Ewch i’r prif gynnwys

Academyddion Caerdydd i arwain dyfodol ymchwil iechyd a gofal yng Nghymru

8 Mai 2025

12 ymchwilydd o Brifysgol Caerdydd wedi cael eu penodi fel Uwch Arweinwyr Ymchwil, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.

Byddan nhw gan ddarparu arweinyddiaeth a gweithredu fel llysgennad ac eiriolwr dros ymchwil iechyd a gofal yng Nghymru dros y tair blynedd nesaf.

Mae Uwch Arweinwyr Ymchwil, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ymhlith yr ymchwilwyr iechyd a gofal mwyaf blaenllaw a chlodfawr yn y wlad. Mae gan y rhai a ddewiswyd oll hanes o ddatblygu ymchwilwyr ac adeiladu gallu a chapasiti ymchwil Cymru, yn ogystal ag integreiddio cyfranogiad cleifion a'r cyhoedd mewn ymchwil.

Y 12 Uwch Arweinydd Ymchwil o Brifysgol Caerdydd yw:

Wedi'u rheoli a'u cefnogi gan Gyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, bydd yr Uwch Arweinwyr Ymchwil yn parhau i neilltuo amser i gymryd rhan mewn ystod o weithgareddau'r Gyfadran, gan gynnwys paneli cyllido, byrddau a phwyllgorau.

Dywedodd yr Athro Kerenza Hood, Deon Ymchwil ac Arloesedd Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Gwyddorau Bywyd: “Rwy’n falch iawn o gael fy ailbenodi’n Uwch-arweinydd Ymchwil a fy mod yn cael parhau i hyrwyddo’r ymchwil iechyd a gofal anhygoel sy’n cael ei gwneud yng Nghymru. Rwy bob amser yn dweud fy mod yn gallu siarad dros Gymru, ac yn rhan o’r gwaith hwn, rwy’n cael sôn am ymchwil Cymru dros Gymru!”

Wrth groesawu’r newyddion, dywedodd yr Athro Roger Whitaker, Rhag Is-ganghellor Ymchwil, Arloesedd a Menter y Brifysgol: “Rwy’n falch iawn o weld Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru’n cydnabod arweinyddiaeth anhygoel ein cydweithwyr."

Roger Whitaker
Mae Prifysgol Caerdydd wedi bod ar flaen y gad ers tro o ran rhagoriaeth ym maes ymchwil iechyd a gofal yng Nghymru, ac mae penodi 12 o Uwch-arweinwyr Ymchwil yn cryfhau ein lle yn yr ecosystem hon.
Yr Athro Roger Whitaker Rhag Is-Ganghellor Ymchwil, Arloesi a Menter, Athro Deallusrwydd Cyfunol

Dywedodd Gareth Cross, Dirprwy Gyfarwyddwr Gwyddoniaeth, Ymchwil a Thystiolaeth Llywodraeth Cymru: "Gwnaeth cynnydd amgylchedd ymchwil Cymru argraff fawr ar y panel; roedd nifer o aelodau'r panel wedi eistedd ar baneli dyfarnu Uwch Arweinwyr Ymchwil blaenorol a nodwyd fod cynnydd mawr yn cael ei wneud yn hyn o beth. Roedd ystod y ceisiadau'n rhagorol.

"Bydd arbenigedd ac ymroddiad yr Uwch Arweinwyr Ymchwil yn allweddol wrth feithrin arloesedd, cydweithredu a rhagoriaeth yn ein cymuned ymchwil, ac edrychwn ymlaen at weld y cyfraniadau gwerthfawr y byddant yn eu gwneud dros y tair blynedd nesaf."

Ewch i wefan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru i weld y rhestr lawn o Uwch Arweinwyr Ymchwil.