Ewch i’r prif gynnwys

Lansio grŵp newydd Cangen CyberWomen Caerdydd i annog cynhwysiant ym maes seiberddiogelwch

30 Ebrill 2025

Grŵp dan arweiniad myfyrwyr sy’n rhan o sefydliad CyberWomen Groups CIC yw Cangen CyberWomen Caerdydd. Nod y sefydliad yw creu lle mwy cynhwysol a grymusol i fenywod a phobl sydd wedi'u hymyleiddio oherwydd eu rhywedd ym meysydd seiberddiogelwch a thechnoleg.

Nod y grŵp yw herio'r sefyllfa sydd ohoni, meithrin cymuned a chreu cyfleoedd go iawn i fenywod a phobl sydd wedi'u hymyleiddio oherwydd eu rhywedd, gan sicrhau bod pobl yn teimlo eu bod yn cael eu gweld a'u cefnogi.

Cynnig cyfleoedd trwy weithdai, mentora a phaneli siaradwyr yw’r nod.

Cynhaliwyd lansiad Cangen CyberWomen @Caerdydd yn adeilad sbarc|spark Prifysgol Caerdydd gyda Dr Kathryn Jones (Pennaeth yr Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg), Dr Yulia Cherdantseva (Cyfarwyddwr Canolfan Ragoriaeth Academaidd mewn Addysg Seiberddiogelwch Prifysgol Caerdydd), a Dr Clare Johnson (Sylfaenydd Women in Cyber).

Sefydlwyd y grŵp gan Jana Jhaveri (Llywydd), Elena Corbally (Cydlynydd Cyfryngau Cymdeithasol) a Kristina Israelyan (Cydlynydd Digwyddiadau), sydd oll yn fyfyrwyr ôl-raddedig yn yr Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg.

Dywedodd Jana Jhaveri ar ôl y digwyddiad: “I mi, mae Cangen CyberWomen @Caerdydd yn creu lle i ni ddatblygu - nid o ran sgiliau a gwybodaeth yn unig, ond hyder, cymuned a chynrychiolaeth hefyd.

“Rydyn ni’n creu rhywbeth a fyddai wedi bod o fudd i ni pan roedden ni ar ddechrau ein gyrfaoedd.”

Dilynwch Cangen CyberWomen @Caerdydd ar LinkedIn i gael gwybod am y digwyddiadau a'r newyddion diweddaraf.

Rhannu’r stori hon