Gallai moleciwl sy’n debyg i DNA oroesi amodau sy’n debyg i rai cymylau Fenws, yn ôl astudiaeth
7 Mai 2025

Mae’n bosibl bod yr amodau hynod o arw yng nghymylau Fenws yn gartref i foleciwl sy’n debyg i DNA, gan ffurfio genynnau o dan amgylchiadau sy'n wahanol iawn i rai'r Ddaear, yn ôl astudiaeth newydd.
Mae cymylau chwaer-blaned y Ddaear, y tybid ers tro byd ei bod yn elyniaethus i gemeg organig a chymhleth oherwydd absenoldeb dŵr, wedi'u gwneud o ddefnynnau o asid sylffwrig, clorin, haearn a sylweddau eraill.
Ond mae ymchwil, dan arweiniad Prifysgol Gwyddoniaeth a Thechnoleg Wrocław, yn dangos sut y gall asid niwclëig peptid (PNA) - cefnder strwythurol DNA - oroesi o dan amodau’r labordy i ddynwared amodau a all ddigwydd yng nghymylau gwastadol Fenws.
Defnyddiodd y tîm rhyngwladol arbenigedd ym Mhrifysgol Caerdydd, Sefydliad Technoleg Massachusetts, Sefydliad Polytechnig Caerwrangon a chydweithredwyr byd diwydiant Symeres yn yr astudiaeth, gan asesu gallu PNA i wrthsefyll hydoddydd asid sylffwrig 98% ar dymheredd ystafell am bythefnos.
Mae eu canfyddiadau, a gyhoeddwyd yn Science Advances, yn ychwanegu at y dystiolaeth sy'n dangos y gall asid sylffwrig crynodedig gynnal ystod amrywiol o gemeg organig a allai fod yn sail i ryw lun ar fywyd sy'n wahanol i'r Ddaear.
Dyma a ddywedodd y prif awdur, Dr Janusz Jurand Petkowski o Brifysgol Gwyddoniaeth a Thechnoleg Wrocław: “Mae pobl yn meddwl bod asid sylffwrig crynodedig yn dinistrio pob moleciwl organig ac felly'n lladd pob llun ar fywyd, ond nid felly y mae.
“Er bod llawer o fiocemegau, fel siwgrau, yn ansefydlog mewn amgylchedd o’r fath, mae ein hymchwil hyd yn hyn yn dangos nad yw cemegau eraill mewn organebau byw, fel basau nitrogenaidd, asidau amino, a rhai deupeptidau, yn ymddatod.”
Yma, rydyn ni wedi dechrau pennod newydd ar botensial asid sylffwrig i fod yn hydoddydd bywyd sy’n dangos bod gan PNA, sy’n foleciwl cymhleth, yn strwythurol gysylltiedig â DNA, ac y gwyddys ei fod yn rhyngweithio’n benodol ag asidau niwclëig, sefydlogrwydd rhyfeddol mewn asid sylffwrig crynodedig ar dymheredd ystafell.
Mae'r gwaith yn ehangu ar ganfyddiadau o ganol 2020 pan gyflwynodd tîm o wyddonwyr o Goleg Imperial Llundain dystiolaeth am bresenoldeb ffosffin, sef nwy gwenwynig a gynhyrchir mewn amgylcheddau heb lawer o ocsigen, ar Fenws.
Yn yr un flwyddyn, rhannodd grŵp o wyddonwyr o Brifysgol Caerdydd ganlyniadau rhagarweiniol eu hymchwil a oedd yn awgrymu presenoldeb amonia ar y blaned.
Roedd Dr William Bains o Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth Prifysgol Caerdydd yn rhan o'r ddwy astudiaeth.
Ychwanegodd: “Biofarcwyr yw amonia a ffosffin, sy'n golygu eu bod hwyrach yn dangos presenoldeb bywyd. Ond mae cymylau Venus yn gwbl elyniaethus i fywyd fel rydyn ni'n ei adnabod ar y Ddaear. Felly mae ein hastudiaeth ddiweddaraf yn ceisio ymchwilio i botensial asid sylffwrig crynodedig i fod yn hydoddydd a allai gynnal y gemeg gymhleth sydd ei hangen i greu bywyd yn y cymylau hyn yr ymddengys eu bod yn annhrigiadwy.”
Mae darganfod y gall PNA, sy’n debyg i DNA. barhau i fod mewn asid sylffwrig crynodedig am oriau, yn syfrdanol. Dyma ddarn newydd o ddirgelwch llawer mwy o ran deall sut mae bywyd, er yn wahanol iawn i’n bywyd ni, yn dod i fodolaeth a ble yn y bydysawd y gallai hyn ddigwydd.
Mae'r canfyddiadau hefyd yn cynnig ffyrdd newydd o ddeall cemeg asid sylffwrig, sef un o'r cemegau diwydiannol a ddefnyddir ehangaf ac a allai fod yn ymarferol ddefnyddiol yn y dyfodol, yn ôl y tîm.
Ychwanegodd Dr Pętkowski: “Mae ein hastudiaeth yn dangos nad yw PNA bellach yn sefydlog mewn asid sylffwrig ar dymheredd sy’n uwch na 50°C. Felly, bydd ein hymchwil yn y dyfodol yn canolbwyntio ar greu polymer genetig - moleciwl sy'n gallu chwarae'r rôl y mae DNA yn ei chwarae mewn bywyd ar y Ddaear - sy'n sefydlog mewn asid sylffwrig crynodedig ar draws ystod tymheredd cymylau Fenws, rhwng 0°C a 100°C, ac nid ar dymheredd ystafell yn unig.
“Felly, dim ond y cam cyntaf tuag at ddod o hyd i bolymer sefydlog o’r fath yw’r darganfyddiadau hyd yn hyn.”
Cyhoeddwyd eu papur, 'Astrobiological Implications of the Stability and Reactivity of Peptide Nucleic Acid (PNA) in Concentrated Sulfuric Acid' yn Science Advances.
Rhannu’r stori hon
Dyma Ysgol gyfeillgar, y mae’n hawdd troi ati, gydag ymrwymiad cryf i ragoriaeth wrth addysgu ac ymchwil o’r radd flaenaf mewn ffiseg a seryddiaeth.