Ewch i’r prif gynnwys

Mae academyddion wrthi’n ymchwilio i effaith technolegau digidol ar y gymdeithas

20 Mai 2025

Menyw ifanc yn chwarae gêm fideo

Mae cyfleoedd a heriau’r oes ddigidol yn destun archwilio gan academyddion o bob rhan o Brifysgol Caerdydd.

Cynllun newydd yw'r Ganolfan Ymchwil ar y Dyniaethau a Diwylliannau Digidol sy'n dwyn ynghyd ymchwilwyr o’r ysgolion canlynol: Hanes, Archaeoleg a Chrefydd; Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth; Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant; Cyfrifiadureg a Gwybodeg; a'r Gwyddorau Cymdeithasol.

Mae'r arweinyddiaeth hon yn digwydd mewn partneriaeth â Chasgliadau Arbennig ac Archifau Prifysgol Caerdydd, gan ehangu ar fuddsoddiad allanol gwerth £300,000 mewn cyfleusterau digideiddio ac arbenigedd digidol o'r radd flaenaf.

Mae technolegau digidol yn datblygu'n hynod gyflym – ond rydyn ni’n deall llai ar eu heffaith ar sut rydyn ni’n ymwneud â diwylliant ac yn gwneud synnwyr o'r byd. Bydd academyddion o ddisgyblaethau gwahanolyn cynnig arbenigedd o bwys ynghylch y datblygiadau hyn, a gallai hyn yn ei dro lywio byd polisi, yn ogystal â busnesau a'r sectorau creadigol a threftadaeth sy’n ymddiddori ym mhotensial technolegau digidol newydd.

Dyma a ddywedodd Dr Esther Wright, y mae ei hymchwil yn ymchwilio i'r ffordd y mae gemau fideo hanesyddol yn cynrychioli’r gorffennol ac yn gwneud ystyr ohono: “Bellach, mae offer a thechnolegau digidol yn rhan arferol o’n bywyd bob dydd rydyn ni’n ei chymryd yn ganiataol. Ond beth mae hynny'n ei olygu i ddyfodol cymdeithas ddynol, diwylliant a chreadigrwydd, yn ogystal ag i ymchwil gan academyddion? Bydd y ganolfan uchelgeisiol newydd yn dod ag academyddion o ddisgyblaethau gwahanol ynghyd i fynd i'r afael â heriau cyfoes yn ogystal ag ateb cwestiynau newydd sy’n codi yn sgil hyn."

Esther Wright
Rhan amlwg o waith y ganolfan fydd astudio’r gorffennol a’r presennol, gan dynnu ar ystod o safbwyntiau i ddod â materion hanesyddol a chyfoes yn fyw. Bydd datblygu gyrfaoedd ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa hefyd yn bwysig. Bydd mentrau parhaus a newydd ar y cyd â phartneriaid byd diwydiant a rhanddeiliaid cymunedol yn gwella’r ffordd rydyn ni’n mynd i’r afael â’r maes, gan sicrhau bod ein gwaith yn ymdrin ag anghenion y byd go iawn.
Dr Esther Wright Uwch Ddarlithydd mewn Hanes Digidol, Arweinydd Strategaeth Ddigidol

Ychwanegodd: “Mae gen i ddiddordeb arbennig yn y ffaith bod gemau, a mathau eraill o gyfryngau digidol rhyngweithiol, yn arwyddocaol yn y ffordd y bydd pobl yn gwneud synnwyr o’r gorffennol, yn meddwl am y presennol ac yn dychmygu dyfodol posibl. Mae ymchwilio i sut a pham maen nhw'n gwneud hyn yn ystyriaeth o bwys i’r dyniaethau a diwylliannau digidol, ac rydyn ni eisoes yn datblygu ystod o arbenigedd rhyngddisgyblaethol yn y meysydd hyn i fynd i’r afael â hyn.”

