Ewch i’r prif gynnwys

Mae Cyngor Ymchwil Ewrop yn cefnogi prosiect dan arweiniad Prifysgol Caerdydd ar Ddyfodol Naturiol Hinsawdd y Ddaear

18 Mehefin 2025

The European Research Council logo

Enwyd gwyddonydd o Brifysgol Caerdydd ymhlith enillwyr un o gynlluniau ariannu mwyaf nodedig a chystadleuol yr UE.

Mae'r Athro Stephen Barker yn ymuno ag 280 o ymchwilwyr blaenllaw ledled Ewrop sydd wedi ennill cystadleuaeth Grantiau Uwch Cyngor Ymchwil Ewrop (ERC).

Mae'r cyllid, gwerth cyfanswm o €721 miliwn ac yn rhan o raglen Horizon Europe yr UE, yn rhoi’r cyfle i uwch-ymchwilwyr fynd ar drywydd prosiectau uchelgeisiol a symbylir gan chwilfrydedd ac a allai arwain at ddatblygiadau gwyddonol arloesol o bwys.

Bydd prosiect yr Athro Barker, ‘Predicting the Natural Future of Earth’s Climate (NatClim)’, ar waith am 5 mlynedd, gan greu'r rhagfynegiadau meintiol cyntaf o hinsawdd y dyfodol, a hynny er mwyn diffinio'r gwaelodlin naturiol yn ystod yr ychydig o filoedd o flynyddoedd nesaf.

Dyma’r hyn a ddywedodd: “Mae dyfodol hinsawdd y Ddaear yn peri pryder rhyngwladol. Serch hynny, mae'r modelau rydyn ni'n dibynnu arnyn nhw i ragfynegi'r dyfodol yn parhau heb eu graddnodi yn unol â gwaelodlin naturiol gan na ddiffiniwyd y gwaelodlin hwnnw hyd yn hyn.

“Bydd NatClim yn mynd i'r afael â'r bwlch hwn drwy ddatblygu rhagfynegiadau sy'n seiliedig ar dystiolaeth am esblygiad naturiol hinsawdd y dyfodol sy’n dechrau heddiw ac yn mynd ymlaen tan y cyfnod pontio rhewlifol amcangyfrifedig nesaf, sef tua 10,000-20,000 o flynyddoedd o heddiw.

“Ar y cyd ag arbrofion model hinsawdd o'r radd flaenaf, bydd hyn yn caniatáu inni gyflwyno'r asesiad meintiol cyntaf o effeithiau absoliwt gweithgarwch dynol dros y miloedd o flynyddoedd nesaf.”

Bydd NatClim yn cael ei arwain gan yr Athro Barker yn Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a'r Amgylchedd ynghyd â thîm o arbenigwyr gan gynnwys yr Athro Caroline Lear a chefnogaeth grŵp o Ymchwilwyr ar Ddechrau eu Gyrfa a myfyrwyr PhD a fydd yn ennill profiad amhrisiadwy ac amlddisgyblaethol ar hyd lled ymchwil ar systemau hinsawdd. Mae'r prosiect hefyd yn cynnwys modelwyr hinsawdd arbenigol yn Sefydliad Alfred Wegener yn yr Almaen.

Yn dilyn ein canlyniadau, bydd gennym feincnod a sylfaen arloesol y gellir cyfrifo costau economaidd-gymdeithasol llawn newid hinsawdd o waith dyn yn unol â hi yn ogystal â sail i wneud penderfyniadau polisi byd-eang ar yr hinsawdd yn y dyfodol. Dyma gyfnod hynod o gyffrous!

Yr Athro Stephen Barker Athro mewn Gwyddor y Ddaear

Cafwyd 2,534 o gynigion yng nghystadleuaeth Grantiau Uwch 2024 yr ERC, a chafodd y rhain eu hadolygu gan baneli o ymchwilwyr rhyngwladol o fri. Dim ond un ar ddeg y cant o'r cynigion a ddewiswyd i dderbyn cyllid. Dengys amcangyfrifon y bydd y grantiau yn creu tua 2,700 o swyddi yn nhimau’r ymchwilwyr sydd wedi derbyn grant am y tro cyntaf.

Dyma a ddywedodd yr Athro Jennifer Pike o Ysgol y Gwyddorau Daear a’r Amgylchedd ym Mhrifysgol Caerdydd: “Mae ennill cyllid yr ERC yn dyst i fri Steve yn y gymuned ymchwil ryngwladol.”

Mae NatClim yn ehangu ar ei ymchwil hyd yma, gan ddangos yn fwyaf diweddar bod modd cyfrifo a rhagfynegi amrywioldeb yr hinsawdd naturiol yn unol â graddfeydd amser y Ddaear. Roedd papur olaf Steve ar y pwnc hwn yn canolbwyntio'n bennaf ar y gorffennol; diben NatClim yw edrych tua’r dyfodol. Yn hyn o beth, bydd yn ymgorffori'n llawn y wireb mai’r gorffennol yw allwedd y dyfodol.

Yr Athro Jennifer Pike Pennaeth yr Ysgol
Darllenydd

“Llongyfarchiadau mawr iawn i Steve ar ran pawb yn yr Ysgol ar sicrhau cyllid gan yr ERC i ddilyn y prosiect uchelgeisiol hwn - camp aruthrol ar y naw.”