Dyraniad ariannol newydd yn rhoi hwb i gydweithrediad ymchwil rhwng Iwerddon a Chymru
2 Mehefin 2025

Mae Prifysgol Caerdydd wedi cael arian i weithio ar bedwar prosiect ymchwil arloesol ar y cyd â Choleg y Brifysgol Dulyn, a hynny drwy Gronfa’r Gynghrair Ymchwil sydd newydd ei lansio.
Bydd y pecyn ariannu gwerth €584,378, a gafodd ei gyhoeddi ar 29 Mai gan Weinidog Addysg Bellach ac Addysg Uwch, Ymchwil, Arloesedd a Gwyddoniaeth Iwerddon, James Lawless TD, ac Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans AS, yn cefnogi cyfanswm o wyth prosiect.
Bydd y cyllid yn cynorthwyo partneriaethau ymchwil ar draws ystod amrywiol o ddisgyblaethau, gan gwmpasu meysydd arloesol o therapïau niwroddirywiol i ynni cynaliadwy a datrysiadau amgylcheddol sy'n cael eu gyrru gan ddeallusrwydd artiffisial, gan feithrin arloesedd a chydweithrediad rhwng sefydliadau yn Iwerddon a Chymru.
Prosiectau a Ariennir gan Brifysgol Caerdydd: |
---|
NIWRAL: Y genhedlaeth nesaf o Ddeallusrwydd Artiffisial ar gyfer Rhybudd Cyfamserol o Drawiad/Strôc Prif Ymgeisydd: Dr Deepu John (Coleg Prifysgol Dulyn) Cyd-Arweinydd: Dr Nick Pham, Yr Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg |
GRYMUSO : Grymuso Cynghrair Ymchwil Llygaid yng Nghymru a Gweriniaeth Iwerddon Prif Ymgeisydd: Yr Athro Breandán Kennedy (Coleg Prifysgol Dulyn) Cyd-Arweinydd: Dr Benjamin Mead, Yr Ysgol Optometreg a Gwyddorau’r Golwg |
Biomarcwyr lleferydd newydd ar gyfer monitro dilyniant clefydau yng nghyfnod cynnar clefyd Huntington Prif Ymgeisydd: Yr Athro Madeleine Lowery (Coleg Prifysgol Dulyn) Cyd-Arweinydd: Dr Cheney Drew, Yr Ysgol Meddygaeth |
Microgludwyr cryogel imiwnomodwlaidd ac amlswyddogaethol ar gyfer cyflawni therapi lleol yn yr ymennydd Prif Ymgeisydd: Yr Athro Wenxin Wang (Coleg Prifysgol Dulyn) Cyd-Arweinydd: Dr Benjamin Newland, Yr Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol |
Wrth nodi’r cyhoeddiad, dywedodd y Gweinidog Lawless: “Mae Dyraniad y Gynghrair Ymchwil yn tynnu sylw at y cysylltiadau cryf rhwng Iwerddon a Chymru a photensial aruthrol ein cymunedau academaidd yn cydweithio. Trwy fuddsoddi yn y prosiectau arloesol hyn, rydym yn paratoi'r ffordd ar gyfer darganfyddiadau a datrysiadau arloesol a fydd o fudd i'n gwledydd a'r gymuned Ewropeaidd ehangach. Edrychwn ymlaen at weld sut mae'r trefniadau cydweithredol hyn yn datblygu'n fentrau ar raddfa fwy sy'n cyflawni effaith yn y byd go iawn.”
Meddai Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans: “Rydym am greu dyfodol deinamig i ni ein hunain, gan hyrwyddo arloesedd a thechnolegau newydd i gefnogi Cymru fwy gwyrdd, gyda gwell iechyd, gwell swyddi a ffyniant i bawb."
Mae cyllido yn sgil Dyraniad y Gynghrair Ymchwil yn gyfle gwych i sefydliadau academaidd yng Nghymru ac Iwerddon greu partneriaethau newydd mewn ymgais i fynd i'r afael â heriau cymhleth gyda chefnogaeth y llywodraeth – yn unol ag uchelgeisiau’r Datganiad a Rennir a’r Cynllun Gweithredu ar y Cyd 2021 i 2025 rhwng Iwerddon a Chymru. Edrychaf ymlaen at weld y fenter hon yn adeiladu ymhellach ar enw da Cymru fel magnet ar gyfer cydweithio a rhagoriaeth mewn arloesedd.
Ychwanegodd Cadeirydd Prifysgolion Cymru, Paul Boyle: “Mae penderfyniad y DU i ail-gysylltu â Horizon Europe yn 2024 yn gyfle gwych i ymchwilwyr o Gymru fod yn rhan o raglen ymchwil gydweithredol fwyaf y byd. Mae’r rhaglen hon ar y cyd rhwng Rhwydwaith Arloesedd Cymru ac Ymchwil Iwerddon yn rhoi cymorth i ymchwilwyr o Gymru adeiladu cysylltiadau newydd a chryfhau partneriaethau sy’n bodoli eisoes â'u cymheiriaid yn Iwerddon. Rwy’n falch iawn y gall RhAC hwyluso’r fenter hon i arddangos rhagoriaeth ymchwil Cymru ar lwyfan rhyngwladol a sefydlu mentrau cydweithredol er mwyn mynd i’r afael â heriau byd-eang.”
Lansiwyd Dyraniad y Gynghrair Ymchwil ym mis Rhagfyr 2024 gan Rwydwaith Arloesedd Cymru (RhAC) a Taighde Éireann – Ymchwil Iwerddon. Mae’n rhaglen gyllido gydweithredol a gynlluniwyd i gryfhau cysylltiadau ymchwil rhwng Iwerddon a Chymru, ac i ddatblygu grantiau cystadleuol ar gyfer Horizon Europe, rhaglen gyllido allweddol yr UE ar gyfer ymchwil ac arloesedd.
Mae Dyraniad y Gynghrair Ymchwil yn darparu cyllid sbarduno i ymchwilwyr yn Iwerddon a Chymru i ddatblygu cynigion ar y cyd ar gyfer Horizon Europe a rhaglenni cyllido Ewropeaidd eraill dros gyfnod o bedwar i 12 mis. Bydd y prosiectau a ariennir yn cryfhau cydweithrediad academaidd-diwydiannol rhwng Iwerddon a Chymru, yn cefnogi cynigion cystadleuol am arian Horizon Europe, ac yn hwyluso symudedd ymchwilwyr, gweithdai, a gweithgareddau ymchwil ar y cyd.
Mae'r sefydliadau y dyrannwyd arian iddynt yn cynrychioli pedwar sefydliad addysg uwch yng Nghymru (Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Abertawe, Prifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Bangor) a phedwar sefydliad addysg uwch yn Iwerddon (Coleg Prifysgol Dulyn, Prifysgol Limerick, Coleg Prifysgol Corc, a Phrifysgol Dinas Dulyn).
Rhannu’r stori hon
Tanysgrifiwch i’n cylchlythyr i glywed y diweddaraf am newyddion ymchwil, digwyddiadau, blogiau a mwy, gan Brifysgol Caerdydd.