Prifysgol Caerdydd yn dathlu diwylliant Cymru yn Eisteddfod yr Urdd
23 Mai 2025

Mae pobl ifanc sy'n ymweld ag Eisteddfod yr Urdd yn dysgu am yr ystod o brofiadau sydd ar gael fel myfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd.
Mae rhaglen lawn o ddigwyddiadau, gweithgareddau a pherfformiadau yn yr ŵyl eleni ym Mharc Margam, Port Talbot, o 26 i 31 Mai.
Bydd Ysgol Peirianneg y Brifysgol yn arddangos eu car rasio a gallwch chi ymgolli ym myd cyffrous codio gyda robotiaid LEGO ochr yn ochr â'n tîm Cyfrifiadureg brwdfrydig.
Gall ymwelwyr wirio eu golwg gydag aelodau o'r Ysgol Optometreg a mynd i'r afael â cheudodau dannedd gyda'r Ysgol Deintyddiaeth.
Gallant ddysgu am ryfeddodau'r bydysawd gyda’r Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth a datrys posau gyda’r Ysgol Mathemateg.
Bydd panel myfyrwyr yn trafod Cynnig Caerdydd – y ddarpariaeth, y cyfleoedd a’r profiadau sydd ar gael yn y Brifysgol drwy gyfrwng y Gymraeg.
Bydd Undeb Myfyrwyr Caerdydd hefyd ar gael i siarad am y gefnogaeth a'r cyfleoedd maen nhw'n eu cynnig i fwy na 30,000 o fyfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd.
Prifysgol Caerdydd sy’n noddi coron Eisteddfod yr Urdd 2025, a fydd yn cael ei dyfarnu mewn seremoni arbennig ar y Maes brynhawn Gwener.
Dywedodd Deon y Gymraeg, Dr Angharad Naylor: “Mae Eisteddfod yr Urdd eleni am fod yn un cyffrous – yn arddangos y cyfleoedd ymchwil a dysgu anhygoel sydd ar gael ym Mhrifysgol Caerdydd. Rydyn ni’n edrych ymlaen at gwrdd â phobl ifanc a sefydliadau eraill yn ystod yr wythnos yn ogystal â bod yn rhan o ddathliad o ddiwylliant Cymru ar ei orau.”
Mae rhaglen lawn gweithgareddau Eisteddfod yr Urdd 2025 ar gael yma.