Ewch i’r prif gynnwys

Bwrsariaethau Bute Energy i roi cymorth i fyfyrwyr gradd meistr

13 Mai 2025

Bydd dau fyfyriwr gradd meistr yn yr Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio yn cael cymorth bwrsariaeth, diolch i rodd hael gan Bute Energy.

Dyfarnwyd y bwrsariaethau i Ella Davies a Cerys Williams, myfyrwyr ar y rhaglen Cynllunio a Datblygu Gofodol (MSc).

Bydd y bwrsariaethau’n helpu myfyrwyr i gwblhau blwyddyn o astudio, gan gefnogi cynllunwyr y dyfodol wrth iddyn nhw ddatblygu arbenigedd ym maes ynni cynaliadwy, polisi amgylcheddol a chynllunio trefol.

Mae Bute Energy, datblygwr blaenllaw o brosiectau ynni adnewyddadwy ar y tir yng Nghymru, wedi ymrwymo i roi cymorth i fyfyrwyr sydd eisiau gwneud gwahaniaeth ym meysydd cynllunio cynaliadwy a newid amgylcheddol. Bydd y bwrsariaethau hyn yn rhoi cymorth ariannol hanfodol i fyfyrwyr, gan ganiatáu iddyn nhw ganolbwyntio ar eu hastudiaethau a'u hymchwil heb bwysau ariannol ychwanegol.

Dywedodd Ella Davies: “Rwy’n llawn cyffro ac yn ddiolchgar fy mod wedi cael fy newis, ac rwy’n awyddus i barhau i weithio a manteisio i’r eithaf ar y cymorth anhygoel hwn.

“Er y bydd hyn yn bendant yn helpu i leddfu’r agwedd ariannol ar fy astudiaethau, bydd yr anogaeth a’r arweiniad y gall ei chynnig yn academaidd yn amhrisiadwy. Diolch yn fawr am y cyfle anhygoel!”

Dywedodd Nia Williams: “Bydd y cymorth gan Bute Energy yn fy ngalluogi i ddatblygu fy sgiliau a’m gwybodaeth o ran cynllunio ymhellach, yn enwedig wrth ganolbwyntio ar atebion ynni adnewyddadwy ac ymgysylltu cymunedol yn y system gynllunio - mae’r ddau yn feysydd rwy’n angerddol amdanyn nhw.

“Rwy’n hynod ddiolchgar am y cyfle hwn ac yn edrych ymlaen at gymhwyso’r hyn rwy’n ei ddysgu yn y cwrs i gael effaith gadarnhaol ac ystyrlon ar gymunedau a’r amgylchedd.”

Dyma a ddywedodd yr Athro Gill Bristow, Pennaeth yr Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio: “Rydyn ni wrth ein boddau gyda’r newyddion am y bwrsariaethau hyn gan Bute Energy ac yn ddiolchgar iawn i’r cwmni am eu cymorth. Bydd y bwrsariaethau hyn yn helpu i wneud yn siŵr y bydd modd i ni arfogi'r genhedlaeth nesaf o gynllunwyr â'r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen i greu dyfodol mwy cynaliadwy.”

Mae'r bwrsariaethau'n dangos cysylltiadau cryf yr Ysgol â diwydiant a llunwyr polisïau, gan sicrhau bod myfyrwyr yn elwa ar brofiadau a chyfleoedd yn y byd go iawn. Trwy gydweithrediadau fel hyn, gall myfyrwyr ymgysylltu â'r datblygiadau diweddaraf ym maes ynni cynaliadwy a chynllunio, gan ennill gwybodaeth sy'n berthnasol i'w gyrfaoedd yn y dyfodol yn uniongyrchol.

Dywedodd Biba Chuta, Partner Symudedd Cymdeithasol ar gyfer Bute Energy: "Mae'r fenter hon yn mynd i'r afael â'r her frys o ddod o hyd i adnoddau ar gyfer y system gynllunio yng Nghymru i gyflymu'r broses o wneud cais am ganiatâd cynllunio a phrosiectau ynni adnewyddadwy. Gyda 55% o staff cynllunio'r cyngor yn rhoi gwybod am broblemau capasiti, mae noddi cynllunwyr y dyfodol drwy addysg yn ateb allweddol. Mae'r fenter gydweithredol hon gyda Phrifysgol Caerdydd yn rhan o'n Strategaeth Sgiliau Sero Net, sy'n anelu at greu llwybrau amrywiol i'r diwydiant ynni adnewyddadwy. Rydyn ni’n falch o fod yn cefnogi'r myfyrwyr talentog ac angerddol hyn ac yn dymuno pob lwc iddyn nhw yn eu hastudiaethau."

Mae ceisiadau ar gyfer bwrsariaethau'r flwyddyn nesaf nawr ar agor.

Rhannu’r stori hon