Ewch i’r prif gynnwys

Gallai problemau cysgu ddyblu'r risg o ddementia yn nes ymlaen mewn bywyd

29 Mai 2025

Mae pobl sy'n profi anhwylderau cysgu mewn mwy o berygl o ddatblygu dementia a chyflyrau niwroddirywiol eraill yn nes ymlaen mewn bywyd, yn ôl ymchwil newydd.

Mewn astudiaeth newydd, canfu gwyddonwyr yn Sefydliad Ymchwil Dementia'r DU ym Mhrifysgol Caerdydd a Chanolfan Ryngfurol yr NIH er Alzheimer a Dementiâu Cysylltiedig (CARD) yn yr Unol Daleithiau fod diagnosis o anhwylder cysgu yn gwneud pobl hyd at ddwywaith yn fwy tebygol o ddatblygu clefyd niwroddirywiol yn ystod y 15 mlynedd ddilynol.

Yn un o'r astudiaethau mwyaf hyd yma, bu’r ymchwilwyr yn ymchwilio i’r berthynas rhwng cwsg a chlefyd niwroddirywiol gan ddefnyddio data mwy na 1 filiwn o gofnodion iechyd electronig. Buon nhw’n ymchwilio i ganfod a yw cwsg yr amherir arno yn arwydd cynnar o niwroddirywiad neu a yw'n gwneud rhywun yn fwy tebygol o ddatblygu dementia yn nes ymlaen.

Yn yr astudiaeth, bu’r gwyddonwyr yn ymchwilio i ddata o dri biofanc: banc data Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw (SAIL), Biofanc y DU, a FinnGen. Yn achos y tri biofanc, roedden nhw’n gallu dod o hyd i gofnodion stamp amser manwl gywir a oedd yn cofnodi pryd roedd pobl yn profi anhwylderau cysgu, fel y'u nodwyd yn eu cofnodion meddygol.

Bu’r tîm yn edrych ar bobl a oedd wedi cael diagnosis o un neu ragor o anhwylderau cysgu, a chafodd y rhain eu grwpio at ddibenion dadansoddi data yn anhwylderau sy'n gysylltiedig â rhythm circadaidd, gan gynnwys narcolepsi, apnoea, hypersomnia (awydd gormodol i gysgu yn ystod y dydd), mathau o barasomnia (ymddygiad neu symudiad annormal yn ystod cwsg - megis cerdded yn eich cwsg, ofn gyda’r nos), cataplecsi ac anhwylderau cysgu 'anorganig' nad ydyn nhw’n gysylltiedig â chyflwr ffisiolegol hysbys, gan gynnwys anhunedd cyffredinol a hunllefau.

Gan ddefnyddio dulliau dadansoddi ystadegol ar raddfa fawr, roedd y gwyddonwyr wedi mapio’r perthnasoedd rhwng y clefydau niwroddirywiol ac anhwylderau cysgu gwahanol. Dyma rai o'u canfyddiadau:

  • Yn achos dementia (diagnosis cyffredinol, clefyd penodol anhysbys), roedd achosion o anhwylderau cysgu circadaidd ac anhwylderau cysgu anorganig yn gysylltiedig â risg uwch o ddementia yn ystod y 10-15 mlynedd dilynol. Cynyddodd y risg yn fwy yn achos y bobl y cofnodwyd bod ganddyn nhw sawl anhwylder cysgu.
  • Yn achos clefyd Alzheimer, roedd anhwylderau cysgu circadaidd yn cynyddu'r risg o glefyd Alzheimer yn ystod y 10-15 mlynedd yn dilyn diagnosis o anhwylder cysgu.
  • Cynyddodd anhwylderau cysgu circadaidd ac anhwylderau cysgu anorganig y risg o ddementia fasgwlaidd yn ystod y 5-10 mlynedd yn dilyn diagnosis o anhwylder cysgu. Cynyddodd y risg yn fwy yn achos y bobl y cofnodwyd bod ganddyn nhw sawl anhwylder cysgu.
  • Cynyddodd anhwylderau cysgu circadaidd ac anhwylderau cysgu anorganig y risg o glefyd Parkinson yn ystod y 10-15 mlynedd yn dilyn diagnosis o anhwylder cysgu.

