Ewch i’r prif gynnwys

Ehangu prosiect ymchwil peilot yng Nghaerdydd i gymuned ym mhrifddinas Bangladesh

4 Mehefin 2025

Grŵp o bobl ifanc yn gwenu at y camera.
Cyflwynodd y bobl ifanc eu casgliadau.

Mae cynllun peilot llwyddiannus a ysgogodd weledigaeth ar gyfer cymdogaeth a fyddai’n gyfeillgar i blant yng Nghaerdydd wedi cael ei gyflwyno mewn cymuned yn Bangladesh.

Bu academyddion o Brifysgol Caerdydd yn cydweithio â Phrifysgol BRAC ac Ymddiriedolaeth Work for a Better Bangladesh, ynghyd â phlant a phobl ifanc yn Rayer Bazar, sef ardal yn Dhaka, prifddinas Bangladesh.

Mae eu hadroddiad a’u cynllun gweithredu, Rayer Bazar to grow up in, yn galw am fwy o strydoedd a chymdogaethau sy’n gyfeillgar i gerddwyr, lleoedd chwarae mwy cynhwysol a gwell diogelwch i ferched.

Mae'r prosiect yn seiliedig ar A Grangetown to grow up in. Yn y prosiect, bu pobl ifanc o’r gymdogaeth yng Nghaerdydd yn sôn am y gwelliannau roedden nhw eisiau eu gweld yn yr ardal lle maen nhw’n byw.

Gan ddefnyddio’r model a dreialwyd ym mhrifddinas Cymru, cynhaliodd yr ymchwilwyr gyfres o weithdai yn Bangladesh, gan roi’r cyfle i 236 o blant a phobl ifanc yn Rayer Bazar ddweud eu dweud am hyn yr oedden nhw’n ei hoffi am fyw yno a’r gwelliannau yr hoffen nhw eu gweld.

Cafodd dau gant o rieni’r cyfle hefyd i roi eu barn mewn arolwg. Mae’r canlyniadau’n awgrymu nad yw traean o blant y rhieni sy’n cymryd rhan yn chwarae yn yr awyr agored o gwbl. Dim ond 2% o blant Dhaka sydd â mynediad i barciau a meysydd chwarae. Mae ffyrdd a mannau cyhoeddus anniogel, ofn damweiniau, yr ofn y bydden nhw’n cael eu cipio a’u haflonyddu a nifer yr achosion o weithgareddau gwrthgymdeithasol oll yn rhwystro rhieni rhag caniatáu i blant chwarae yn yr awyr agored ar eu pennau eu hunain.

Bu’r ymchwilwyr hefyd yn gwneud gwaith arsylwi mewn meysydd chwarae a strydoedd yn Rayer Bazar. Yr unig faes chwarae ffurfiol yw maes chwarae Baisakhi lle mae bechgyn yn bennaf yn chwarae. Mae gan ferched lawer llai o gyfle i chwarae yn yr awyr agored.

Dyma a ddywedodd Ahosan, myfyriwr o Ysgol Uwchradd Rayer Bazar a gymerodd ran yn y prosiect: “Rydyn ni’n disgwyl mesurau llym gan y weinyddiaeth i fynd i’r afael â sawl problem megis parcio, gwastraff, a nwyddau siop sy’n rhwystro’r palmentydd wrth gerdded i’r ysgol. Efallai na fydd yn bosibl darparu llwybrau troed ar ffyrdd cul ardal Rayer Bazar, ond gellid sicrhau ardaloedd diogel i gerddwyr drwy greu marciau ffordd.”

Ychwanegodd Suborna Islam o Ysgol Uwchradd Rayer Bazar: “Hefyd, dyw merched ddim yn teimlo’n ddiogel mewn lleoedd cyhoeddus. Rydyn ni eisiau rhagor o gyfleoedd i ferched chwarae mewn lleoedd diogel.”

