Ewch i’r prif gynnwys

Cymrodyr Cymdeithas Ddysgedig Newydd Cymru i helpu i ddatrys yr heriau y mae'r byd yn eu hwynebu

28 Mai 2025

Padma Anagol, Shannu Bhatia, Jing Maggie Chen, Huw Davies, Gordon Foxall, Deborah Keys, Yukun Lai, Caroline Lear, Anthony Mandal, Angela Mihai, Emmajane Milton, Ken Peattie, Oliver Williams

Mae 15 o academyddion Prifysgol Caerdydd wedi ymuno â rhengoedd elit Cymdeithas Ddysgedig Cymru.

Mae Cymdeithas Ddysgedig Cymru, academi genedlaethol y celfyddydau a'r gwyddorau, wedi ethol 56 o Gymrodyr newydd, y mae pob un ohonyn nhw’n cynrychioli'r gorau o fywyd academaidd, diwylliannol a dinesig Cymru.

Mae sawl aelod o’n staff wedi’u hethol eleni i gydnabod eu harbenigedd a’u profiad ym meysydd ymchwil, ymarfer addysgol ac arweinyddiaeth.

Coleg y Celfyddydau, Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithasol
Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd
  • Dr Shannu Bhatia, Ysgol Deintyddiaeth
  • Yr Athro Alan Fraser, Athro Emeritws, Yr Ysgol Meddygaeth
  • Yr Athro Wisia Furmaniak, Athro Gwadd er Anrhydedd
Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg

Cymerwch olwg ar y rhestr o’n Cymrodyr newydd, ble maen nhw’n gweithio a'u meysydd arbenigedd

Dyma a ddywedodd yr Athro Caroline Lear, Deon Ymchwil ac Arloesedd Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg, ac aelod o Dîm Rheoli Sefydliad Arloesi Sero Net Prifysgol Caerdydd, am ei phenodiad: “Rwy'n falch iawn o gael fy ethol i Gymdeithas Ddysgedig Cymru, ac rwy'n edrych ymlaen at gyfrannu at eu gwaith gan ddefnyddio ymchwil ac arloesedd i fynd i’r afael â’r heriau a wynebir yng Nghymru a ledled y byd."

Caroline Lear
Peth calonogol iawn yw gweld ymrwymiad y Gymdeithas i gynhwysiant, a fydd yn ei galluogi i gyflawni cymaint mwy.
Yr Athro Caroline Lear Deon Ymchwil ac Arloesi, Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg

Meddai’r Athro Hywel Thomas, Llywydd Cymdeithas Ddysgedig Cymru: "Rydym yn wynebu nifer enfawr o heriau, o newid hinsawdd i gythrwfl gwleidyddol, i fygythiadau iechyd sydd yn dod i'r amlwg. Bydd yr ateb i gymaint o'r problemau hyn yn cael ei ddarganfod mewn ymchwil a sefydliadau dinesig cadarn. Mae'r arbenigedd hwnnw'n amlwg yn ein Cymrodyr newydd. Rwy'n falch iawn o'u croesawu i Gymdeithas Ddysgedig Cymru."

Darllenwch y cyhoeddiad yn llawn.