Ewch i’r prif gynnwys

Mae Prifysgol Caerdydd wedi dringo safleoedd Complete University Guide 2026

11 Mehefin 2025

Mae Prifysgol Caerdydd wedi dringo pum safle a hi yw’r brifysgol orau yng Nghymru o hyd, yn ôl rhestr ddiweddaraf Complete University Guide 2026.

Mae’r Complete University Guide, a gyhoeddir bob blwyddyn, yn helpu darpar fyfyrwyr i wneud dewisiadau gwybodus am eu dyfodol, gan gynnwys y rheini sy'n pwyso a mesur penderfyniadau hwyr neu'n ystyried opsiynau Clirio.

Mae'n rhestru prifysgolion y DU yn genedlaethol mewn 74 o feysydd pynciol gwahanol, gan ddefnyddio ystod o fesurau gwahanol gan gynnwys profiad y myfyrwyr a pherfformiad academaidd. Mae'n cynnwys 130 o sefydliadau.

Mae canllaw 2026 yn gosod Prifysgol Caerdydd yn yr 22ain safle yn y DU yn seiliedig ar ddeg mesur: safonau mynediad, boddhad y myfyrwyr, safon yr ymchwil, dwyster yr ymchwil, gwariant ar wasanaethau academaidd, gwariant ar gyfleusterau myfyrwyr, dilyniant, y gymhareb myfyrwyr-staff, hynt graddedigion - deilliannau, a hynt graddedigion - ar y trywydd iawn.

Dyma a ddywedodd yr Is-Ganghellor, yr Athro Wendy Larner: “Rydyn ni’n un o’r llond llaw o sefydliadau sydd wedi dringo pum safle, a dyma gydnabyddiaeth ddyledus o’n hymdrechion.”

Ym Mhrifysgol Caerdydd rydyn ni’n gweithio mewn partneriaeth â'n myfyrwyr ac rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu'r addysg a'r profiad gorau i bob myfyriwr. Mae dod i’r brig yng Nghymru a chael ein henwi’n un o’r 25 sefydliad gorau yn y DU yn dyst i ymrwymiad ac arbenigedd ein staff. Rwy'n ddiolchgar i bob un ohonyn nhw am eu hymdrechion.

Yr Athro Wendy Larner Is-Ganghellor

Dyma a ddywedodd yr Athro Amanda Chetwynd, Cadeirydd Cwrdd Cynghori’r Complete University Guide: “Llongyfarchiadau i Brifysgol Caerdydd am gipio’r safle uchaf yn rhestr Complete University Guide Cymru eleni ac i bob prifysgol yng Nghymru am gefnogi eu myfyrwyr i gyflawni eu huchelgais. Mae ein methodoleg yn defnyddio ystod o fesurau dibynadwy ac annibynnol sy'n adlewyrchu'r ffactorau sydd bwysicaf i fyfyrwyr, gan gynnwys safon yr addysgu, boddhad y myfyrwyr a hynt graddedigion.

“Mae’r tablau rhanbarthol yn dangos cryfder a safon Addysg Uwch ledled y DU. Ni waeth a fyddwch chi’n gwneud dewisiadau cynnar neu'n paratoi ar gyfer Clirio, tasg rhestrau pynciol a’r prifysgolion, ynghyd a’r arbenigedd rhanbarthol, yw helpu myfyrwyr i wneud un o benderfyniadau pwysicaf eu bywyd.”

Rhannu’r stori hon

Dewch i edrych o gwmpas ein campws, cwrdd â myfyrwyr a staff, a chael blas ar sut beth yw astudio a byw yng Nghaerdydd.