Dyma a ddywedodd arweinydd y prosiect, Dr Matluba Khan o’r Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio: “Yn rhy aml, bydd oedolion yn tanamcangyfrif gallu plant i fynegi eu barn, ond serch hynny plant yw gwir arbenigwyr eu bywydau eu hunain. Rwy’n falch o’r ffordd y mae’r plant wedi cymryd rhan feirniadol yn y broses hon, gan gynnig eu safbwyntiau ystyrlon, a’r gwir amdani yw y gall y rhain gyfrannu at gynllun manylder ardal Dhaka."

Matluba Khan
Mae ein hymchwil, a gafodd ei threialu yng Nghaerdydd cyn cael ei defnyddio mewn cymdogaeth 5,000 o filltiroedd i ffwrdd, yn dangos bod gan bob person ifanc y gallu i feddwl yn feirniadol am ei gymunedau a bod ganddo rôl bwysig i’w chwarae wrth lunio dyfodol y rhain.
Dr Matluba Khan Uwch Ddarlithydd mewn Dylunio Trefol
Cyd-gyfarwyddwr MA Dylunio Trefol

Dyma a ddywedodd Dr Tom Smith, Cyd-ymchwilydd y prosiect sydd hefyd yn gweithio yn yr Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio: “Dyma brosiect hynod bwysig o ran dangos pam mae gofyn inni wrando ar leisiau plant a phobl ifanc a sut y gallwn ni ddod o hyd i ffyrdd iddyn nhw fynegi eu syniadau. Y gwir amdani yw bod plant Rayer Bazar yn gwerthfawrogi mannau gwyrdd a lleoedd i chwarae – ond ychydig iawn o’r rhain sydd, ac mae problemau diogelwch, glendid a diffyg cyfleoedd i bawb yn eu hatal rhag cyflawni eu potensial.”

Dyma a ddywedodd Dr Md Rashed Bhuyan, arweinydd academaidd yn Bangladesh sy’n gweithio yn Adran Pensaernïaeth Prifysgol BRAC: “Mae'r prosiect hwn yn galw am drafodaethau ac ymchwil ehangach am y rhan y mae plant a phobl ifanc yn ei chwarae wrth greu dinasoedd sy’n gyfeillgar i blant yng ngwledydd y De Byd-eang. Rwy’n gobeithio bod awdurdodau lleol yn cymryd cynlluniau plant o ddifrif a’u bod yn defnyddio’r cynllun yn sail i wneud y gymdogaeth yn fwy cyfeillgar i blant”.

Lansiwyd y cynllun yn Gallery the Illusions, lle bu plant a phobl ifanc yn cyflwyno eu casgliadau i westeion o fri.

Cyfarfu’r grŵp hefyd â Mohammad Azaz, gweinyddwr Dhaka North City Corporation, gan ofyn am gamau mesuradwy i roi eu syniadau ar waith.

Dyma a ddywedodd Saifuddin Ahmed, Cyfarwyddwr Gweithredol Ymddiriedolaeth Work for a Better Bangladesh: “Ar hyn o bryd, mae plant yn ein dinasoedd yn cael eu hamddifadu o’r hawl i chwarae. Oherwydd iddyn nhw orfod aros gartref am gyfnod estynedig yn ystod pandemig COVID-19, llesteiriwyd eu datblygiad corfforol a meddyliol. Mae llai o barciau a meysydd chwarae, o ystyried y boblogaeth. Yn ein hymgais i adeiladu dinas i geir, rydyn ni’n symud i ffwrdd oddi wrth gysyniad y ddinas sy’n cymdeithasoli. Pe bai modd gwneud y ddinas yn fwy cyfeillgar i blant a phobl ifanc, gellid creu cyfleoedd chwarae a chwaraeon i blant.”

Cymerodd Ysgol Cadetiaid Delfrydol Dhaka; Ysgol Uwchradd Rayer Bazar, Ysgol Ryngwladol Lorel ac Ysgol Uwchradd Dhanmondi Kochikantho ran yn y gweithdai.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn defnyddio meddwl beirniadol a gwybodaeth ymarferol i ddatrys problemau economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol er mwyn mynd i'r afael â’r heriau mawr y mae cymdeithasau dynol a lleoedd yn eu hwynebu heddiw.