Gall seinyddion clyfar helpu plant ag anawsterau lleferydd
23 Mehefin 2025

Gallai seinyddion clyfar helpu plant ag anawsterau lleferydd i ymarfer siarad yn araf ac yn glir, yn ôl ymchwil newydd gan Brifysgol Caerdydd.
Canfu'r astudiaeth, dan arweiniad academyddion yn Ysgol Seicoleg y brifysgol, fod seinyddion y mae modd eu prynu mewn siopau yn ffordd bleserus a hwylus o ategu therapi ffurfiol.
Gan ganolbwyntio ar 11 o deuluoedd â phlant ag anawsterau lleferydd rhwng 3 a 10 oed, defnyddiwyd y seinyddion clyfar unwaith y dydd ar gyfartaledd am gyfnod rhwng pedair a chwe wythnos i gyrchu gemau, straeon, cerddoriaeth, jôcs a phodlediadau. Asesodd yr ymchwilwyr gofnodion gweithgarwch y seinyddion clyfar, a chynhalion nhw arolygon ar ôl y treialon i rieni a phlant a chyfweliadau â rhieni. Gwerthuswyd y defnydd y gwnaed o’r ddyfais a mesurwyd y newidiadau yn eglurder lleferydd y plant dros amser.
Sylwodd y tîm fod rhieni wedi nodi bod eu plentyn yn siarad yn uwch ac yn arafach â'r siaradwr clyfar, a’u bod yn ailadrodd pethau er lles y seinyddion efallai'n fwy nag y bydden nhw gyda phobl. Bu gwelliant yn eglurder lleferydd plant dros gyfnod yr astudiaeth, gyda mwy o welliannau yn y plant a wnaeth fwy o ddefnydd o’u seinyddion clyfar.
Dywedodd Dr Georgina Powell, arweinydd yr astudiaeth: “Mae mwy o blant nag erioed yn profi anawsterau lleferydd, felly roedden ni am ddeall sut y gallai gofalwyr ddefnyddio seinyddion clyfar yn offeryn atodol i blant ag anawsterau lleferydd tra’u bod ar restrau aros neu rhwng sesiynau therapi lleferydd.”
Dywedodd bron pob rhiant yn ein hastudiaeth fod eu plentyn yn siarad yn uwch ac yn arafach gyda’r seinydd clyfar, a nododd ambell riant fod eu plentyn yn siarad yn gliriach hefyd.
“Roedd y rhan fwyaf o rieni yn cytuno bod y seinydd clyfar wedi ysgogi eu plentyn i gyfathrebu’n gliriach. Roedd dros hanner yn cytuno bod y ddyfais yn annog eu plentyn i gyfathrebu. Yn y cyfweliad dilynol, awgrymodd un rhiant fod lleferydd eu plentyn wedi gwella gan eu bod nhw’n canu gyda’r seinydd clyfar.
Yn ystod yr astudiaeth, cofnododd y seinyddion clyfar gyfanswm o 2,138 o orchmynion a roddwyd gan y plant mewn 311 o sesiynau, ac eithrio geiriau i ddeffro’r seinydd fel 'Hey Siri' neu 'Hey Google', Ar gyfartaledd, defnyddiodd y plant y ddyfais ar gyfer 6 gorchymyn unwaith y dydd.
Y prif bynciau oedd gemau, jôcs, a synau (38%), gofyn am gerddoriaeth, radio, straeon neu bodlediadau (10%), defnyddio’r seinydd fel cyfaill (12%) ac i gael ffeithiau a gwybodaeth (7%).
Mae’r tîm hefyd wedi canfod bod 64% y rhieni wedi nodi bod eu plant wedi cychwyn sgyrsiau gyda'r seinydd clyfar, a bod recordiadau llais o'r plant yn siarad wedi'u nodi’n rhai cliriach ar ôl defnyddio'r dyfeisiau.
Roedd plant hefyd yn fwy tebygol o ailadrodd wrth roi gorchmynion i'r seinydd clyfar, gyda rhieni'n nodi bod plant yn fwy parod i wneud hynny gyda'r seinydd clyfar nag â pherson.
Dywedodd Dr Powell: “Mae seinyddion clyfar yn helpu i gael gwared ar rwystrau cymdeithasol, fel pryder cymdeithasol neu embaras wrth ailadrodd ymadroddion – mae hyn yn galluogi plentyn i gymell ei hunan i ddysgu, sy’n debygol o wella’r gallu i siarad.
“Mae ymarfer dros gyfnod o amser, adborth sydyn, a chynnwys gwerth chweil oll yn rhesymau eraill pam y mae seinyddion clyfar yn helpu i annog plentyn i ddysgu – ond cefnogi therapi lleferydd ffurfiol yw’r nod, ac nid i gymryd ei le."
Mae ein hastudiaeth yn dangos bod technoleg sydd eisoes yn bodoli mewn llawer o gartrefi yn gallu helpu plant ag anawsterau lleferydd i ymarfer siarad yn gliriach, heb bwysau cymdeithasol.
“Mae angen gwneud ymchwil pellach mewn astudiaeth fwy i asesu pam ac i ba raddau y mae seinyddion clyfar yn gallu gwella lleferydd mewn plant ag anawsterau lleferydd, ac i ddeall yn union y ffordd orau o deilwra eu defnydd yn ymarferol. Mae angen rhagor o astudiaethau hefyd i weld a yw seinyddion clyfar o fudd arbennig i rai oedrannau neu ar gyfer mathau penodol o anhawster lleferydd."
Cafod Smart speakers are an acceptable and feasible speech practice tool for children with speech difficulties ei chyhoeddi yn Disability and Rehabilitation: Assistive Technology.