Bydd Prifysgol Caerdydd yn arwain prosiect Ewropeaidd gwerth €4m i greu dinasoedd 'gwrthfregus'
12 Mai 2025

Mae Prifysgol Caerdydd yn arwain prosiect ymchwil arloesol gwerth €4 miliwn sy'n anelu at chwyldroi’r ffordd mae dinasoedd yn ymateb i argyfyngau a heriau hirdymor.
Mae AntifragiCity, a ariennir drwy raglen Horizon Europe yr Undeb Ewropeaidd, yn dwyn ynghyd 13 o bartneriaid o saith gwlad, gan gynnwys Bwrdeistref Odessa yn yr Wcráin, i ailddychmygu gwydnwch trefol mewn oes a ddiffinnir gan ansicrwydd a newidiadau tra chyflym. Ymhlith y partneriaid mae ETH Zurich, Prifysgol Aristotle Thessaloniki, a Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol-Economaidd Lwcsembwrg.
Mae'r fenter yn cyflwyno cysyniad "gwrthfregusrwydd" i gynllunio trefol, gan symud y tu hwnt i wydnwch i greu dinasoedd sy’n gwrthsefyll achosion o darfu ond sydd â’r potensial hefyd i fod yn gryfach o'i herwydd. Gan ganolbwyntio’n gryf ar symudedd cynaliadwy, mae prosiect AntifragiCity yn ceisio datblygu cyd-destunau trefol deallus sy'n dysgu, yn addasu ac yn datblygu er mwyn ymateb i straenachoswyr amrywiol.
Mae arweinyddiaeth Prifysgol Caerdydd ar y prosiect yn cyd-fynd yn agos â strategaeth 'Ein dyfodol, gyda'n gilydd' y Brifysgol sy'n blaenoriaethu arloesi, cynaliadwyedd a lles cymunedol. Mewn ymateb i bandemig COVID-19, mae dinas Caerdydd eisoes wedi dechrau rhoi mesurau symudedd trawsnewidiol ar waith megis gostwng terfynau cyflymder a hyrwyddo teithio llesol drwy hybu cerdded a beicio. Mae'r newidiadau hyn yn enghreifftiau pendant o’r ffordd y gall ardaloedd trefol addasu a gwella yn dilyn achosion sylweddol o darfu.
Yn sgil pandemig COVID-19, yr argyfwng ynni, a rhyfel parhaus yn Ewrop, mae dinasoedd yn wynebu heriau digynsail. Diben AntifragiCity yw harneisio'r achosion hyn o darfu a’u troi’n elfennau sy’n creu newid cadarnhaol a systemau trefol sy'n addasu, yn dysgu ac yn gryfach yn y pen draw.
Dyma a ddywedodd arweinydd a chydlynydd y Prosiect, yr Athro Yacine Rezgui yn yr Ysgol Peirianneg: "Drwy gyfuno technoleg â gwybodaeth leol ac awydd dinasyddion i gymryd rhan, ein nod yw paratoi'r ffordd i ddinasoedd cynaliadwy sy’n wydn ond ar ben hynny’n wirioneddol wrthfregus.”
Agwedd unigryw ar y prosiect yw’r ffordd mae’n ymdrin â symudedd trefol yn gymdeithasol-dechnegol, sef ystyried systemau trafnidiaeth yn seilwaith, ond ar ben hynny’n rhwydweithiau deinamig sydd wedi'u hymgorffori'n ddwfn mewn cyd-destunau cymdeithasol ac amgylcheddol. Bydd y prosiect hefyd yn pwysleisio rôl y dinesydd, gan sicrhau bod trawsnewidiadau trefol yn cael eu llunio ar y cyd â'r bobl y mae’r rhain yn effeithio fwyaf arnyn nhw.
Bydd rhaglenni peilot yn digwydd yn Odessa (yr Wcráin), Bratislava (Slofacia), a Larissa ( Groeg), pan fydd tîm y prosiect yn ymdrin â sut y gall dinasoedd ymgorffori egwyddorion gwrthfregus mewn systemau ac arferion beunyddiol. Bydd rhoi’r rhain ar waith yn y byd go iawn yn helpu i fireinio'r fethodoleg a chefnogi’r broses o rannu gwybodaeth ledled dinasoedd Ewrop.
Disgwylir i ganlyniadau AntifragiCity ddylanwadu ar bolisïau cynllunio dinasoedd ledled Ewrop, gan gynnig strategaethau i feithrin cymunedau sy'n ffynnu yn ôl yr angen, a hynny mewn cyfnodau o ansicrwydd.
Rhannu’r stori hon
Mae'r Ysgol yn un ysgolion peirianneg mwyaf blaenllaw'r DU ac mae ganddi enw da am ymchwil o'r radd flaenaf ac amgylchedd addysgu bywiog a chyfeillgar.