Gallai’r Amason oroesi sychder hirdymor ond byddai’r pris yn un uchel, yn ôl astudiaeth
22 Mai 2025

Efallai y gallai coedwig law’r Amason oroesi sychder hirdymor yn sgil newidiadau yn yr hinsawdd, ond byddai addasu i fyd sychach a chynhesach yn cael effaith enbyd arni, yn ôl astudiaeth newydd.
Mae'r canfyddiadau'n dangos ei bod yn bosibl y byddai addasu i effeithiau newidiadau yn yr hinsawdd yn golygu bod rhannau o fforest law'r Amason yn colli llawer o'i choed mwyaf, gan ryddhau carbon sydd wedi'i storio ynddyn nhw i'r awyr a lleihau gallu’r goedwig law i ddal carbon.
Disgwylir i rannau o'r Amason fynd yn sychach ac yn gynhesach wrth i'r hinsawdd newid, ond ychydig rydyn ni’n ei ddeall ar yr effeithiau hirdymor ar goedwigoedd glaw'r rhanbarth sy'n ymestyn dros fwy na 2 filiwn milltir sgwâr.
Mae ymchwil flaenorol wedi codi pryderon y gallai cyfuniad o gynhesu a sychu difrifol, ynghyd â datgoedwigo, arwain at ddirywiad yn nifer y coedwigoedd glaw iraidd a choedwigoedd teneuach neu safana hyd yn oed.
Bellach, mae canfyddiadau'r astudiaeth fwyaf i’w chynnal hyd yn hyn o sychder mewn coedwigoedd glaw trofannol wedi datgelu rhai o'r newidiadau enbyd a allai ddod i ran yr Amason mewn byd sychach.
Dros gyfnod o 22 mlynedd, mae ardal un hectar o goedwig law yng ngogledd-ddwyrain Brasil yn yr Amason – tua maint Sgwâr Trafalgar – wedi bod yn destun amodau sychder hirdymor.

Dechreuodd yr arbrawf yn 2002 pan osodwyd miloedd o baneli tryloyw uwchben y ddaear i symud tua hanner y dŵr glaw i system o gwteri, gan ei ddargyfeirio o'r coed.
Mae dadansoddiad gan dîm rhyngwladol o wyddonwyr yn dangos i’r rhan fwyaf o goed mwyaf yr ardal yn yr astudiaeth farw yn ystod 15 mlynedd cyntaf yr arbrawf, ac wedi hynny ymsefydlogodd y goedwig.
Saith mlynedd ar ôl y colledion cychwynnol mewn biomas, dengys eu canfyddiadau fod cynnydd wedi bod ym maint y dŵr a oedd ar gael i'r coed a oedd wedi goroesi. Roedd y profion ar y coed sy'n weddill yn dangos nad oedden nhw bellach dan fwy o straen oherwydd sychder na'r rheini mewn coedwig law gyfagos nad oedden nhw’n destun sychder.
Dyma a ddywedodd Dr Paulo Bittencourt, un o gyd-awduron yr astudiaeth o Brifysgol Caerdydd: “Roedd ymchwilwyr ledled y byd, a ninnau yn eu plith, yn ceisio deall a allai Coedwig yr Amason fod yn fwy gwydn os bydd sychder yn y dyfodol wrth i’r coed eu hunain addasu i straen cynyddol oherwydd sychder, ond nid yw’r data sydd ar gael yn cefnogi hyn.
“Yn yr astudiaeth hon, ar ôl marwolaeth y coed mawr, canfuon ni fod gan y coed a oedd wedi goroesi lai o gystadleuaeth am ddŵr.

Er bod pawb yn disgwyl i wytnwch coedwig yr Amason ddeillio o addasiadau yn ffisioleg y coed, mae ein gwaith yn dangos bod gwytnwch coedwig yr Amason yn deillio o adborth ar lefel yr ecosystem – ystyr llai o goed yw bod mwy o ddŵr ar gael i’r rhai sy’n weddill, a’r canlyniad yw nad yw’r goedwig yn chwalu ond yn hytrach yn ymsefydlogi mewn cyflwr newydd lle ceir llai o fiomas.
At ei gilydd, collodd yr ardal fwy na thraean o gyfanswm ei biomas – y boncyffion, y canghennau a'r coesynnau a'r gwreiddiau lle bydd carbon yn cael ei storio mewn llystyfiant byw.
Ar ôl colli carbon oherwydd y cynnydd yn nifer y marwolaethau coed yn ystod 15 mlynedd cyntaf yr astudiaeth, bellach mae’r coed a oedd wedi goroesi yn yr ardal yn gwneud enillion bychain o ran carbon, medd y tîm.
Er bod llai o fiomas coediog yn ardal yr astudiaeth na fforestydd glaw arferol yn yr Amason, mae ganddi fwy o fiomas o hyd na llawer o goedwigoedd sych a safanas. Mae hyn yn dangos bod gan y goedwig law rywfaint o wydnwch hirdymor gerbron yr amodau sychach y bydd yn eu hwynebu hwyrach oherwydd newidiadau yn yr hinsawdd, ond bydd y pris yn uchel.
Ychwanegodd y prif awdur Dr Pablo Sanchez Martinez o Ysgol Geowyddorau Prifysgol Caeredin: “Er ei bod yn bosibl y bydd rhai fforestydd glaw yn gallu goroesi sychder hirfaith oherwydd newidiadau yn yr hinsawdd, mae ein canfyddiadau’n awgrymu y bydd eu gallu hollbwysig i storio a dal carbon efallai yn lleihau’n ddirfawr.”
Mae'n bosibl bod tangyfrifiad wedi bod ym maint y biomas y gallai'r Amazon ei golli, a'r amser y mae ei angen i hyn ymsefydlogi, gan mai dim ond effeithiau sychder ar y pridd a aseswyd yn yr astudiaeth, rhybuddia'r tîm.
Mae angen rhagor o ymchwil i asesu effeithiau tebygol eraill, megis newidiadau yn lleithder yn yr awyr, tymheredd ac effeithiau perthnasol ffactorau eraill sy'n gysylltiedig â'r hinsawdd megis stormydd neu danau, ychwanegon nhw.
Arweiniwyd eu hastudiaeth, a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn Nature Ecology and Evolution, gan Brifysgol Caeredin, Universidade Federal do Pará a'r Museu Paraense Emílio Goeldi, Brasil, ac mewn cydweithrediad â Phrifysgol Caerdydd, Prifysgol Caerwysg a CREAF yn Sbaen.
Cefnogwyd yr ymchwil gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol (NERC), y Gymdeithas Frenhinol a Chronfa Newton Swyddfa Dywydd y DU.
Rhannu’r stori hon
Mae'r Ysgol wedi ymrwymo i sicrhau’r safonau uchaf mewn ymchwil ac addysg ac – o dan arweiniad ymchwil – i ddarparu amgylchedd cyfoethog ac amrywiol.