Ewch i’r prif gynnwys

Cerddorion Cymraeg yn cryfhau cysylltiadau â cherddorion Māori

6 Mai 2025

Credit - Brandon Te Moananui

Mae prosiect rhyngddisgyblaethol sy’n ymchwilio i gerddoriaeth a berfformir mewn ieithoedd lleiafrifol a brodorol yng Nghymru ac Aotearoa (Seland Newydd) wedi gosod sylfaen ar gyfer cydweithio rhyngwladol parhaol.

Bydd gŵyl gerddorol FOCUS Cymru yn cynnal prosiect cyfnewid diwylliannol grymus wrth i dri artist recordio enwog sy’n canu yn iaith y Māori berfformio mewn lleoliadau yn Wrecsam rhwng 8 a 10 Mai.

Bydd y cerddorion o Aotearoa yn creu cysylltiadau gyda chyfoedion o Gymru a cherddorion eraill o bob rhan o’r byd lle mae ieithoedd lleiafrifol yn cael eu dathlu gan ddefnyddio cerddoriaeth.

Mae'r artistiaid yn cynnwys MOHI, sy'n cyfuno’r grefft o ddweud straeon mewn te reo Māori gyda dylanwadau dinesig cyfoes; Jordyn with a Why, sy’n adnabyddus am gyfansoddi traciau dwyieithog sy'n pontio seiniau traddodiadol a modern; a MĀ, sy’n gyfuniad brodorol o rap araf, D.I.Y neo-soul a cherddoriaeth amgylchynol fendigedig.

Bydd pob un yn perfformio dwy set yn ystod yr ŵyl sy’n para tri diwrnod, gyda chefnogaeth bandiau, a byddan nhw’n cyfrannu at drafodaeth banel a gynhelir gan Brifysgol Caerdydd i drafod defnyddio cerddoriaeth yn gyfrwng i fynegi iaith a diwylliant.

Mae'r digwyddiadau yn FOCUS yn rhan o Brosiect Pūtahitanga, sy’n brosiect ymchwil rhyngddisgyblaethol rhwng yr Ysgol Cerddoriaeth, Ysgol y Gymraeg, ac Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth Prifysgol Caerdydd.

Mae Pūtahitanga yn air mewn te reo Māori sy'n disgrifio cymuned yn dod ynghyd i weithio gyda’i gilydd ar fater penodol. Mae’r enw’n adlewyrchu ethos y prosiect ymchwil hwn, sy'n ceisio adnabod a chydnabod pwyntiau sy’n gyffredin rhwng cerddorion sy'n defnyddio Cymraeg a te reo Māori yn eu gwaith, a phrofi sut mae'r defnydd hwn yn effeithio ar eu hymdeimlad o hunaniaeth, perthynas, a’r ffordd y maen nhw’n cymryd rhan yn y sîn gerddorol yng Nghymru ac Aotearoa.

Mae ymweliad cychwynnol y tîm â Aotearoa yn 2023, gyda chefnogaeth Cronfa Sbarduno Caerdydd-Waikato, wedi gosod y sylfaen ar gyfer prosiect Song Hub Māori-Cymraeg 2024, a roddodd gyfle i gerddorion o Gymru fel Georgia Ruth, Cat Southall, a Carwyn Ellis i ymweld ag Aotearoa i gydweithio gyda cherddorion Māori.

Gan adeiladu ar weithgarwch blaenorol y prosiect a chysylltiadau gyda phartneriaid, mae tîm Prosiect Pūtahitanga wedi gweithio gyda’r Cyngor Prydeinig, Creative New Zealand, APRA AMCOS, Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a FOCUS Wales i greu cyfleoedd newydd i rannu gwybodaeth yn y cymunedau hyn o siaradwyr ieithoedd lleiafrifol a brodorol yn Wrecsam.

Yn rhan o'r cam hwn o'r prosiect, bydd academyddion o Brifysgol Caerdydd hefyd yn cynnal trafodaeth banel yn FOCUS, Prosiect Pūtahitanga: Myfyrdodau ar Gerddoriaeth ac Iaith yng Nghymru ac Aotearoa, a fydd yn cynnwys MOHI a Jordyn With a Why, ynghyd â'r artist o Gymru, Talulah. Bydd y panel yn trafod pynciau gan gynnwys tueddiadau mewn cerddoriaeth nad yw'n cael ei ganu yn Saesneg, dilysrwydd diwylliannol, tensiynau ynghylch genre ac iaith, a sut gall iaith fynd y tu hwnt i ffiniau genre.

Cynhelir  Derbynfa Rhwydweithio Aotearoa gan Brosiect Pūtahitanga Prifysgol Caerdydd yn Eglwys Hope Street nos Sadwrn, fydd yn cynnig cyfleoedd pellach am gyfnewid diwylliannol a gwneud cysylltiadau proffesiynol.

Mae'r gwaith o adfywio’r Gymraeg a te reo Māori trwy gerddoriaeth yn ein hatgoffa’n glir o’r ffordd y gall iaith a diwylliant ffynnu diolch i greadigrwydd.
Ruth Cocks Cyfarwyddwr y Cyngor Prydeinig yng Nghymru

Meddai Ruth Cocks, Cyfarwyddwr y Cyngor Prydeinig yng Nghymru “Mae digwyddiadau fel FOCUS Wales yn torri drwy ffiniau – daearyddol a diwylliannol – gan alluogi i artistiaid gysylltu, i gydweithio, ac ysbrydoli ei gilydd. Rydym yn falch o gael croesawu'r cerddorion rhyfeddol hyn i Wrecsam ac yn falch o gefnogi'r cysylltiadau y byddan nhw’n eu gwneud, nid yn unig rhwng Cymru ac Aotearoa, ond ar draws y gymuned greadigol yn fyd-eang.”

Dywedodd Andy Jones, cyd-sylfaenydd a threfnydd rhaglen gerddorol gŵyl FOCUS Wales: “Mae croesawu’r cerddorion Māori talentog hyn i’n gŵyl yn ganolog i’r hyn mae FOCUS Wales yn ei gynrychioli – creu cysylltiadau ystyrlon y tu hwnt i ffiniau drwy gyfrwng gerddoriaeth. Mae’r Gymraeg ac iaith y Māori mewn sefyllfaoedd tebyg, a bydd yn wych gweld dathliad o dreftadaeth yr ieithoedd hyn a’r cysylltiad rhyngddyn nhw. Rydym yn falch o gynnig llwyfan yn FOCUS Wales lle gall y sgyrsiau diwylliannol hyn ddigwydd.”

Eglurodd Dr Elen Ifan, sy’n ddarlithydd yn Ysgol y Gymraeg: “Mae Prosiect Pūtahitanga yn falch o gael bod yn rhan o'r cydweithio hwn a chynnal trafodaethau a fydd yn dyfnhau ein dealltwriaeth o ddefnydd iaith yn y cyd-destunau cyfoes hyn.”

Elen Ifan
Gall cerddoriaeth fod yn gyfrwng pwerus i fynegi diwylliant, a thrwy fentrau fel hon, gallwn ddeall yn well sut mae defnydd o iaith mewn cerddoriaeth boblogaidd yn cyd-blethu gydag ymdeimlad o gymuned a chyd-berchnogaeth o iaith mewn cyd-destunau diwylliannol gwahanol.
Dr Elen Ifan Darlithydd