipe emissions into rivers’, yng nghyfnodolyn Water Research.