Yr Athro Anthony Mandal yn cael ei ethol yn Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru
20 Mai 2025

Rydyn ni’n falch dros ben o gyhoeddi bod yr Athro Anthony Mandal wedi cael ei ethol yn Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru, yr academi genedlaethol sy'n cydnabod cyfraniadau rhagorol i'r celfyddydau, y dyniaethau, y gwyddorau a bywyd cyhoeddus yng Nghymru.
Mae'r Athro Mandal yn arbenigo mewn hanes llyfrau, y dyniaethau digidol, a llenyddiaeth y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac yn un o 56 o unigolion nodedig a etholwyd eleni. Mae ei gymrodoriaeth yn cydnabod ei waith fel arweinydd, ei ragoriaeth ymchwil, a'i gyfraniadau parhaus i fywyd academaidd a diwylliannol Cymru.
Yr Athro Mandal yw Cyfarwyddwr y Ganolfan Ymchwil Olygyddol a Rhyngdestunol, sef canolfan ar gyfer ysgolheictod mewn astudiaethau testunol a'r dyniaethau digidol. Mae hefyd yn aelod o Ganolfan Ymchwil y Dyniaethau a Diwylliannau Digidol, sy'n meithrin cydweithio rhyngddisgyblaethol yn y byd academaidd, ym maes treftadaeth ac yn y sectorau creadigol.
Mae ei waith ymchwil yn cwmpasu pynciau sy’n cynnwys ffuglen gothig, ysgrifennu menywod, a hanes y diwylliant print. Mae wedi cyhoeddi llawer ynghylch awduron megis Jane Austen, Mary Brunton, a Robert Louis Stevenson, ac ar hyn o bryd mae'n arwain prosiect sylweddol, The Cambridge Feminist History of Women's Writing, from the Middle Ages to the Present (Gwasg Prifysgol Caergrawnt, 2027).
Y tu hwnt i'w waith ymchwil, mae'r Athro Mandal yn ysgolhaig cyhoeddus ac yn arweinydd academaidd ymroddedig. Bu’n Llywydd Cymdeithas Astudiaethau Rhamantaidd Prydain (BARS) rhwng 2019 a 2024, ar ôl gweithio’n Is-lywydd yno.
Mae'n rhannu ei arbenigedd mewn darlithoedd cyhoeddus, gwyliau, a digwyddiadau allgymorth, a hefyd yn ysgrifennu ar gyfer platfformau megis The Conversation.