Cadw dysgu ieithoedd rhyngwladol yn uchel ar yr agenda
4 Mehefin 2025
Mae angen meddylfryd amlieithog drwy gydol addysg pobl ifanc er mwyn cynyddu'r defnydd o ieithoedd rhyngwladol yn nes ymlaen, medd arbenigwyr o Brifysgol Caerdydd.
Rhaglen arloesol yw MFL Mentoring sy'n anelu at annog rhagor o bobl ifanc i astudio ieithoedd rhyngwladol ar lefel TGAU a thu hwnt, megis Ffrangeg, Sbaeneg ac Almaeneg. Mae llwyddiant y prosiect wedi arwain at dair blynedd o gyllid newydd gan Lywodraeth Cymru.
Mewn darn barn yn Languages, Society and Policy, mae sylfaenwyr MFL Mentoring, yr Athro Claire Gorrara a Lucy Jenkins yn dadlau bod pwyslais Cwricwlwm Cymru ar ieithoedd rhyngwladol yn golygu y dylid eu hymgorffori’n rhan o wersi cyn gynted â phosibl er mwyn i ddysgwyr iau ddod i gysylltiad ag ystod o ieithoedd.
Maen nhw’n galw am fwy o hyfforddiant i athrawon ysgol gynradd er mwyn datblygu eu hyder a'u sgiliau wrth gynnig profiad dysgu iaith amlieithog.
Maen nhw hefyd yn dweud bod angen cydweithio’n drawsieithyddol rhwng ac ar draws ieithoedd mewn ysgolion – er mwyn manteisio i’r eithaf y cysylltiadau rhwng pob iaith – gan gynnwys y Gymraeg a’r Saesneg.
Dyma a ddywedodd Claire Gorrara, Athro Ffrangeg yn Ysgol Ieithoedd Modern Prifysgol Caerdydd: "Dylid cymeradwyo'r pwyslais ar ieithoedd rhyngwladol yng Nghwricwlwm Cymru sy’n gam enfawr ymlaen. Er gwaethaf y ffaith bod ysgolion yng Nghymru eisoes yn gweithredu mewn cyd-destun dwyieithog, y defnydd o ieithoedd rhyngwladol ar lefel TGAU a Safon Uwch yw'r isaf yn y DU. Felly, mae angen parhau i weithio mewn partneriaeth i fuddsoddi er mwyn hyrwyddo manteision dysgu iaith i bobl ifanc drwy gydol eu bywydau ysgol."
Mae gan MFL Mentoring ddegawd o brofiad o annog dysgu ieithoedd ar lefel TGAU ac mae’r cynllun bellach ar waith mewn mwy na 100 o ysgolion uwchradd ledled Cymru. Mae myfyrwyr ym mhrifysgolion Cymru yn cael y cyfle i hyfforddi i fod yn fentor cyn cael eu neilltuo i weithio gyda grŵp o ddysgwyr blwyddyn 8 neu 9.
Mewn chwe sesiwn, maen nhw’n rhannu eu profiadau o ddysgu iaith gyda'u cyd-fyfyrwyr iau ac yn sôn am y cyfleoedd gyrfaol sydd yn eu disgwyl yn sgil ieithoedd, yn ogystal â'r llu o fanteision personol, megis gwell hyder a chyfleoedd i deithio.
Mae gwerthusiad diweddaraf y prosiect yn dangos bod 68% o ddysgwyr yn cytuno bod y cynllun mentora wedi newid eu canfyddiad o ddysgu iaith. Pan ofynnwyd i’r dysgwyr a oedden nhw eisiau dilyn iaith ryngwladol ar lefel TGAU, nododd 35.7% o ddysgwyr sy'n ymwneud â MFL Mentoring yr hoffen nhw yn bendant neu eu bod yn debygol o fod eisiau gwneud hynny. Mae hyn yn cymharu â 17.6% o ddysgwyr nad oedden nhw wedi cymryd rhan yn y rhaglen a dim ond 10.3% yn genedlaethol.
Dyma a ddywedodd Lucy Jenkins, Cyfarwyddwr Prosiect MFL Mentoring: "Eiriolwyr angerddol yw ein mentoriaid ac yn astudiaethau achos byw sy’n dangos y manteision sy’n dod yn sgil dysgu iaith. Mae eu hymroddiad wedi bod yn allweddol wrth newid agweddau ymhlith pobl ifanc yng Nghymru - ond mae angen gwneud rhagor o waith. Dyna pam y byddwn ni’n parhau i weithio gyda llunwyr polisïau, ysgolion a phobl ifanc i gadw ieithoedd rhyngwladol yn uchel ar yr agenda, gan wneud popeth y gallwn ni i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o ieithyddion."
Mae Gwilym Morgan, myfyriwr mentora ym Mhrifysgol Caerdydd yn ei flwyddyn gyntaf yn astudio gradd yn y Gymraeg a Ffrangeg. Dyma’r hyn a ddywedodd: “Drwy’r Cynllun Mentora Ieithoedd Tramor Modern, dwi wedi datblygu sgiliau newydd, magu hyder, a chael profiad go iawn o weithio gyda phobl ifanc. Dwi'n dysgu cymaint gan y disgyblion ym mhob sesiwn, ac mae'r cynllun wedi cryfhau fy awydd i fod yn athro ieithoedd yn y dyfodol.
“Ar y dechrau, mae llawer o bobl ifanc yn amharod i ystyried dysgu iaith ryngwladol. Mae rhai’n dweud ei fod yn anodd, yn ddiflas, neu nad ydyn nhw’n gweld y pwynt os ydyn nhw o’r farn bod ‘pawb yn siarad Saesneg.’ Mae eraill yn ofni gwneud camgymeriadau.
“Fodd bynnag, drwy'r sesiynau mentora, mae eu hagweddau'n aml yn newid. Mae disgyblion yn dechrau gweld gwerth ieithoedd o ran teithio, cyfleoedd gwaith, a hyd yn oed i ffurfio ymdeimlad cryfach o hunaniaeth. Maen nhw hefyd yn gwerthfawrogi ochr ddiwylliannol dysgu ieithoedd ac yn aml erbyn diwedd y rhaglen maen nhw'n teimlo'n fwy hyderus, agored eu meddwl, a chadarnhaol ynglŷn ag astudio iaith ar lefel TGAU.”

Cardiff University student mentor Gwilym Morgan is in his first year of a Welsh and French degree. He said: “Through the MFL Mentoring Scheme, I’ve gained new skills, confidence, and real experience working with young people. I learn so much from the students during each session, and the scheme has strengthened my desire to become a language teacher in the future.
“At first, many young people are reluctant to consider learning an international language. Some say they find it difficult, boring, or don’t see the point if they think ‘everyone speaks English.’ Others feel nervous about making mistakes.
“However, through the mentoring sessions, their attitudes often change. Pupils begin to see the value of languages in terms of travel, job opportunities, and even forming a stronger sense of identity. They also appreciate the cultural side of language learning and often end the programme feeling more confident, open-minded, and positive about taking a language forward at GCSE.”
Rhannu’r stori hon
Yr Ysgol yw un o’r canolfannau ieithoedd modern mwyaf a mwyaf dynamig yn y Deyrnas Unedig.