Ewch i’r prif gynnwys

Gorflinder, gorbryder a dim mynediad at ofal meddygol: Profiadau gweithwyr llongau cargo ledled y byd

28 Mai 2025

Llong cargo

Mae gorflinder sy'n gysylltiedig â gwaith morwyr cargo wedi cynyddu, er gwaethaf ymdrechion i fonitro rheoliadau gwaith a gorffwys ar longau, yn ôl astudiaeth gan Brifysgol Caerdydd.

Mae'r dadansoddiad, gan Ganolfan Ymchwil Ryngwladol y Morwyr, yn deillio o holiaduron dienw a chyfweliadau gyda 1,240 o weithwyr llongau cargo a 1,202 o weithwyr yn y sector mordeithio. Mae'r gyfres o adroddiadau'n cynnig argymhellion ar sut y gellid gwella iechyd a lles morwyr.

Cyhoeddwyd yr adroddiadau hyn ychydig o ddyddiau ar ôl i long cargo fynd ar lawr yn Norwy a bu ond y dim iddi guro tŷ. Mae'r swyddog gwylio wedi dweud wrth yr heddlu iddo syrthio i gysgu ar bont y capten cyn y digwyddiad. Mae'r awdurdodau'n ymchwilio i ganfod a lynwyd wrth reolau ynghylch oriau gorffwys ar fwrdd y llong.

Mae'r astudiaeth newydd hon yn dangos nad oedd mwy na thraean o’r gweithwyr cargo a oedd ar fwrdd llong pan lenwon nhw’r holiadur wedi cael digon o gwsg yn ystod y 48 awr flaenorol.

Dywedodd y morwyr nad oedden nhw’n cael digon o gwsg oherwydd nifer yr oriau yr oedden nhw’n eu gweithio, eu patrymau gwaith, eu dyletswyddau yn y porthladd, symudiad a sŵn y llongau. Roedd y problemau hyn wedi cynyddu ers casglu data tebyg yn 2016 a 2011.

Disgrifiodd nifer uwch o weithwyr cargo hefyd nad oedden nhw’n cael digon o gwsg oherwydd pryder sy'n gysylltiedig â gwaith, gorbryder a hiraeth yn gyffredinol am gartref nag mewn arolygon blaenorol. Roedd diffyg cwsg o ganlyniad i orbryder a oedd yn gysylltiedig â gwaith yn broblem arbennig o ddifrifol ymhlith uwch-swyddogion.

Mewn un o bob pump achos, bron iawn, mae canfyddiadau eraill yn dangos nad oedd morwyr cargo a oedd wedi cael eu hanafu neu wedi bod yn ddifrifol o sâl wedi cael sylw meddygol pan oedd angen hyn. Fel arfer nid oedd meddyg cymwys ar fwrdd y llong, ac roedd cymorth telefyddgaeth yn anghyson hyd nes iddyn nhw gyrraedd y porthladd.

Ar unrhyw adeg benodol, mae mwy na 1.5 miliwn o bobl yn gweithio ar y môr ledled y byd, yn aml o dan amgylchiadau anodd a heriol. Credir bod llawer o’r heriau ar fwrdd heb dderbyn sylw pellach gan fod pobl â chontractau ansefydlog yn pryderu ynghylch peryglu eu cyflogaeth.

Dyma a ddywedodd yr Athro Helen Sampson, cyfarwyddwr Canolfan Ymchwil Ryngwladol y Morwyr ym Mhrifysgol Caerdydd: “Er gwaethaf monitro oriau gwaith/gorffwys staff yn well, mae gorflinder yn broblem anodd ei datrys i forwyr o hyd. Daeth hyn i’r amlwg yn ddiweddar, pan syrthiodd yr ail swyddog ar fwrdd yr NCL Salten i gysgu yn ystod ei gyfnod gwylio ac aeth y llong ar lawr wrth ymyl cartref yn Trondheim, Norwy. Roedd yr NCL Salten wedi galw mewn tri phorthladd yn ystod y 24 awr flaenorol, gan gynyddu'r tebygolrwydd o orflinder ymhlith aelodau'r criw.

