Ewch i’r prif gynnwys

Gwyddonydd o Brifysgol Caerdydd yn cael ei ethol i arwain prosiect byd-eang ar y cyd ar donnau disgyrchiant

19 Mai 2025

dyn yn gwisgo sbectol a chrys siec y tu allan i adeilad cyfnod.
Roedd Yr Athro Stephen Fairhurst yn rhan o dîm rhyngwladol a wnaeth ganfod y tonnau disgyrchiant cyntaf ym mis Medi 2015.

Mae gwyddonydd o Brifysgol Caerdydd wedi cael ei ethol yn Llefarydd ar ran Cydweithredu Gwyddonol LIGO.

Etholwyd yr Athro Stephen Fairhurst gan aelodau'r prosiect rhyngwladol ar y cyd, sef sbardun cenhadaeth wyddonol yr Arsyllfa Tonnau Disgyrchiant Ymyradur Laser (LIGO) i archwilio natur sylfaenol disgyrchiant a defnyddio tonnau disgyrchiant yn offeryn at ddibenion darganfod seryddol.

Ei benodiad yw’r tro cyntaf i Lefarydd gael ei ethol o sefydliad heb fod yn UDA ers creu'r prosiect ar y cyd ym 1997. Yn ystod y cyfnod hwnnw mae wedi ehangu i gynnwys mwy na 1,600 o wyddonwyr a pheirianwyr o fwy na 145 o sefydliadau mewn 18 gwlad.

Bydd yn ymgymryd â thymor dwy flynedd ar ôl ymgymryd â’i ddyletswyddau ym mis Ebrill.

Dyma’r hyn a ddywedodd yr Athro Stephen Fairhurst: “Braint yw cael fy ethol yn Llefarydd ar ran Cydweithredu Gwyddonol LIGO sydd wedi bod yn allweddol yn y gwaith o sefydlogi ffiseg a seryddiaeth ym maes tonnau disgyrchiant.

Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda'r gwyddonwyr a'r peirianwyr rhagorol yn y prosiect ar y cyd er mwyn parhau i weithredu a gwella synwyryddion LIGO ac, ar y cyd â'n cydweithwyr yn Virgo a KAGRA, datguddio arsylwadau newydd sy'n gwella ein dealltwriaeth o dyllau duon a thonnau disgyrchiant.

Yr Athro Stephen Fairhurst Athro
Sefydliad Archwilio Disgyrchiant

Mae'r Athro Fairhurst wedi bod yn aelod o'r prosiect ers ugain mlynedd, gan gyfrannu’n fawr at y gwaith o chwilio am signalau tonnau disgyrchiant a allyrrir pan fydd tyllau duon a sêr niwtron yn uno â’i gilydd, a chan ddefnyddio'r signalau a arsylwyd i ddeall nodweddion y ffynonellau.

Gwyliwch ffilm am signalau tonnau disgyrchiant

Ychwanegodd yr Athro Fairhurst: “Dyma gyfnod cyffrous i ymgymryd â rôl Llefarydd y prosiect. Dros yr haf, bydd y prosiect ar y cyd yn cyflwyno canlyniadau ein arsylwadau diweddaraf a fydd yn dyblu nifer yr arsylwadau ar donnau disgyrchiant.

Ym mis Medi, bydd yn 10 mlynedd ers yr arsylwi cyntaf ar donnau disgyrchiant, GW150914. Mae'r garreg filltir hon yn gyfle gwych i roi gwybod am yr hyn rydyn ni wedi’i ddatblygu i ddeall tonnau disgyrchiant, tyllau duon a sêr niwtron i'r gymuned wyddonol a'r cyhoedd fel ei gilydd.

Yr athro Stephen Fairhurst

Rhwng 2019 a 2024, arweiniodd yr Athro Fairhurst y Sefydliad Archwilio Disgyrchiant (GEI) ym Mhrifysgol Caerdydd, sef un o'r grwpiau mwyaf a mwyaf amrywiol yn y byd sy’n ymchwilio i donnau disgyrchiant.

Mae'r GEI yn gwneud cyfraniadau o bwys ym maes dylunio offerynnol ac i arsylwadau tonnau disgyrchiant ac yn ddiweddar dathlodd 50 mlynedd o ymchwil ar ffiseg disgyrchiant yng Nghaerdydd.

Yn ôl Yr Athro Haley Gomez, Pennaeth yr Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd: “Rwy'n falch iawn bod Steve wedi cael ei ethol yn Llefarydd ar ran Cydweithredu Gwyddonol LIGO."

Mae hyn yn dyst i'r lefel uchel o barch sydd ganddo o blith y gymuned tonnau disgyrchiant ac yn gydnabyddiaeth o'i flynyddoedd lawer o arwain y prosiect ac arloesi dulliau a chanlyniadau gwyddonol allweddol, gan gyfrannu'n sylweddol at ehangu’r prosiect. Ar ran pob un ohonon ni yng Nghaerdydd, llongyfarchiadau mawr Steve!

Yr Athro Haley Gomez Pennaeth yr Ysgol, Ffiseg a Seryddiaeth

Rhannu’r stori hon

LIGO scientists detect gravitational wave signal from the merging of two black holes.