Coroni sbarc|spark yn 'Weithle Corfforaethol Gorau' de Lloegr a de Cymru
9 Mai 2025

Enwyd adeilad sbarc|spark Prifysgol Caerdydd, sydd wedi ennill sawl gwobr, yn 'Weithle Corfforaethol Gorau' de Lloegr a de Cymru gan Cyngor Swyddfeydd Prydain (BCO).
Wrth ganmol yr adeilad arloesol, a agorwyd yn swyddogol yn 2022, dyma a ddywedodd beirniaid y BCO: "Mae sbarc|spark yn gosod safon newydd ym maes cydweithio academaidd a byd menter yn sgil yr amwynderau o'r radd flaenaf yno, y lleoedd i gynnal digwyddiadau cyhoeddus a’r cyfuno di-dor rhwng byd ymchwil a menter yn y gwyddorau cymdeithasol."
Tynnwyd sylw yn arbennig at y nodwedd weledol drawiadol a swyddogaethol wrth ganol y cyfan – y grisiau ar ffurf llygad – sy'n troelli i fyny'r saith llawr, gan annog i bobl symud a rhyngweithio, yn ogystal ag at y gweithfannau hyblyg, y labordai a’r ardaloedd arddangos sy'n creu lle ysbrydoledig i fyfyrwyr, academyddion, entrepreneuriaid a'r gymuned ehangach.
Yn sbarc|spark, sy’n rhan o Gampws Arloesi Prifysgol Caerdydd, ceir 12,000m² o weithfannau, labordai, ardaloedd arddangos, ardaloedd hamdden a lleoedd trafod llai. Yma, mae cymuned ddeinamig a chynyddol o fwy na 700 o unigolion o ystod eang o gefndiroedd, ac mae hyn yn symbylu’r gwaith o arloesi a chydweithio ar draws sawl sector.
Mae'n cynnal SPARK — parc ymchwil gwyddorau cymdeithasol cyntaf y byd — gan ddod â 16 o grwpiau ymchwil rhyngddisgyblaethol dan arweiniad Prifysgol Caerdydd at ei gilydd ochr yn ochr â mwy nag 20 o bartneriaid yn y trydydd sector, ac mae’r rhain yn gweithio gyda'i gilydd i fynd i'r afael â heriau lleol a byd-eang.
Dyma a ddywedodd yr Athro Chris Taylor, Cyfarwyddwr Academaidd SPARK: "Rydyn ni wrth ein boddau bod sbarc|spark wedi cael ei enwi'n 'Weithle Corfforaethol Gorau' de Lloegr a de Cymru gan y BCO."
Lle gwirioneddol unigryw yw SPARK, gan mai hi yw parc ymchwil gwyddorau cymdeithasol cyntaf y byd ac yn dod ag ymchwilwyr, llunwyr polisïau a phartneriaid ynghyd mewn gweithle pwrpasol sy'n meithrin cydweithio, creadigrwydd ac effaith. Mae'r wobr hon yn gymeradwyaeth rymus o'n gweledigaeth i greu gweithle, ond ar ben hynny gymuned fywiog sy'n ymroddedig i fynd i'r afael â heriau mwyaf dybryd y gymdeithas.
Yma hefyd mae Arloesi Caerdydd lle ceir mwy na 30 o sefydliadau allanol — boed yn entrepreneuriaid sy’n raddedigion, yn gyrff anllywodraethol neu’n gwmnïau yn y sector preifat — yn ei leoedd cydweithio, ei swyddfeydd y gellir eu rhoi ar osod a’i labordai.
Dyma a ddywedodd Rhys Pearce Palmer, Rheolwr Gweithrediadau Arloesi yn Cardiff Innovations: "Lle hyfryd a chroesawgar, sydd wedi mynd yn gartref i fwy na deg ar hugain o fusnesau o bob maint, llwyfan a sector yw sbarc|spark. Ei ddiben oedd annog cysylltiadau newydd drwy fod yn agored ac yn gymdeithasol. Mae wedi cyflawni'r dymuniadau hynny, ac mae sbarc|spark bellach yn lle ffyniannus lle gall cyfleoedd a phrosiectau newydd ar y cyd ffynnu."
Ar 1 Mai 2025, pan gynhaliwyd We The Curious in Bristol, sef Cinio Gwobrwyo blynyddol Gyda’r Nos De Lloegr a De Cymru dathlwyd safon uchel swyddfeydd y rhanbarth o ran y dylunio, y gosod allan a’r cynaliadwyedd, gan osod safon rhagoriaeth ar draws y sector. Roedd yr enillwyr ar draws saith categori y gystadleuaeth eleni yn rhagori oherwydd y ffocws ar y bobl sy’n gweithio yn yr adeiladau, ac mae hyn yn adlewyrchu pwysigrwydd cynyddol cynhwysiant, lles a pherfformiad amgylcheddol, cymdeithasol a llywodraethu.
Dyma a ddywedodd John Wright, Cadeirydd Pwyllgor BCO de Lloegr a de Cymru: "Mae'r prosiectau hyn yn herio timau dylunio i fod yn greadigol wrth ailddyfeisio adeiladau, creu lleoedd sy'n cefnogi'r amrywiaeth o leoliadau gwaith a chymdeithasol sydd eu hangen mewn gweithle modern, gan gynnig cyfleoedd i greu adeiladau hynod gynaliadwy. Mae swyddfeydd yn parhau i fod yn hollbwysig mewn unrhyw dref neu ddinas fywiog, ac mae'r prosiectau buddugol yn enghreifftiau gwych o’r ffordd y gall dylunio creadigol a deallus gyfrannu at gymunedau ffyniannus."
Bellach, bydd enillwyr gwobrau de Lloegr a de Cymru yn cystadlu am Wobrau Cenedlaethol BCO ar 7 Hydref 2025 yn Nhŷ Grosvenor, Llundain.
Rhannu’r stori hon
Yma, cewch wybod sut mae ein rhagoriaeth ym meysydd ymchwil, trosglwyddo technoleg, datblygu busnesau a mentrau myfyrwyr, yn arwain ein gweledigaeth.