Ewch i’r prif gynnwys

Nifer o staff academaidd yn cael eu cydnabod am gyfraniadau rhagorol at fywyd prifysgol

8 Mai 2025

Three people posing for headshots

Mae 8 o staff academaidd o’r Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd wedi’u henwebu ar gyfer y Gwobrau Cyfoethogi Bywyd y Myfyrwyr (ESLA).

Mae pob un o staff yr Ysgol wedi’u cydnabod gan staff eraill a myfyrwyr ar gyfer gwobrau eleni.

Mae’r ESLAau yn cydnabod gwaith caled y rhai sydd wedi gwneud cyfraniad positif at brofiad y myfyrwyr, ac fe’u cynhelir mewn partneriaeth rhwng Prifysgol Caerdydd ac Undeb y Myfyrwyr.

Daeth 1,950 o enwebiadau - y mwyaf erioed! - ar draws 16 categori eleni, gydag 8 o’r Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd wnaeth ddisgrifio sut deimlad oedd derbyn enwebiad:

Yr Athro Lloyd Llewllyn-Jones, Hanes yr Henfyd
Y Profiad Dysgu Mwyaf Rhagorol

Sut deimlad yw bod ar y rhestr fer ar gyfer y wobr hon?

Mae bod ar y rhestr fer ar gyfer gwobr y Profiad Dysgu Mwyaf Rhagorol yn hyfryd! Mae’n bleser ac yn fraint gwybod bod y myfyrwyr yn gwerthfawrogi fy ngwaith fel hyn. Rwy’n addysgu gyda chalon, ac yn rhoi 100% yn y dosbarth a’r ddarlithfa. Mae dysgu’n heintus chi’n gweld, ac mae bod yn frwdfrydig a mynegi cariad at y pwnc yn golygu bod myfyrwyr yn teimlo’r un peth â chi! Dyna yw fy athroniaeth erioed, ac mae wedi bod o fudd i mi yn fy ngyrfa dysgu ac addysgu dros 20 mlynedd!

A wnaeth unrhyw ddarn o waith neu ddigwyddiad penodol arwain at yr enwebiad? Os do, beth oedd e?

Rwy’n dysgu’n helaeth ar draws SHARE. Er hynny, fel Athro Hanes yr Henfyd, y byd hynafol yw fy mara a menyn a’m cariad mwyaf. Rwy’n addysgu pethau mor amrywiol â The Handmaid’s Tale, Hanes, Ysbrydion a Chythreuliaid ym Mesopotamia, Llenyddiaeth yr Hen Aifft, yr Almaen Natsïaidd a Defnydd y Byd Hynafol Clasurol, Hanesion Anifeiliaid, Hunaniaethau Trawsryweddol yn y Byd Hynafol ac Agweddau at Persia Hynafol yn Iran Modern. Chi’n gweld, mae Hanes yr Henfyd yn fyw, yn bwysig ac ym mhobman o’n cwmpas ni! Rwyf wrth fy modd â’r amrywiaeth a’r ystod eang sy’n deillio o Hanes yr Henfyd: Gallaf weithio ar draws cyfnodau, diwylliannau a daearyddiaeth. Felly, dwi’n gobeithio i’r enwebiad a chael fy rhoi ar y rhestr fer ddeillio o’r pynciau amrywiol dwi’n eu cynnig: mae ‘na rywbeth at ddant pawb!

Oes unrhyw un neu unrhyw beth yr hoffech ei gydnabod ynghylch yr enwebiad?

Dwi eisiau dweud diolch yn fawr i’r myfyrwyr. Dim ond drwy fod â myfyrwyr bodlon a galluog y gallwn fod yn addysgwyr effeithiol. Dwi hefyd am ddiolch i’m cydweithwyr yn Adran Hanes yr Henfyd a Chrefydd. Mae hi’n anodd arnom ni i gyd ar hyn o bryd, ond dewch inni barhau i gydweithio, ymrwymo i’n myfyrwyr ac edrych ymlaen at ddyfodol gwell i’r pynciau rydyn ni’n eu caru.

Dr Marion Loeffler
Goruchwyliwr Doethurol y Flwyddyn

Sut deimlad yw cael eich enwebu ar gyfer y wobr hon?

Dwi’n cael fy enwebu ar gyfer o leiaf un wobr bob blwyddyn ond mae eleni yn arbennig iawn, oherwydd mae dau hanesydd benywaidd, sef fi a Dr Steph Ward, nid yn unig wedi cael ein henwebu ond hefyd wedi cael ein rhoi ar y rhestr fer.

Mae hyn yn brawf o ansawdd cyson goruchwyliaeth ddoethurol yn adran Hanes yr Ysgol. Mae hefyd yn brawf o’r myfyrwyr sy’n gweithio ar hanes ôl-drefedigaethol Cymru a rhywedd fel rhan o Ganolfan Hanes Cymru Caerdydd.

A wnaeth unrhyw ddarn o waith neu ddigwyddiad penodol arwain at yr enwebiad? Os do, beth oedd e?

Dwi’n meddwl bod llawer o fyfyrwyr yn fy modiwl pwnc arbennig newydd yn y drydedd flwyddyn ‘Gwrthdroadau Ymylol y Chwyldro Ffrengig’ wedi fy enwebu gan iddynt ysgrifennu adborth hyfryd ar y modiwl yn ystod semester un, a chawsom amser da iawn gyda’n gilydd.

Mae fy myfyrwyr doethuriaeth wedi fy enwebu gan eu bod nhw’n bwysig i mi, ond dwi hefyd wedi helpu myfyrwyr doethurol mewn adrannau eraill drwy, er enghraifft, ysgrifennu geirdaon iddynt a’u helpu yn SHARE gyda digwyddiadau’r Ysgol, megis cynnal darlithoedd blasu i blant ysgol uwchradd.

