Ewch i’r prif gynnwys

Technolegau sy’n dod i’r amlwg, cynaliadwyedd, a dyluniadau sy’n canolbwyntio ar bobl yn creu argraff ar y beirniaid yn y 15fed flwyddyn o gynnal Gwobrau Cychwyn Busnes i Fyfyrwyr

7 Mai 2025

Rhes gefn: Yusif, Aaron, Abdul, Lewis, Archie, Declan, a Christopher. Rhes flaen: Thomas, Alexander, Joel, Oscar, Elizabeth, Bethany, Paige, a Faith.

Mae ugain o entrepreneuriaid myfyrwyr uchelgeisiol wedi dod i’r brig yng Ngwobrau Cychwyn Busnes a Llawrydd i Fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd eleni.

Roedd y gystadleuaeth yn cynnwys 20 o fentrau busnes sy’n dod i’r amlwg, pob un yn cyflwyno ei syniadau mewn gornest ar ffurf Dragons’ Den. Derbyniodd enillwyr o bob categori gyfran o’r gronfa wobr o £18,000 i gefnogi twf eu busnesau, ynghyd â mentora ac arweiniad parhaus gan Dîm Menter a Dechrau Busnes y brifysgol.

Bu’r myfyrwyr yn cystadlu mewn pedwar categori – Gwobr y Sylfaenydd Rhagorol, Gwobr y Datblygwr Arloesol, Gwobr y Syniadau Ysbrydoledig (a noddir gan Santander Universities) a Gwobr y Peirianwyr Ysbrydoledig (a noddir gan Engineers in Business).

Gwobr y Sylfaenydd Rhagorol

Dyfarnwyd prif wobr o £5,000 Gwobr y Sylfaenydd Rhagorol i raddedigion Dosbarth 2024 Christopher Dixon (Peirianneg Meddalwedd Gymhwysol), Declan Richardson (Mathemateg), a Tomas Richards (Peirianneg Fecanyddol) am eu cwmni CNIC Software Ltd.

Mae CNIC yn sbarduno cydymffurfedd i sefydliadau sy’n awyddus i gryfhau eu cydnerthedd seiber trwy awtomeiddio asesiadau seiber, gan helpu sefydliadau i arbed amser a lleihau costau a chymhlethdod.

Dyma a ddywedodd y tîm: “Mae ennill y wobr hon wedi bod yn hwb anhygoel i’n tîm tuag at ein menter cyfnod cynnar. Rydym yn bwriadu defnyddio’r wobr ariannol i gael yr ardystiadau diogelwch sydd eu hangen ar ein busnes – maen nhw’n ddrud ond yn hanfodol ar gyfer gweithio gyda’r llywodraeth a sectorau rheoleiddiedig. Mae’r gefnogaeth gan Brifysgol Caerdydd wedi bod yn amhrisiadwy – o fentora ac adnoddau i’n cysylltu â’r bobl gywir. Rydym yn llawn cyffro am y gefnogaeth barhaus gan Brifysgol Caerdydd wrth i ni dyfu i adeiladu rhywbeth ystyrlon sy’n cyflawni effaith yn y byd go iawn.”

Yn ail: Lewis Bowen (MSc Rheoli Busnes), Evan Jenkins (BSc Cyfrifiadureg, graddiodd 2024), Adam Shannon (BSc Peirianneg Meddalwedd Gymhwysol, graddiodd 2024), a Tobiah Nott (BSc Peirianneg Meddalwedd Gymhwysol, graddiodd 2024) – Pontiro.

Enillydd y gynulleidfa: Archie Wilkins (BA Anrh Peirianneg Meddalwedd Gymhwysol, graddiodd 2023), Abdul Miah (BA Anrh Peirianneg Meddalwedd Gymhwysol, graddiodd 2023) a George Lindh – Fit-In App.

Gwobr y Datblygwr Arloesol

Yng Ngwobr y Datblygwr Arloesol, cipiodd Yusif Algurair (Astroffiseg 2il flwyddyn) a Thomas Orford-Morgan (Ffiseg 2il flwyddyn) y brif wobr o £3,000 a gwobr y gynulleidfa gwerth £500 gyda’u cwmni Lightworks.

Roedd y gynulleidfa a’r beirniaid wedi rhyfeddu ar eu syniad busnes blaengar, gyda’r nod o wella diogelwch gyrwyr.

“Ein camau nesaf gan ddefnyddio'r gronfa yw bwrw ymlaen â chael patent a phrototeip. Mae Tîm Menter Prifysgol Caerdydd wedi gwneud y broses gyfan yn un ddifyr, a Georgina Moorcroft a Michelle Finnegan-Davies sy’n haeddu’r clod i gyd.”

Yn ail: Faith Martin Abongo (blwyddyn olaf Niwrowyddoniaeth gyda Geneteg) – VivaNova.

Gwobr y Syniadau Ysbrydoledig

Enillwyd Gwobr y Syniadau Ysbrydoledig gan fyfyrwraig Athroniaeth yn ei thrydedd flwyddyn, Elizabeth Adetoye, a dderbyniodd y lle cyntaf a gwobr y gynulleidfa, gan ennill cyfanswm o £1,500 tuag at ehangu ei busnes Sustainable Smiles.

Mae Sustainable Smiles yn canolbwyntio ar ddatblygu offer sugno deintyddol bioddiraddadwy gyda phecynnau compostadwy i leihau gwastraff plastig ym mhractisau deintyddol y GIG. Nod yr ateb hwn yw rhoi dewis amgen ecogyfeillgar i blastigau untro confensiynol, gan gefnogi targedau lleihau gwastraff y GIG a’r nod o gyflawni allyriadau sero net erbyn 2040.