Datgelodd yr astudiaeth hefyd fod anhwylderau cysgu yn cynyddu'r risg o glefyd Alzheimer a Parkinson, yn annibynnol ar y risg genetig. Yn achos pobl â risg genetig isel, roedd anhwylder cysgu yn cynyddu’r risg yn gyffredinol. Mae hyn yn awgrymu bod anhwylderau cysgu a geneteg yn debygol o ddylanwadu ar y risg ar wahân gan eu bod yn fecanweithiau annibynnol.

Dyma a ddywedodd Dr Emily Simmonds, Biowybodegydd yn Sefydliad Ymchwil Dementia'r DU ym Mhrifysgol Caerdydd: “Yn ein hastudiaeth ni, roedden ni eisiau deall y berthynas gymhleth rhwng cwsg a dementia. Yn aml, bydd gan bobl sy'n byw gyda dementia broblemau cysgu, ond does dim digon o dystiolaeth hyd yn hyn i ddweud yn sicr a yw cwsg gwael yn cynyddu'r risg o ddementia.

“Aethon ni ati i weld a allen ni ddarganfod ym mha drefn mae’r pethau hyn yn digwydd. Drwy ddefnyddio data’r biofanciau, roedd gennym gofnodion stamp amser a oedd yn cofnodi pryd yr oedd gan bobl anhwylderau cysgu, a phryd yn union y cawsant ddiagnosis o glefyd niwroddirywiol wedi hynny – yn hytrach na dibynnu ar hunanadrodd."

Mae ein canlyniadau’n argyhoeddiadol, gan ddangos risg uwch glir o glefyd niwroddirywiol yn dilyn anhwylder cysgu, a hynny ar draws tair set ddata fawr y biofanciau.
Dr Emily Simmonds, Biofeddyliwr yn Sefydliad Ymchwil Demens yng Nghaerdydd

Drwy ddadansoddi cofnodion iechyd mwy na miliwn o bobl, rydyn ni wedi canfod tystiolaeth sy’n awgrymu bod anhwylder cysgu yn cynyddu’n sylweddol y risg o ddatblygu clefyd niwroddirywiol yn nes ymlaen. Mewn gwirionedd, roedd y risg uwch hon yn bresennol am hyd at 15 mlynedd yn dilyn diagnosis o anhwylder cysgu, ac roedd y risg hyd yn oed yn fwy yn achos y bobl roedd ganddyn nhw anhwylderau cysgu cylchol.
Athro Valentina Escott-Price, Arweinydd Grŵp yn Sefydliad Ymchwil Dementia'r DU ym Mhrifysgol Caerdydd

Dyma a ddywedodd yr Athro Valentina Escott-Price, Arweinydd Grŵp Sefydliad Ymchwil Dementia'r DU ym Mhrifysgol Caerdydd: “Efallai mai’r hyn sydd fwyaf diddorol yw bod y risg uwch hon yn digwydd yn annibynnol ar y ffactorau risg genetig yn achos clefyd Alzheimer a Parkinson, ac mae anhwylderau cysgu bron iawn yn ‘gwneud yn iawn’ am y risg genetig isel. Pe bai anhwylderau cysgu yn cael eu hachosi gan niwroddirywio, byddai rhywun yn disgwyl y byddai risg genetig anhwylder cysgu a chlefyd niwroddirywiol yn cyd-fynd â’i gilydd. Mae angen rhagor o ymchwil ar hyn, ond mae hyn yn awgrymu bod anhwylderau cysgu yn ffactor risg yn achos y cyflyrau hyn.”

Mewn ymchwil yn y dyfodol, nod yr awduron yw ystyried effaith meddyginiaeth i ganfod a yw gwella cwsg drwy ddefnyddio meddyginiaeth yn arwain at leihau'r risg.