Canllawiau newydd i adnabod risg uwch o gyflyrau seicolegol a’r galon yn achos cyflyrau prin y croen
28 Mai 2025

Mae canllawiau rhyngwladol ym maes sgrinio cyflyrau prin y croen wedi newid ar ôl i wyddonwyr ddod o hyd i gyfradd uwch o anhwylderau seicolegol a phroblemau'r galon.
Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd wedi dangos bod y cyflwr croen prin, sef ichthyosis X-gysylltiedig, a achosir gan ddileu genetig, yn gysylltiedig â thebygolrwydd uwch o ddiagnosis o anhwylderau niwroddatblygiadol a hwyliau. Mae ymchwil newydd y tîm hefyd wedi dangos bod cludwyr y dileu genetig hwn mewn perygl sylweddol uwch o broblemau rhythm y galon, gan gynnwys mathau o arrhythmia megis ffibriliad atriol.
Dyma a ddywedodd Dr William Davies, o Ysgol Seicoleg ac Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd: “Yn 2019, cyhoeddodd grŵp o arbenigwyr y canllawiau cyntaf yn Ewrop i reoli mathau cynhenid o ichthyosis – digwyddodd hyn yn dilyn cyfarfod o arbenigwyr amlddisgyblaethol i ddatblygu’r gofal gorau posibl ar gyfer cyflwr y croen sy’n seiliedig ar yr wybodaeth sydd ar gael. Bwriadwyd diweddaru’r canllawiau bob 5 mlynedd i gynnwys datblygiadau a chanfyddiadau newydd yn y driniaeth.”
Cafodd canfyddiadau tîm y Brifysgol eu rhoi ar waith yng Nghanllawiau diweddaraf Gofal Rhyngwladol 2024 ar reoli mathau cynhenid o ichthyosis. Yn sgil eu hymchwil, bellach mae sgrinio gan ddermatolegyddion ar gyfer annormaleddau seiciatrig a chardiaidd yn cael ei argymell yn rhan annatod o ofalu am y cyflwr.
Rydyn ni’n hynod falch bod ein hymchwil bellach yn rhan o’r canllawiau gofal ar gyfer cleifion sydd â’r cyflwr hwn, a hynny er mwyn sicrhau bod cleifion ag ichthyosis X-gysylltiedig yn cael y gofal llawnaf posibl sydd ei angen arnyn nhw.
Ychwanegodd Dr William Davies: “Gall cyflyrau niwroddatblygiadol a seiciatrig arwain at oblygiadau difrifol o ran lles unigolion sydd â’r cyflwr, tra y gall mathau o arrhythmia beri cyflyrau meddygol difrifol fel methiant y galon, ataliad y galon, strôc, a dirywiad gwybyddol neu ddementia. Felly, dylai adnabod, monitro ac ymyrryd i drin neu liniaru'r cyflyrau hyn mor gynnar â phosibl fod yn flaenoriaeth."
Drwy dynnu sylw at y problemau posibl hyn i weithwyr meddygol proffesiynol sy’n trin unigolion â mathau cynhenid o ichthyosis yn y canllawiau newydd, y gobaith yw y bydd cyfraddau atgyfeirio at arbenigeddau priodol – gan gynnwys seiciatreg a chardioleg – yn cynyddu, ac y bydd cleifion yn derbyn unrhyw ofal amlddisgyblaethol ychwanegol sydd ei angen arnyn nhw yn brydlon.
Cyhoeddwyd ymchwil y tîm, Medical and neurobehavioural phenotypes in carriers of X-linked ichthyosis-associated genetic deletions in the UK Biobank a Characterising heart rhythm abnormalities associated with Xp22.31 deletion, yn y cyfnodolyn Journal of Medical Genetics.
The update to the guidelines, Management of congenital ichthyoses: guidelines of care: Cyhoeddwyd ‘Part two: 2024 update’ yn y British Journal of Dermatology.