Arloeswr catalyddion ym Mhrifysgol Caerdydd yn ennill prif wobr Academi
13 Mai 2025

Mae gwyddonydd o Brifysgol Caerdydd wedi cael ei gydnabod am ei ymchwil arloesol, gan gynnwys gwaith i sicrhau gweithgynhyrchu plastig PVC mwy diogel a glanach.
Mae’r Athro Regius Cemeg Graham Hutchings CBE FREng FRS wedi ennill Gwobr fawreddog Cwmni Arfogwyr a Seiri Pres 2025 yr Academi Frenhinol Peirianneg.
Mae’r wobr, gwerth £2,000, a gyllidir gan Gwmni Anrhydeddus yr Arfogwyr a’r Seiri Pres, yn gwobrwyo rhagoriaeth ym maes peirianneg deunyddiau gan beiriannydd yn y DU.
Cyflwynwyd y wobr i'r Athro Hutchings gan Mike Goulette FREng, Cyn Feistr menter Armourers and Brasiers, yn ystod Diwrnod y Cymrodyr blynyddol a gynhaliwyd yn Nhŷ'r Tywysog Philip yn Llundain.
Dyma’r hyn a ddywedodd: "Anrhydedd gwirioneddol yw i’n gwaith ar gatalysis aur gael ei gydnabod yng ngwobr yr Academi. Wrth gwrs, fydd y cerrig milltir hyn ddim yn digwydd ar eu pennau ein hunain, felly rwy'n ei dderbyn ar ran y tîm o bobl sydd wedi peri i'r arloesi ddigwydd. Yn anad dim, ein partneriaid byd diwydiant."

Y mathau hyn o berthnasoedd rhwng ymchwilwyr ac ymarferwyr sydd mor bwysig er mwyn datrys rhai o heriau enfawr ein hoes. Bydd defnyddio aur yn hytrach na mercwri yn gatalydd i gynhyrchu PVC yn arwain at fanteision aruthrol i’r gymdeithas ac felly peth braf yw bod yr Academi wedi cydnabod pwysigrwydd hyn yn sgil gyda Gwobr Cwmni’r Arfogwyr a’r Seiri Pres.
Pan fu’n gweithio yn y diwydiant yn Ne Affrica yn yr 1980au ar secondiad o'i swydd gyntaf yn Imperial Chemical Industries, cafodd yr Athro Hutchings sioc o weld bod catalyddion mercwri tocsig yn cael eu defnyddio i droi asetylen yn fonomer finyl clorid, sef cam allweddol wrth gynhyrchu plastig PVC.
Cyn hyn, ystyrid nad oedd aur yn gatalytig actif, ond rhagwelodd yr Athro Hutchings – a chadarnhawyd hyn yn ddiweddarach drwy arbrofion – bod modd defnyddio aur yn gatalydd i hydroclorineiddio asetylen.
Yn sgil hyn agorwyd maes catalysis cwbl newydd yn seiliedig ar aur ar gynhaliad.

Yn UDA ac Ewrop, mae prosesau mwy darbodus a gwyrddach sy’n seiliedig ar ethylen wedi cymryd lle prosesau catalyddu drwy fercwri. Fodd bynnag, mae asetylen yn cael ei ddefnyddio'n helaeth o hyd yn Tsieina.
Yn dilyn partneriaeth ymchwil gyda Johnson Matthey, mae fformiwleiddiad catalydd aur yr Athro Hutchings wedi cael ei fireinio fel y gellir ei ddefnyddio'n fasnachol a'i weithgynhyrchu'n gynaliadwy ar raddfa fawr.
Mae Catalydd Difercwri PRICAT™ Johnson Matthey bellach wedi'i fasnacheiddio'n llawn ac ar waith mewn sawl ffatri yn Tsieina.
Yn seiliedig ar gyflwyno’r catalydd difercwri hwn yn llwyddiannus, cadarnhaodd Tsieina gonfensiwn Minamata yn 2016 a blwyddyn yn ddiweddarach ymgorfforwyd y confensiwn yn rhan o’r Gyfraith Ryngwladol, gan arwain at ddiwedd defnyddio mercwri ym mhob teclyn yn fyd-eang.
Yn achos gweithfeydd newydd sy'n seiliedig ar asetylen, mae mercwri bellach wedi'i wahardd, a bydd yn rhaid i gynhyrchwyr gael gwared ar eu catalydd mercwri cyn pen pum mlynedd. Bydd hyn yn caniatáu i fercwri gael ei ddileu'n raddol cyn y bydd cloddio mercwri yn dod i ben yn orfodol yn 2032.
Gwyliwch fideo am yr ymchwil sydd ar y gweill yn Sefydliad Catalysis Caerdydd ar YouTube
Mae'r Athro Hutchings a'i dîm yn Sefydliad Catalysis Caerdydd hefyd wedi arloesi'r defnydd o aur yn gatalydd mewn llawer o adweithiau eraill, gan gynnwys ffordd newydd o buro dŵr, gan gynnig posibiliadau cyffrous i fynd i'r afael â phrinder dŵr mewn ardaloedd cras.
Oherwydd ymchwil yr Athro Hutchings, roedd modd masnacheiddio aur yn gatalydd a dyma’r tro cyntaf ers mwy na 50 mlynedd bod newid llwyr wedi digwydd yn fformiwleiddiad catalydd er mwyn gweithgynhyrchu cemegyn nwydd.
“Bydd defnyddio aur yn lle catalyddion mercwri yn atal allyrru mwy na 1,000 o dunelli o fercwri y flwyddyn i’r amgylchedd.”
Rhannu’r stori hon
Mae’n cyfleuster arloesol yn cefnogi ymchwil sy’n arwain y byd yn y gwyddorau.