Ewch i’r prif gynnwys

Cwrdd â'r Ymchwilydd: Maxim Filimonov

27 Mai 2025

Beth yw eich prif faes ymchwil?   

Rwy wedi bod yn rhan o nifer o brosiectau, ac wedi bod yn gweithio ym Mhrifysgol Caerdydd fel Peiriannydd Meddalwedd Ymchwil ers pum mlynedd. Os oes angen cymorth ymchwil neu beirianneg feddalwedd ar unrhyw un, maen nhw'n cysylltu â ni, ac rydyn ni’n rhoi unrhyw gymorth y gall fod ei angen arnyn nhw.

Pam ddaethoch chi’n ymchwilydd/academydd?

Roeddwn i wastad eisiau bod yn ofodwr pan oeddwn i'n blentyn ac roeddwn i'n gwybod bod yn rhaid i chi fod yn glyfar, yn wybodus am wyddoniaeth, mathemateg a ffiseg i fod yn ofodwr, felly fe wnes i astudio’r pynciau hyn yn y brifysgol. Yn anffodus, ni allwn i ddod yn ofodwr, ond rwy nawr yn ymchwilydd, felly rwy’n gwneud yr ymchwil ac yn hoffi dyfeisio pethau newydd.

A oes unrhyw agwedd benodol ar eich ymchwil yr hoffech dynnu sylw ati?

Fy mhrif brosiect presennol yw'r asesiad cynnar, amser go iawn y tswnami. Rydyn ni’n dadansoddi tonnau disgyrchiant acwstig sy’n cael ei gynhyrchu gan ddaeargrynfeydd ac rydyn ni’n gallu rhagweld tebygolrwydd tswnami ledled y byd. Gall y system a ddatblygwyd cyflawni'r dadansoddiad llawn mewn munudau, felly gallwn ni gyhoeddi rhybuddion cynnar cyn gynted â phosibl. Ond yn bwysicaf oll gallwn ni leihau nifer yr ymatebion anghywir.

Beth yw'r camau nesaf ar gyfer eich prosiect ymchwil?

Y camau nesaf yn y prosiect yw gweithredu'r system yn un o ganolfannau rhybuddio tswnami yn rhywle yn y Môr Tawel, yn ddelfrydol oherwydd bod y rhan fwyaf o ddaeargrynfeydd yn digwydd yn rhanbarth y Môr Tawel. Hoffem gael ein system yno fel y gellir ei defnyddio ar gyfer dadansoddi daeargrynfeydd ac asesiad tswnami mewn amser go iawn a sefyllfaoedd go iawn.

A yw eich ymchwil yn cael effaith fyd-eang?

Mae tswnamis yn digwydd ym mhobman ac fe allan nhw fod yn ddinistriol iawn. Hoffem allu anfon rhybuddion yn gynt fel y gall pobl ddianc oherwydd mae rhai tswnamis yn hawlio nifer fawr o fywydau. Gall gael effaith sylweddol ar ranbarthau arfordirol. Os defnyddir ein system, yna gallwn ni achub bywydau.

Beth fu eich cyflawniad mwyaf fel ymchwilydd?

Cafodd y prosiect ei gynnwys ar restr fer y llynedd ar gyfer prosiect ymchwil y flwyddyn yng Ngwobrau Addysg Uwch yn y DU. Yn anffodus, wnaethon ni ddim ennill, ond gallwn ni bob amser geisio eto y flwyddyn nesaf!

Beth arall hoffech chi dynnu sylw ato nad ydyn ni wedi'i drafod?

Prosiect arall rwy wedi gweithio arni oedd cymhwysiad gwe ar gyfer y GIG. Roedd y rhaglen we hon ar gyfer rheoli llwyth gwaith nyrsys. Felly, fe wnaethon nhw sgorio eu gwaith ar bob claf yn seiliedig ar ffactorau penodol a wnaethon ni eu datblygu, ac yna gallai'r uwch nyrsys reoli llwyth gwaith y staff yn well a helpu i lenwi bylchau lle bo angen.

Mae'n debyg mai'r rhan orau o fod yn ymchwilydd yw fy mod i bob amser yn gallu dysgu pethau newydd ond yn bwysicaf oll, galla’i hefyd gymhwyso'r pethau hynny yn fy ngwaith ac mae hynny'n ei gwneud hi'n gyffrous iawn. Rwy'n mwynhau'r swydd hon gan fod pob prosiect yn wahanol, sy'n caniatáu i mi ddefnyddio amrywiaeth o dechnolegau a hyd yn oed ieithoedd rhaglennu, sy'n wych!

Rhannu’r stori hon