Arbenigwyr Caerdydd yn dangos effaith Cyflog Byw mewn briff polisi newydd
15 Mai 2025

Mae academyddion o Ysgol Busnes Caerdydd wedi cyhoeddi briff polisi newydd ar gyfer y Sefydliad Cyflog Byw, sy’n dangos sut mae'r Cyflog Byw Gwirioneddol yn enghraifft bwerus o reoleiddio sifil ar waith.
Mae The Real Living Wage as Civil Regulation: An Assessment yn manteisio ar dros ddegawd o ymchwil, gan gynnwys cronfa ddata o 20,000 o Gyflogwyr Cyflog Byw achrededig a dau arolwg cenedlaethol. Cyniga’r asesiad gipolwg newydd ar sut y gall rheoleiddio sifil (safonau gwirfoddol dan arweiniad cymdeithas sifil) sbarduno gwelliannau gwirioneddol yn y farchnad lafur.
Mae'n canfod bod y Cyflog Byw wedi cynnig manteision sylweddol i weithwyr â chyflog isel tra hefyd yn cynnig effeithiau cymedrol, a chadarnhaol yn aml, i gyflogwyr. Mae'r ymgyrch wedi llwyddo drwy apelio at fuddiannau busnes a gweithio ar y cyd ar draws sectorau.
Dywedodd yr Athro Emeritws, Edmund Heery: "Gan ei bod yn dibynnu ar gefnogaeth wirfoddol gan gyflogwyr, mae rheoleiddio sifil yn aml yn cael ei ystyried yn ffordd aneffeithiol o wella amodau cyflogaeth. Fodd bynnag, mae ein hymchwil i’r Cyflog Byw Gwirioneddol yn dangos bod miloedd o weithwyr wedi elwa, gan dderbyn cynnydd cyflog sylweddol yn aml, a bod dros £3.5 biliwn wedi'i drosglwyddo i'r rhai sydd ar gyflog isel.”
“Mae’n awgrymu y gall rheoleiddio sifil chwarae rhan wrth godi safonau llafur, gan weithredu i gefnogi dulliau eraill megis cyfraith cyflogaeth a chynrychiolaeth drwy undebau llafur.”
Cafodd y briff ei ysgrifennu gan yr Athro Emeritws Edmund Heery, yr Athro David Nash a’r Athro Deborah Hann o Ysgol Busnes Caerdydd, gan dynnu ar eu hystod helaeth o ymchwil i'r Cyflog Byw, gan gynnwys Twenty Years of the Living Wage: The Employer Experience, The Real Living Wage in Higher Education, and the book The Real Living Wage: Civil Regulation and the Employment Relationship.
Rhannu’r stori hon
We are a world-leading, research intensive business and management school with a proven track record of excellence.