Rolau Blaenllaw i Athrawon Prifysgol Caerdydd yn REF 2029
3 Mehefin 2025

Mae'r Athro Rick Delbridge a'r Athro Chris Taylor wedi cael eu penodi'n Gadeirydd ac yn Ddirprwy Gadeirydd ar ddau o Is-baneli’r Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF 2029).
Mae'r Athro Rick Delbridge o Ysgol Busnes Caerdydd wedi'i benodi’n Gadeirydd is-banel Astudiaethau Busnes a Rheolaeth REF 2029 ochr yn ochr â'r Athro Sally Dibb o Brifysgol Coventry.
Mae'r Athro Chris Taylor o Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol wedi'i benodi'n Ddirprwy Gadeirydd is-banel Addysg REF 2029, a bydd yn gweithio gyda'r Cadeirydd, yr Athro Dominic Wyse o Goleg Prifysgol Llundain.
Mae’r 34 o is-baneli’n ymdrin ag ystod eang o bynciau sy’n cynnwys y gwyddorau bywyd, y gwyddorau cymdeithasol, y celfyddydau a’r dyniaethau a’r gwyddorau mathemategol. Mae pob panel yn cynnwys arbenigwyr academaidd o bob cwr o'r Deyrnas Unedig.
Wrth groesawu ei benodiad yn Gadeirydd is-banel Astudiaethau Busnes a Rheolaeth, dywedodd yr Athro Delbridge: “Mae'n anrhydedd cael fy newis ar gyfer y rôl bwysig hon gan bedwar cyngor ariannu ymchwil y DU. Rwy hefyd yn gwerthfawrogi'r ffydd y mae'r gymuned ymchwil busnes a rheoli wedi'i dangos ynof i."
Rwy'n hynod ymwybodol ei bod hi’n gyfnod heriol i'r sector, a fy nod yw bod yr un mor ddoeth a chraff â fy rhagflaenwyr yn y rôl hon. Roedd hi’n bleser cael bod yn rhan o broses asesu effeithlon a cholegol y tro diwethaf, ac rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda chydweithwyr ar broses gadarn a theg y tro hwn.
Mae Rick yn Athro Dadansoddi Sefydliadol yn Ysgol Busnes Caerdydd ac yn gyd-gynullydd y Ganolfan Polisïau Arloesedd (CIPR). Mae rheoli a threfnu arloesedd, cysylltiadau cyflogaeth, ac arferion rheoli Japaneaidd ymhlith ei ddiddordebau ymchwil.
Mae ymhlith cymrodyr Academi'r Gwyddorau Cymdeithasol, Academi Rheolaeth Prydain a Chymdeithas Ddysgedig Cymru. Bu'n Ddeon Ymchwil, Arloesedd a Menter Prifysgol Caerdydd rhwng 2012 a 2019. Yn ystod y cyfnod hwn, arweiniodd ddatblygiad Parc Ymchwil Gwyddorau Cymdeithasol (SPARK) y Brifysgol.
Wrth sôn am ei benodiad yn Ddirprwy Gadeirydd yr is-banel Addysg, dywedodd yr Athro Taylor: “Rwy’n falch iawn o gael fy mhenodi’n Ddirprwy Gadeirydd Is-banel Addysg REF 2029. Braint yw cefnogi’r broses bwysig hon, ac rwy’n edrych ymlaen at gydweithio’n agos â’r Athro Dominic Wyse a gweddill yr is-banel."
Mae gan ymchwil addysgol gymaint i’w gynnig i lywio polisïau, arferion a dealltwriaeth y cyhoedd, ac rwy wedi ymrwymo i helpu i wneud yn siŵr bod ehangder a dyfnder y cyfraniad hwnnw’n cael ei gydnabod a’i werthfawrogi. A minnau’n rhywun sy’n byw yng Nghymru, rwy hefyd yn awyddus i adlewyrchu amrywiaeth gyfoethog ymchwil addysgol ledled y DU, gan gynnwys y cryfderau a’r blaenoriaethau arbennig rydyn ni’n eu gweld ym mhob maes polisi datganoledig.
Mae Chris yn Athro’r Gwyddorau Cymdeithasol, ac yn Gyfarwyddwr Academaidd SPARK, sy’n rhan o adeilad sbarc|spark arobryn Prifysgol Caerdydd. Mae’r Athro Taylor yn arbenigo mewn materion addysgol a chymdeithasol ac mae ei waith yn cynnwys gwerthuso'r Cyfnod Sylfaen ar gyfer pob plentyn 3 – 7 oed yng Nghymru, y Grant Datblygu Disgyblion a chymhwyster Bagloriaeth Cymru. Y llywodraeth sy’n ariannu’r gwaith hwn.
Yn flaenorol, roedd yn Gyd-Gyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil a Data Cymdeithasol ac Economaidd Cymru (WISERD), ac fe sefydlodd Labordy Data Addysg WISERD sy'n defnyddio data gweinyddol addysg i ategu blaenoriaethau addysg yng Nghymru. Mae hefyd yn helpu i drefnu Astudiaeth Aml-Garfan Addysg flynyddol WISERD (WMCCS).
Wrth groesawu’r penodiadau, dywedodd yr Athro Roger Whitaker, y Rhag Is-Ganghellor Ymchwil, Arloesedd a Menter: "Rwyf wrth fy modd bod yr Athro Delbridge a'r Athro Taylor wedi'u penodi'n Gadeirydd ac yn Is-gadeirydd ar gyfer paneli REF 2029. Mae'r penodiadau hyn yn cynrychioli eu hymrwymiad hirsefydlog i ragoriaeth ymchwil ac arwain meddyliau, ac rwy'n siŵr y bydd Rick a Chris yn cynrychioli cymunedau'r DU yn effeithiol yn yr ymarfer pwysig hwn."
Dywedodd Cyfarwyddwr REF, Rebecca Fairbairn: "Mae’n bleser gennyf groesawu'r grŵp rhagorol hwn i arwain is-baneli REF 2029. Bydd eu harbenigedd dwfn a’u safbwyntiau eang yn ganolog i ddatblygu proses asesu deg a thrylwyr y mae’r gymuned ymchwil yn ymddiried ynddi. Rydyn ni wedi bod yn cydweithio â’r sector drwy gydol y broses hon, ac rwy’n ddiolchgar i bawb a fynegodd ddiddordeb – chi sy’n cryfhau hygrededd a gwerth y REF yn ein cymuned ymchwil.”
REF yw system y DU ar gyfer asesu ansawdd ymchwil ymysg darparwyr addysg uwch y DU, ac fe’i cynhelir bob ryw 6-7 mlynedd. Cyfeirir at ganlyniadau’r REF hefyd wrth ddyrannu tua £2 biliwn o gyllid cyhoeddus bob blwyddyn ar gyfer ymchwil prifysgolion.
Bydd cadeiryddion y panel a'r dirprwy gadeiryddion yn arwain eu hunedau asesu trwy'r cam gosod meini prawf, gan ddechrau yn ddiweddarach eleni, a thrwy’r asesiad terfynol. Maent wrthi’n penodi eu paneli llawn ar hyn o bryd, gan wneud yn siŵr bod yr aelodau yn adlewyrchu'r ystod lawn o arbenigedd sydd ei angen. Cyhoeddir y penodiadau hyn yn haf 2025.
Darllenwch ragor am restr lawn y rhai a benodir ar gyfer REF 2029 yma.
Rhannu’r stori hon
Dysgwch sut mae ein hymchwil arloesol yn cael effaith yn fyd-eang.