Ewch i’r prif gynnwys

Buddsoddiad $ 140 miliwn mewn therapïau newydd i drin anhwylderau niwroseiciatrig

18 Mehefin 2025

Y Brifathro John Atack a'r Brifathro Simon Ward yn y lab

Mae cwmni deillio o Brifysgol Caerdydd, Draig Therapeutics, wedi rhoi ymchwil Cymru wrth galon therapïau newydd arloesol i drin anhwylderau niwroseiciatrig, a hynny’n rhan o fuddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd.

Caiff y cwmni deillio newydd ei lansio’n gwmni clinigol â buddsoddiad gwerth $140 Miliwn (£107 Miliwn) gan fuddsoddwyr menter rhyngwladol blaenllaw, a hynny i hyrwyddo'r gwaith o ddatblygu therapïau newydd i drin anhwylderau niwroseiciatrig sylweddol megis anhwylder iselder difrifol. Dyma'r buddsoddiad masnachol mwyaf sylweddol mewn ymchwil yng Nghymru hyd yn hyn.

Bydd y cwmni newydd, sy’n seiliedig ar ymchwil ac arbenigedd yr Athro John Atack a'r Athro Simon Ward, o Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau Prifysgol Caerdydd, yn troi'r ymchwil ddiweddaraf yn driniaethau newydd i drin cyflyrau niwroseiciatrig.

Bydd Draig Therapeutics yn canolbwyntio ar brosesau allweddol yn yr ymennydd - y llwybrau Glwtamad a GABA - er mwyn datblygu opsiynau triniaeth newydd a mwy effeithiol.

Dywedodd yr Athro Simon Ward o Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau Prifysgol Caerdydd a Draig Therapeutics: “Mae gennyn ni arbenigedd gwyddonol unigryw mewn modiwleiddio’r llwybrau glwtamad craidd a llwybrau GABA yn yr ymennydd, sy’n chwarae rhan hollbwysig mewn anhwylderau niwroseiciatrig. Mae ein gwybodaeth am gydbwyso'r niwrodrosglwyddyddion cemegol yn yr ymennydd mewn cyflyrau niwroseiciatrig yn helpu Draig i greu triniaethau newydd."

Simon Ward
Drwy lansio Draig, gallwn ni brofi a datblygu'r triniaethau newydd hyn er mwyn eu rhoi ar waith yn glinigol a chael effaith wirioneddol ar fywydau cleifion ledled y byd.
Yr Athro Simon Ward Cyfarwyddwr, Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau

Cafodd Draig ei ffurfio trwy bartneriaeth rhwng Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau Prifysgol Caerdydd ac SV Health Investors a chafodd ei lansio yn 2024. Mae wedi'i leoli o fewn Arloesoedd Caerdydd yn sbarc|spark. Draig Therapeutics ei lansiwyd ar Fehefin 18, 2025, gydag Access Biotechnology yn arwain y buddsoddwyr ar y cyd â SV Health Investors ac ICG, gyda chyfranogiad gan Canaan Partners, SR One, Sanofi Ventures a Schroders Capital.

Dyma a ddywedodd Liam Ratcliffe, Pennaeth yn Access Biotechnoleg: "Er gwaethaf llu o driniaethau sydd ar gael i drin anhwylderau niwroseiciatrig, mae angen sylweddol heb ei ddiwallu o hyd ac mae llawer o gleifion yn parhau i brofi rhyddhad annigonol o’u symptomau yn ogystal â chyfraddau uchel o atglafychu. Mae gan ddull gwahaniaethol Draig, sy'n targedu’r mecanweithiau craidd sy'n sail i'r cyflyrau cymhleth hyn, y potensial i gynnig triniaeth arloesol go iawn i gleifion."

"Mae gwneud y moleciwlau gorau i ailgydbwyso rhwydweithiau'r ymennydd wedi bod yn waith bywyd John a Simon. Uchafbwynt proffesiynol i mi oedd bod yn rhan o greu'r cwmni hynod addawol hwn." ychwanegodd Ruth McKernan, cyd-sylfaenydd a Chadeirydd Gweithredol Draig.

Bydd y cronfeydd newydd yn galluogi Draig Therapeutics i ddatblygu ei brif gyffur, DT-101, yn nhreialon Cam 2 yn 2025 er mwyn trin Anhwylder Iselhaol Sylweddol. Bydd y cyllid hefyd yn galluogi Draig Therapeutics i hyrwyddo dau gyffur arall a’u datblygu’n glinigol yn 2026, gyda’r potensial i fod gyda’r gorau ar draws ystod o anhwylderau niwroseiciatrig.

Y buddsoddiad hwn yn Draig Therapeutics yw'r mwyaf i gwmni deillio ym Mhrifysgol Caerdydd ei dderbyn erioed a dyma lwyddiant eithriadol i Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau’r Brifysgol a bydd hyn yn cyflymu'n fawr y broses o gynnig therapiwteg y mae mawr ei hangen i gleifion.
Dr Rhodri Turner Rheolwr Ops Masnacheiddio Ymchwil

Lansiwyd y Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau ym Mhrifysgol Caerdydd yn 2017 yn sgil cyllid cefnogol Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy gynllun Sêr Cymru Llywodraeth Cymru, i droi'r ymchwil fiofeddygol ddiweddaraf yn therapïau newydd. Derbyniwyd buddsoddiad sylweddol hefyd gan Ymddiriedolaeth Wellcome, y Cyngor Ymchwil Feddygol, Medr (a elwid gynt yn Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru), a Sefydliad Wolfson.

Dyma a ddywedodd yr Athro Roger Whitaker, Rhag Is-Ganghellor Ymchwil, Arloesi a Menter Prifysgol Caerdydd: “Enghraifft ardderchog yw Draig Therapeutics o’r ffordd y mae byd ymchwil yn sbarduno twf yn sgil arloesi a masnacheiddio yn y byd go iawn. Mewn cydweithrediad â'r llywodraeth, y sector preifat a rhanddeiliaid eraill, edrychwn ymlaen at ddatblygu’r llwyddiant hwn ymhellach er mwyn cryfhau rôl ehangach y sector wrth greu mewnfuddsoddiad i Gymru."

Roger Whitaker
Mae troi ein hymchwil sylfaenol yn atebion arloesol i ymdrin â heriau byd-eang wrth galon popeth a wnawn. Ar y cyd â’r gefnogaeth i fyd arloesi, mae'n bwysig cofio pa mor bwysig yw Sêr Cymru a mathau penodol eraill o gyllid wrth greu newid sylweddol i Gymru. Gyda'n gilydd gallwn ni wneud llawer mwy.
Yr Athro Roger Whitaker Rhag Is-Ganghellor Ymchwil, Arloesi a Menter, Athro Deallusrwydd Cyfunol

Mae’r gamp hon yn enghraifft o’r effaith sylweddol y mae ymchwil rhagorol Caerdydd yn ei gael. Mae ein strategaeth gogyfer â 2035 yn ailgadarnhau’r uchelgais fyd-eang/dinesig ymhellach a'r partneru sy'n hollbwysig i Gymru a'r DU. Yn sgil ein strategaeth newydd, bydd y Brifysgol yn parhau i arloesi yn y dyfodol ar draws y portffolio er mwyn sicrhau manteision economaidd, cymdeithasol ac iechyd parhaus.
Athro Wendy Larner, Is-Ganghellor a Llywydd Prifysgol Caerdydd

Rhannu’r stori hon

Tanysgrifiwch i’n cylchlythyr i glywed y diweddaraf am newyddion ymchwil, digwyddiadau, blogiau a mwy, gan Brifysgol Caerdydd.