Ewch i’r prif gynnwys

Dau o Gaerdydd yn ennill gwobr arloesedd ym maes diogelwch ar y ffyrdd.

1 Mai 2025

head shots of Yusif and Thomas, who are featured in the article

Mae Yusif Al-Gurair a Thomas Orford-Morgan yn fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd sydd wedi ennill y safle gyntaf yn y Wobr Datblygwr Arloesol yn noson gwobrau dechrau busnesau newydd eleni, ac wedi ennill £3,500 tuag at eu menter diogelwch ar y ffyrdd, LightWorks.

Mae Yusif yn astudio Astroffiseg, ac mae Thomas yn astudio Ffiseg, ac mae’r ddau yn eu hail flwyddyn. Roedd y gynulleidfa a’r beirniaid wedi rhyfeddu ar eu syniad busnes blaengar, gyda’r nod o wella diogelwch gyrwyr. Enillodd eu cyflwyniad bleidlais y panel yn ogystal â phleidlais y gynulleidfa gan ennill £500 ychwanegol.

Er bod manylion ynghylch LightWorks yn parhau i fod yn gyfrinachol o ganlyniad i weithdrefnau patent parhaol, mae’r tîm wedi pwysleisio bod y fenter yn bosibl o ran defnydd masnachol a diogelwch. Mae'r ddau wedi cael cyngor gan fentoriaid busnes i beidio â rhannu’r syniad tan fod yr eiddo wedi cael ei amddiffyn yn llawn.

Rydyn ni’n ddiolchgar iawn am y cymorth a'r wobr ariannol. Rydyn ni’n bwriadu rhoi syniad busnes LightWorks ar waith ar ôl ein harholiadau ym mis Mai.
Yusif Al-Gurair, Astroffiseg (BSc)

Mae Yusif a Thomas yn gweithio'n agos gyda mentoriaid busnes a chynghorwyr cyfreithiol i orffen y patent a gwella eu strategaeth i werthu ar y farchnad. Byddan nhw’n defnyddio’r cyllid ar gyfer datblygu prototeip sy’n gweithio a chynnal profion yn ystod y camau cynnar, a chael adborth gan ddefnyddwyr.

Gyda'r diwydiant diogelwch yn canolbwyntio ar atebion sy’n cael eu hysgogi gan dechnoleg, bydd LightWorks mewn sefyllfa dda i gyflwyno arloesedd newydd ac angenrheidiol.

Rydyn ni’n falch iawn o gael mynd ati i wneud hyn. Mae’n rhoi gwyddoniaeth a thechnoleg ar waith i ddatrys problem yn y byd go iawn - a dyna beth yw pwrpas arloesi.
Thomas Orford-Morgan, Ffiseg (BSc)

Rhannu’r stori hon