Treial newydd ar gyfer therapi genynnol maes dementia blaenarleisiol
15 Mai 2025

Bydd treial clinigol newydd yng Nghaerdydd yn ymchwilio i'r defnydd o therapi genynnol unwaith ac am byth i atal y clefyd rhag datblygu mewn cleifion â dementia blaenarleisiol.
Mae treial clinigol Cam 1/2 ASPIRE-FTD yn recriwtio cleifion yn y DU i ymchwilio i’r defnydd o AVB-101, sef therapi genynnol i bobl â dementia blaenarleisiol â mwtaniadau genynnol progranulin (FTD-GRN).
Bydd y treial, dan ofal AviadoBio, yn recriwtio cleifion o bob rhan o Ewrop. Y Ganolfan Niwrotherapïau Uwch ym Mhrifysgol Caerdydd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro fydd safle llawfeddygol y treial yn y DU, gan mai’r ganolfan yw’r unig le yn y DU a all ddosbarthu cyffuriau yn syth i’r ymennydd dynol gan ddefnyddio sganiwr MRI i drin cleifion yn fanwl gywir a gweld delweddau mewn amser real.
Therapi unwaith ac am byth yw’r therapi genynnol newydd hwn, AVB-101, ac mae ganddo’r potensial i atal datblygiad dementia blaenarleisiol. Er mwyn deall yn llawn ei effeithiau ar yr ymennydd, mae gofyn inni oresgyn rhai o'r rhwystrau a all atal cyffuriau rhag cyrraedd yr ymennydd ac mae gofyn inni hefyd fesur yn fanwl sut mae'n gweithio. Yn y Ganolfan Niwrotherapïau Uwch, gallwn ddosbarthu cyffuriau yn uniongyrchol i'r ymennydd, gan dargedu ardaloedd penodol. Ar ben hynny, gallwn wneud hynny mewn sganiwr MRI er mwyn gweld delwedd o’r broses a’i heffaith mewn amser real.
Triniaeth unwaith ac am byth yw AVB-101 sy’n defnyddio gweithdrefn niwrolawfeddygol stereotactig leiaf mewnwthiol yn uniongyrchol i'r thalamws - ardal allweddol yn yr ymennydd yr effeithir arni gan ddementia blaenarleisiol.
Dyma a ddywedodd David Cooper, Prif Swyddog Meddygol AviadoBio: “Mae lansio ASPIRE-FTD a thrin ein cleifion cyntaf gan ddefnyddio AVB-101 wedi bod yn gerrig milltir arwyddocaol yn yr ymchwil ar FTD-GRN a datblygu therapi genynnol. Datblygodd AviadoBio yn sgil ymchwil arloesol yng Ngholeg y Brenin Llundain a Sefydliad Ymchwil Dementia y DU. Mae agor ein safleoedd treialon clinigol yn y DU yn adlewyrchu’r dreftadaeth gref hon ym maes ymchwil, ac rydyn ni’n falch o ddod â’r treial clinigol hwn i’r DU er mwyn ei gwneud yn haws i bobl yng Nghymru sy’n byw gyda chyflwr blaenarleisiol teuluol ei ddefnyddio.”
Rydyn ni’n falch iawn o allu cyflwyno’r treial ASPIRE-FTD drwy lawdriniaeth yng Nghaerdydd, gan gynnig gobaith i gleifion sy'n byw gyda dementia blaenarleisiol yn y DU. Y Ganolfan Niwrotherapïau Uwch yw'r unig ganolfan yn y DU ac yn un o ond dwy ganolfan yn Ewrop sy'n gallu gwneud y math hwn o waith. Cam mawr ymlaen yw’r treial hwn yn y gwaith o chwilio am driniaeth ar gyfer dementia blaenarleisiol, gan arwain hwyrach at droi therapi newydd yn realiti i gleifion.
Dywedodd Suzanne Rankin, Prif Swyddog Gweithredol Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ac Uwch-swyddog Cyfrifol Rhaglen Therapïau Datblygedig Cymru: “Mae'n wych gweld y therapïau datblygedig hyn yn cael effaith gadarnhaol ar gleifion ledled Cymru. Rwy'n falch o weld Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro’n parhau i gyfrannu at yr ymchwil gyffrous hon. Mae'n wych gallu cefnogi gwaith mor arloesol, ac rwy'n ddiolchgar i'n hymchwilwyr a'r tîm ehangach am eu gwaith caled a'u hymroddiad."
Uned BRAIN Prifysgol Caerdydd oedd hen enw’r Ganolfan Niwrotherapiau Uwch, a ariennir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.