Prifysgol Caerdydd yn codi sawl lle yn Rhestr QS o Brifysgolion Gorau’r Byd
19 Mehefin 2025

Mae Prifysgol Caerdydd wedi codi pum lle yn Rhestr QS o Brifysgolion Gorau’r Byd. Mae bellach yn safle 181.
Mae hyn yn ailgadarnhau statws y Brifysgol yn sefydliad addysgu ac ymchwilio blaenllaw drwy’r byd.
Mae Rhestr QS o Brifysgolion Gorau’r Byd ymhlith y gwerthusiadau annibynnol y mae pobl yn cyfeirio atyn nhw fwyaf o’r 1,500 prifysgol orau yn y byd.
Mae’n seiliedig ar farn 175,000 o staff academaidd a 105,000 o gyflogwyr, gan gynnwys data ar ddosbarthiad a pherfformiad 17 miliwn o bapurau ymchwil.
Mae naw mesur, sy’n cynnwys Enw Da Academaidd, Cynaliadwyedd a Nifer y Cyfeiriadau, yn cael eu defnyddio i restru sefydliadau.
Mae Prifysgol Caerdydd yn safle 26 o’i chymharu â’r 90 sefydliad yn y DU sydd wedi’u cynnwys yn y tabl eleni. Mae’r Brifysgol wedi gwella mewn meysydd sy’n cynnwys y Rhwydwaith Ymchwil Ryngwladol, y Gymhareb Staff-Myfyrwyr a Chanlyniadau Cyflogaeth.
Daw’r newyddion wythnos ar ôl i Brifysgol Caerdydd godi sawl lle yn Complete University Guide, lle mae ymhlith y 25 prifysgol orau yn y DU.
Dywedodd yr Is-ganghellor, yr Athro Wendy Larner: “Mae'n galonogol iawn gweld Prifysgol Caerdydd yn codi sawl lle yn Rhestr QS o Brifysgolion Gorau’r Byd. Mae'n adlewyrchu ymroddiad ac arbenigedd cymuned gyfan y Brifysgol.”

Rydyn ni’n gwybod bod Prifysgol Caerdydd yn rhywle i ddarganfod a chael effaith, sy’n cynnig profiadau dysgu bywiog ac yn defnyddio dulliau addysgu sydd wedi’u sicrhau at y dyfodol. Mae codi sawl lle mewn tabl cynghrair mor amlwg yn cadarnhau hyn ac yn gwella ein statws yn sefydliad addysg ac ymchwil o’r radd flaenaf.
“Mae hyn, a'r ffaith ein bod wedi codi sawl lle yn Complete University Guide yn ddiweddar, yn newyddion da i’n staff, ein myfyrwyr a’n cyn-fyfyrwyr drwy helpu i wella enw da’r Brifysgol a’u henw da nhw eu hunain yn y farchnad fyd-eang.”
Rhannu’r stori hon
Dewch i edrych o gwmpas ein campws, cwrdd â myfyrwyr a staff, a chael blas ar sut beth yw astudio a byw yng Nghaerdydd.