Oes unrhyw un neu unrhyw beth yr hoffech ei gydnabod ynghylch yr enwebiad?

Dwi’n ddiolchgar iawn i’m holl fyfyrwyr - y rhai israddedig ac ôl-raddedig. Dwi’n dysgu cymaint ganddyn nhw ag y maen nhw’n dysgu gen i bob blwyddyn. Mae’r enwebiadau yn golygu’r un faint i mi â’r gacen a roddodd myfyriwr yn yr ail flwyddyn i mi ar brynhawn dydd Gwener, oherwydd ei fod yn meddwl y dylen i gael cacen Sul y Mamau. Dyna’r tro cyntaf i hynny ddigwydd!

Yr Athro Kate Gilliver
Gwobr yr Is-Ganghellor: 

Sut deimlad yw cael eich enwebu ar gyfer y wobr hon?

Mae’n golygu llawer iawn i mi gael fy enwebu ar gyfer gwobr gan ein myfyrwyr. Dwi wrth fy modd ac yn teimlo ei fod yn anrhydedd. Mae llawer o fy ngwaith yn canolbwyntio ar wella profiadau myfyrwyr, ac mae’n hyfryd bod y myfyrwyr yn gweld effaith hynny.

Mae wir yn fraint cael bod ar y rhestr fer, ond dwi’n cynrychioli tîm o 100 o fyfyrwyr a staff wnaeth gyfrannu at y prosiect dros y 2 flynedd a hanner ddiwethaf!

A wnaeth unrhyw ddarn o waith neu ddigwyddiad penodol arwain at yr enwebiad? Os do, beth oedd e?

Dwi’m yn siŵr am hyn.  Dwi’n tybio fy mod wedi cyrraedd y rhestr fer am fy ngwaith fel Partner Academaidd ar gyfer Asesu ac Adborth ar y Prosiect Ailfeddwl Asesu, menter mawr yn y brifysgol i wella profiadau myfyrwyr (a staff) o ran asesu ac adborth.

Roedd hyn yn cynnwys llawer o weithio mewn partneriaeth gyda myfyrwyr, oedd yn wych, gan wneud cyfraniad hynod bwysig at y gwaith a gwneud yn siŵr ein bod ni’n mynd i’r afael â’u hanghenion go iawn.

Oes unrhyw un neu unrhyw beth yr hoffech ei gydnabod ynghylch yr enwebiad?

Dwi heb allu addysgu llawer dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf gan fy mod wedi bod ar secondiad yn arwain y prosiect uchod. Dwi’n gweld eisiau addysgu, ond mae gweithio gyda myfyrwyr ar y prosiect wedi talu ar ei ganfed mewn ffyrdd gwahanol.

Mae Swyddogion Undeb y Myfyrwyr wedi bod yn gefnogol iawn, ac rydym wedi bod â Myfyrwyr Hyrwyddo yn gweithio ar agweddau gwahanol ar y prosiect hefyd. Maen nhw i gyd yn cyfrannu safbwyntiau pwysig, profiadau gwahanol ac arbenigedd amrywiol at y gwaith. Ni fyddem wedi cyflawni’r hyn a wnaethon ni hebddyn nhw.

Dr Stephanie Ward
Goruchwyliwr Doethurol y Flwyddyn

Sut deimlad yw cael eich enwebu ar gyfer y wobr hon?

Mae’n fraint a dwi wrth fy modd o fod ar y rhestr fer ar gyfer gwobr Goruchwyliwr Doethurol y Flwyddyn. Ar hyn o bryd, dwi’n goruchwylio chwe myfyriwr PhD, ac mae’n fraint gweithio gyda myfyrwyr sydd mor ymroddgar i’w pynciau amrywiol ym maes hanes Cymru.

Mae ymgymryd â PhD yn ymrwymiad enfawr ac fel goruchwyliwr, cewch helpu myfyrwyr i ddatblygu nid yn unig eu hymchwil, ond hefyd eu taith drwy gyflwyno eu hymchwil, gweithgareddau ymgysylltu, addysgu a lleoliadau.

Rwy'n wirioneddol ddiolchgar am yr enwebiad ac mae'n golygu llawer iawn i mi.

Ychwanegodd Pennaeth yr Ysgol, yr Athro Vicki Cummings, “Mae'r nifer fawr o enwebiadau yn ein Hysgol yn deyrnged i ymroddiad ac ymrwymiad ein staff i'n myfyrwyr ac i'r Brifysgol.

“Mae staff yn yr Ysgol yn ymfalchïo mewn darparu profiad rhagorol i fyfyrwyr ac mae'r enwebiadau hyn yn brawf o hynny.”

Ymhlith yr enwebeion eraill mae Hanaadi Ghazzawi (Hyrwyddwr Llais Myfyrwyr a Phartneriaeth), Ian Dennis (Pencampwr Llais Myfyrwyr a Phartneriaeth), Anna-Elyse Young (Tiwtor Graddedigion Ôl-raddedig neu Arddangoswr y Flwyddyn) a Dr Abdul-Azim Ahmed (Gwobr Is-Ganghellor).

Mae SHARE gyda Chydlynwyr Ôl-raddedig Ysgolion a Myfyriwr sy’n Gwirfoddoli hefyd wedi cael ei enwebu ar gyfer Gwobr y Llywydd.

Rhagor o wybodaeth am yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd a’n tîm anhygoel.

Pob lwc i bob enwebai.

Rhannu’r stori hon