Mae syched cynyddol y Ddaear yn gwneud sychder yn waeth, hyd yn oed lle bydd hi'n bwrw glaw
10 Mehefin 2025

Mae "syched" cynyddol yr atmosffer am ddŵr wedi gwneud sychder ledled y byd 40% yn fwy difrifol, yn ôl ymchwil newydd.
Er y tybir yn aml bod diffyg glaw yn gyfrifol am sychder, mae gwyddonwyr wedi darganfod bod yr atmosffer ei hun yn gofyn am fwy o ddŵr gan y pridd, yr afonydd a phlanhigion.
Sbwng anweledig yw'r ffenomen hon, sef Galw Anweddu Atmosfferig (AED), gan amsugno lleithder yn gyflymach nag y gellir ei roi yn ôl ac mae hyn yn cynyddu’r straen ar ddŵr, yn enwedig yn achos planhigion.
Wrth i'r byd fynd yn boethach o dan effeithiau newid yn yr hinsawdd, mae AED yn mynd yn fwyfwy, gan achosi sychder mwy difrifol hyd yn oed mewn rhanbarthau gwlyb, yn ôl y tîm rhyngwladol.
Eu hastudiaeth, a gyhoeddwyd yn Nature, yw'r cyntaf i fesur effaith fyd-eang AED gan ddefnyddio arsylwadau yn y byd go iawn i ragweld a pharatoi ar gyfer sychder yn well.
Defnyddiodd y tîm, a oedd yn cynnwys arbenigedd Prifysgol Caerdydd, set o ddata cydraniad uchel a oedd yn cwmpasu mwy na chanrif i wneud eu dadansoddiad.
Olrheinion nhw sut mae AED wedi cynyddu a pha mor waeth y mae sychder o’i herwydd yn ystod y cyfnod hwn.
Mae’r canlyniadau’n dangos:
- Yn sgil AED, mae difrifoldeb sychder yn fyd-eang wedi cynyddu tua 40% dros y 40 mlynedd ddiwethaf
- mae rhanbarthau gwlyb yn destun sychder mwy difrifol oherwydd bod yr atmosffer yn mynnu mwy byth o ddŵr gan y tir, nid dim ond oherwydd bod llai o law
- cynyddodd maint y tir o dan amodau sychder mwy difrifol 74% yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf, yn bennaf oherwydd syched cynyddol yr atmosffer.
Dyma a ddywedodd yr Athro Michael Singer yn Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a'r Amgylchedd ym Mhrifysgol Caerdydd, un o gyd-awduron yr astudiaeth: "Er bod pawb yn deall bod yr hinsawdd yn newid gan fod yr atmosffer wrthi'n cynhesu, nid yw'n glir sut mae hyn yn effeithio ar eithafion hinsoddol megis sychder a llifogydd."

Yn ein hastudiaeth mae’r dystiolaeth yn glir bod AED wedi cynyddu, gan arwain at amodau sychder mwy difrifol a allai effeithio ar amryw o sectorau, bywydau a bywoliaethau ledled y byd.
Ychwanegodd y prif awdur Dr Solomon Gebrechorkos o Ysgol Daearyddiaeth a'r Amgylchedd Prifysgol Rhydychen: “Mae'r gwaith hwn yn dangos bod cynnwys AED wrth fonitro sychder - yn hytrach na dibynnu ar ddyddodiad yn unig - yn hollbwysig i reoli’r risgiau i amaethyddiaeth, adnoddau dŵr, ynni ac iechyd y cyhoedd yn well.
"O ystyried y newidiadau yn yr hinsawdd a ragwelir, tymheredd cynyddol yn enwedig, disgwylir i effaith AED ddwysáu. Mae llawer o ardaloedd yr effeithir arnyn nhw eisoes yn cael trafferth ymdopi â sychder difrifol."
Mae’n rhaid gweithredu nawr drwy ddatblygu strategaethau addasu economaidd-gymdeithasol ac amgylcheddol penodol a gwell systemau rhybuddio cynnar a rheoli risgiau.
Bydd gofyn i wyddonwyr astudio sut y gall ffermwyr, dinasoedd ac ecosystemau addasu i fyd lle bydd yr atmosffer yn gofyn am fwy o leithder yn gyson, yn ôl y tîm.
Casgliad y tîm yw y bydd rhagor o astudiaethau sy'n canolbwyntio ar amrywiadau yn yr hinsawdd oherwydd AED hefyd yn gwella’r graddau y gallwn ragfynegi sychder.
Cyhoeddwyd y papur, 'Warming accelerates global drought severity' yn Nature.
Rhannu’r stori hon
Mae'r Ysgol wedi ymrwymo i sicrhau’r safonau uchaf mewn ymchwil ac addysg ac – o dan arweiniad ymchwil – i ddarparu amgylchedd cyfoethog ac amrywiol.