“Mae’r dystiolaeth yn dangos bod llawer o achosion o ffugio cofnodion oriau gwaith/gorffwys i guddio gorweithio – ond hyd yn oed pan ddilynir y Confensiwn Llafur Morol, mae’n bosibl na fydd morwyr yn cael digon o orffwys o hyd. Mae dybryd angen ail-lunio rheoliadau ynghylch oriau gwaith/gorffwys. Mae angen newid y rheoliadau i sicrhau y caiff pob morwr adeg ddi-dor o orffwys sy'n cyd-fynd â'r lefelau o gwsg a argymhellir i oedolion."

Helen Sampson
Mae hefyd yn amlwg bod mynediad at ofal meddygol ar fwrdd llongau cargo yn gwbl annigonol, gan fod neb â chymwysterau meddygol ar fwrdd rhag ofn bod argyfwng. Byddai meddyg hyfforddedig ar fwrdd yn sicrhau nad yw gweithwyr yn dioddef am gyfnodau hir pe baen nhw’n cael anaf neu'n mynd yn sâl ymhell o'r tir.
Yr Athro Helen Sampson Athro Emeritws

Mae'r adroddiadau hefyd yn canolbwyntio ar brofiadau gweithwyr llongau mordeithio, ac ychydig o dan hanner o’r 950 o’r morwyr a oedd ar y môr, pan gymeron nhw ran yn yr arolwg, a oedd o’r farn eu bod heb gael digon o gwsg yn ystod y 48 awr flaenorol. Oriau gwaith a phatrymau gwaith oedd y prif resymau dros gwsg annigonol.

Disgrifiodd bron i un o bob 10 o weithwyr mordeithio gyflwr meddygol, gan ei briodoli'n uniongyrchol i'w gwaith, er bod gan y rhan fwyaf fynediad at feddyg cymwys ar fwrdd y llong.

Yn wahanol i weithwyr llongau cargo, gwrthodwyd trefniadau cysgu preifat i'r rhan fwyaf o weithwyr mordeithio o ganlyniad i’r awydd i flaenoriaethu lleoedd sy'n ennill refeniw ar draul llety'r criw.

Barn pob morwr, bron iawn, oedd nad oedd digon o dybiau ymolchi, ac roedd yn well ganddyn fod rhagor o’r rhain yn ogystal â sawnâu.

Ychwanegodd yr Athro Sampson: “Mae yna lawer o feysydd y gellir eu gwella er mwyn diogelu iechyd a lles morwyr yn y sectorau mordeithio a chargo. Byddai sicrhau cyfleusterau y gall morwyr eu defnyddio at ddibenion therapiwtig fel baddonau a sawnâu, mwy o ganiatâd i fynd i’r lan a darparu bwyd o safon oll yn ystyriaethau pwysig mewn ymdrechion ar y cyd i ddiogelu a hyrwyddo iechyd a lles morwyr.”

Ariannwyd  yr ymchwil hwn gan Stiftelsen Sveriges Sjömanshus gyda cymorth ychwanegol gan Sjöbefälsföreningen.

Mae'r adroddiadau llawn ar gael fan hyn:

Helen Sampson, Iris Acejo, Neil Ellis, Nelson Turgo (2025) The health and wellbeing of seafarers working on cargo ships in 2023-2024.

Helen Sampson, Iris Acejo, Neil Ellis, Nelson Turgo (2025) The health of seafarers working on cruise and cargo vessels 2023-2024.

Helen Sampson, Iris Acejo, Neil Ellis, Nelson Turgo (2025) Seafarers’ access to health care while working on cruise and cargo vessels.

Helen Sampson, Iris Acejo, Neil Ellis, Nelson Turgo (2025) Seafarers’ health and access to healthcare in the cruise and cargo sectors in 2024: An overview.

Rhannu’r stori hon

Rhagorwn mewn ymchwil ryngddisgyblaethol sydd â ffocws clir ar bolisi.