Uncovering hidden histories: launch of the Alternative Guide to the Glamorgan Building
20 Mai 2025

Mae taith gerdded newydd, Y Canllaw Amgen i Adeilad Morgannwg, yn gwahodd staff, myfyrwyr ac ymwelwyr i ymgolli yn yr adeilad ac i ystyried sut mae ein lleoedd yn dylanwadu ar faterion sy’n ymwneud hunaniaeth, perthyn a chynhwysiant, ac hefyd sut mae’r rhain yn dylanwadu ar leoedd.
Mae Adeilad Morgannwg yn gartref i'r Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio ac Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol.
Mae'r canllaw hwn wedi’i ysgrifennu a'i recordio gan fyfyrwraig israddedig, Poppy Gray, yn rhan o interniaeth ymchwil haf yn gweithio gyda Dr Esther Muddiman (Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol) a Dr Agatha Herman (Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio). Mae’n datgelu ambell un o’r straeon a’r hanesion cymdeithasol llai adnabyddus a geir yn waliau Adeilad Morgannwg.

Gan gymryd ysbrydoliaeth o gyfweliadau â staff a myfyrwyr, mae'n cynnig persbectif personol a beirniadol ar adeilad sy’n gyfarwydd i lawer, ond sy'n dal mwy na chanrif o hanes cymhleth ac anghyfforddus ar adegau.
Er bod rhannau o'r adeilad wedi newid dros amser, mae llawer o nodweddion yn parhau i fod yn union fel yr oedden nhw pan gafodd ei adeiladu gyntaf. Mae'r canllaw hwn yn annog gwrandawyr i ystyried sut mae dyluniad a’r adeilad ei hun yn adlewyrchu penderfyniadau a wnaed ar sail rhywedd, dosbarth a hil benodol, a sut mae'r etifeddiaeth honno’n parhau i ddylanwadu ar ein profiadau heddiw.

Dywedodd Dr Agatha Herman o’r Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio: "Mae llawer ohonon ni’n astudio, gweithio ac yn cysylltu â phobl yn Adeilad Morgannwg, ond mae hefyd yn adeilad ag iddo hanes dwfn a chymhleth. Mae'r canllaw hwn yn rhoi cyfle i ni feddwl yn wahanol am y lleoedd rydyn ni'n symud drwyddyn nhw bob dydd a sut maen nhw'n dylanwadu ar ein hymdeimlad o berthyn."
Mae'r prosiect yn ffrwyth cydweithio rhwng yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol a'r Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio, ac mae wedi derbyn cyllid gan yr Academi Dysgu ac Addysgu. Mae'n rhan o ymdrechion ehangach i ddechrau sgwrs am degwch ac amrywiaeth yn adeiladau ein prifysgol.

Mae'r canllaw bellach ar gael i bob aelod o’r staff, i fyfyrwyr ac i ymwelwyr. P'un a ydych chi'n newydd i'r adeilad neu wedi troedio’r coridorau ers blynyddoedd, mae'n cynnig persbectif newydd ar sut beth yw teimlo eich bod chi'n perthyn i le.