Ewch i’r prif gynnwys

Ateb cwestiynau am ddementia mewn podlediad newydd

3 Mehefin 2025

Yr Athro Julie Williams

Lansiwyd podlediad newydd i ateb cwestiynau taer y cyhoedd am ddeall, gofalu a byw gyda dementia.

Mae'r Athro Julie Williams, Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd a Sefydliad Ymchwil Dementia'r DU ym Mhrifysgol Caerdydd, wedi lansio podlediad ar y cyd â'r therapydd a'r newyddiadurwraig, Justine Pickering. Mae ‘In Two Minds’ yn ymdrin â'r straeon dynol sy'n gysylltiedig â gofal a chwnsela ac yn cynnig gwell dealltwriaeth gan ystod o wyddonwyr sydd ar flaen y gad ym maes ymchwil ar ddementia.

Dechreuodd Justine feddwl am y podlediad ar ôl iddi ofalu am ei diweddar fam, Ann, a gafodd ddiagnosis o ddementia cynnar yn 55 oed.

Yn y podlediad mae cyfweliad teimladwy gyda gofalwr sy'n ymgyrchu, ystod o sgyrsiau gyda phobl sy'n ymwneud yn uniongyrchol â gofal dementia, a chipolwg ar yr achosion a'r canfyddiadau diweddaraf ym maes ymchwil.

Mae'r gyfres hefyd yn cynnwys pennod lle mae'r Athro Vincent Dion, Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd a Sefydliad Ymchwil Dementia'r DU yn cael ei gyfweld am ei waith i ddod o hyd i driniaethau therapiwtig newydd ar gyfer clefyd Huntington a chlefydau eraill.

Julie Williams
Rwy’n credu’n gryf bod gan wyddonwyr rôl bwysig yn y gwaith o roi gwybod i bobl am sefyllfa gyfredol ymchwil ar glefydau fel clefyd Alzheimer, Parkinson Huntington ac anhwylderau eraill yn yr ymennydd.
Yr Athro Julie Williams Cyfarwyddwr

Dyma a ddywedodd yr Athro Williams: “Rydyn ni’n gwneud cynnydd aruthrol o ran darganfod achosion y clefydau hyn a chyn pen ychydig o flynyddoedd bydd triniaethau dilys yn dechrau dod i’r amlwg. Mae'n bwysig i wyddonwyr rannu'r wybodaeth hon mor eang â phosibl.”

Dyma a ddywedodd Justine Pickering: “O brofiad personol, rwy’n gwybod faint o gwestiynau heb eu hateb sydd gan bawb pan ddaw dementia yn rhan o’ch bywyd, boed hynny oherwydd eich bod chi neu ffrind agos, perthynas neu gymydog wedi cael diagnosis. Bydd weithiau’n gyfnod unig, dryslyd a hyd yn oed brawychus iawn felly rwy eisiau i'r podlediad gynnig cyngor clir a gwerthfawr fel bod rhai o'r dirgelion yn cael eu hegluro.

“Mae gan y rhan fwyaf o deuluoedd y dyddiau hyn ryw fath o gysylltiad â rhywun â dementia neu hoffen nhw wybod rhagor ac yn ‘In Two Minds’ rydyn ni’n trin a thrafod y materion a’r manylion sy’n helpu pobl go iawn i ddeall ac ymdopi. Rydyn ni eisiau i bobl sydd â chwestiynau anodd am unrhyw agwedd ar ddementia neu anhwylderau eraill yn yr ymennydd gysylltu â ni er mwyn inni gynnig cyngor gan bobl sy'n gwybod am y maes."

Mae'r podlediad ar gael ar Apple PodcastsSpotify.