Dyma a ddywedodd yr Athro Julia Thomas, y mae ei gwaith yn digwydd ar y groesffordd rhwng delweddau hanesyddol a thechnolegau digidol: “Mae amgylchedd digidol yn gwneud delweddau o’r gorffennol yn hygyrch inni fel erioed o’r blaen, ond yn eironig ddigon, mae’r delweddau hyn mewn perygl o gael eu colli gan nad oes modd dod o hyd iddyn nhw ar-lein bob amser. Rydyn ni eisiau harneisio gweledigaeth gyfrifiadurol a deallusrwydd artiffisial er mwyn sicrhau bod modd chwilio am y delweddau hyn a gweld delweddau hanesyddol y gorffennol yn y dyfodol.”

Dyma a ddywedodd Dr Jess Hoare, y mae ei hymchwil yn ymchwilio i’r ffordd mae technolegau arloesol yn dylanwadu ar y berthynas rhwng emosiwn a phrofiadau ym maes treftadaeth a diwylliant: “Bydd technolegau’n ailddyfeisio’n barhaus y ffordd rydyn ni’n ymgysylltu â’r gorffennol, yn gwneud synnwyr o’r presennol, ac yn dychmygu ein dyfodol. Weithiau ailddyfeisio cynnil sydd ar waith ond weithiau y gwrthwyneb sy’n wir — ond teimlir yr effaith yn y straeon rydyn ni'n eu hadrodd, lleisiau pwy sy'n cael eu clywed a phwy sy'n cael ei adael allan. Yng Nghanolfan Ymchwil y Dyniaethau a Diwylliannau Digidol y Brifysgol caiff arbenigwyr fynd i’r afael â'r materion hyn mewn ffordd feirniadol a chreadigol.”

Dyma a ddywedodd Dr Jenny Kidd, y mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar dechnolegau sy'n dod i'r amlwg ym maes diwylliant a threftadaeth: “Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at lansio’r ganolfan, gan y bydd yn braenaru’r tir ar gyfer rhagor o greadigrwydd a chydweithio ledled y Brifysgol a’r tu hwnt iddi.”

Dyma a ddywedodd Dr Daniel J. Finnegan, Uwch-ddarlithydd yn yr Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg: “Mae DA wedi ffynnu yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac mae llawer yn ofni’r effeithiau negyddol y bydd yn eu cael hwyrach ar y gymdeithas. Rydyn ni’n ymchwilio i’r posibiliadau hyn, yn ogystal â thechnolegau eraill sy'n dod i'r amlwg, a hynny mewn ffordd resymol a digyffro. Ein nod yw deall y ffordd orau o fabwysiadu DA yn ein bywydau bob dydd fel bod y manteision ar gael i bawb mewn ffordd deg.”

Cefnogir y ganolfan gan Gronfa Diwylliant Ymchwil Prifysgol Caerdydd ac yn ystod y misoedd nesaf mae cynlluniau ar y gweill i gysylltu â phobl greadigol lleol a phartneriaid byd diwydiant.

Dyma a ddywedodd yr Athro Claire Gorrara, Deon Ymchwil Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol: “Dyma gyfle cyffrous i ehangu arbenigedd rhyngddisgyblaethol yn y dyniaethau digidol yng Nghaerdydd i fynd i’r afael â materion pwysfawr ein hoes."

Claire Gorrara
Gan ein bod yn meddu ar arbenigedd blaengar ysgolheigion ledled ystod o feysydd, gallwn ni fanteisio ar allu ac arloesi’r ymchwil i wneud gwahaniaeth go iawn i gymunedau y tu hwnt i'r byd academaidd, megis llunwyr polisïau a byd busnes a threftadaeth, o ystyried bod digido’n rhan annatod o'u hymarfer a'u dyfodol.
Yr Athro Claire Gorrara Deon Ymchwil ac Arloesi ar gyfer Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol, Athro Astudiaethau Ffrangeg

Rhannu’r stori hon