Dywedodd Elizabeth: “Rwy’n hynod ddiolchgar o fod wedi derbyn y wobr gyntaf yng Ngwobr y Syniadau Ysbrydoledig a gwobr y gynulleidfa. Mae’r gefnogaeth gan dîm menter Prifysgol Caerdydd wedi bod yn allweddol wrth fy helpu i roi bywyd i Sustainable Smiles. Ysbrydolwyd y syniad gan fy amser fel archwilydd effaith werdd, lle gwelais yr heriau cynaliadwyedd y mae practisau deintyddol yn eu hwynebu o brofiad uniongyrchol. Mae’r gydnabyddiaeth hon wedi rhoi’r hyder i mi barhau i wthio ymlaen, ac rwy’n llawn cyffro i barhau i ddatblygu’r prosiect fel rhan o garfan Mercedes-Benz BeVisioneers 2025.”

Yn ail: Bethany Francis (Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio PhD) a Paige Bicker-Caarten (BEng Peirianneg Sifil, graddiodd 2022) – Baby Bean

Gwobr y Peirianwyr Ysbrydoledig

Enillwyd y brif wobr o £1,500 yng Ngwobr y Peirianwyr Ysbrydoledig gan Alexander Mallon, myfyriwr Peirianneg Fecanyddol yn ei ail flwyddyn, gyda’i gwmni EZCool.

System oeri hylif gaeedig i’w gosod ar arddwrn yw EZCool. Ei diben yw gostwng tymheredd y corff. Mae’n gweithio trwy dynnu gwres o’r rhydweli rheiddiol a’i droi’n hylif sy’n dargludo gwres yn effeithiol. Yna mae’r hylif cynnes hwn yn cael ei gylchredeg a’i ailoeri gan ddefnyddio elfen Peltier. Mae’r system hon yn amlbwrpas a gellid ei gwrthdroi hefyd i wresogi corff person; fodd bynnag, prif nod y cynnyrch yw oeri.

Dywedodd Alexander: “I ddechrau, roeddwn i’n meddwl bod fy syniad braidd yn wallgof, ond ar ôl i mi dreulio peth amser yn meddwl am fy nghynnyrch ac yn ei ddatblygu yn ystod y gystadleuaeth, cefais hyder newydd a chael llawer o hwyl yn gwneud hynny. Dyfais yw’r EZCool sy’n ceisio oeri’r henoed a phobl eraill sy’n agored i wres trwy oeri eu harddwrn mewnol gyda hylif oer wedi’i bwmpio. Mae miloedd o bobl oedrannus yn marw bob blwyddyn o flinder gwres ac mae llawer mwy yn dioddef. Erbyn 2050, disgwylir cynnydd o 257% mewn marwolaethau sy’n gysylltiedig â gwres yn y DU yn unig, felly rwy’n gobeithio lleihau’r nifer hwnnw trwy ddefnyddio dyfeisiau EZCool lle mae eu hangen, fel mewn ysbytai a chartrefi ymddeol. Bydd yr EZCool ar gael i’r cyhoedd ei brynu, a gobeithio y bydd yn dod â chysur i’r rhai sydd ei angen ym myd gwresogi heddiw.

Yn ail: Oscar Mabon (Peirianneg Fecanyddol 2il Flwyddyn) a Joel Cartwright (2nd Year Mechanical Engineering) – Labordai Rocedi Caerdydd.

Yn drydydd: Aaron Sondh (2il flwyddyn Peirianneg Fecanyddol) – VisiShave

Cynhaliwyd y seremoni wobrwyo ar 10 Ebrill yn sbarc|spark, ac roedd yn nodi diweddglo tridiau o gyflwyniadau deinamig ac ysbrydoledig gan fyfyrwyr i banel o feirniaid arbenigol, gan gynnwys Tom Phillips o Welsh ICE, Sophie Webber o Tramshed Tech, ac Amanda Ataou o Fusnes Cymru. Yn ogystal â dewisiadau’r beirniaid, ychwanegodd pleidlais fyw gan y gynulleidfa elfen o gydnabyddiaeth gan gymheiriaid ac ymgysylltiad cymunedol.

Wrth ganmol pawb a gymerodd ran, dyma a ddywedodd Georgina Moorcroft, Uwch-reolwr Menter a Chychwyn Busnes i Fyfyrwyr: “Roedd yn flwyddyn anhygoel arall i’r Gwobrau Cychwyn Busnes a Llawrydd ar draws pob un o’r pedwar categori, ac roeddwn i wedi fy syfrdanu gan ansawdd y cyflwyniadau. Roedd yn llawenydd dathlu gyda chynifer o bobl yn y noson wobrwyo gan fod gennym staff o bob cwr o’r brifysgol, ffrindiau’r brifysgol, a llawer o fyfyrwyr entrepreneuraidd a ddaeth ynghyd i rwydweithio a chefnogi’r rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol eleni.

Mae’r digwyddiad hwn wir yn tynnu sylw at y meddyliau entrepreneuraidd sy’n dod allan o Brifysgol Caerdydd ac rwy’n cael argraff dda bob blwyddyn gan yr holl syniadau ac arloesiadau newydd gan y myfyrwyr. Da iawn i’r holl dimau a gystadlodd yn y rownd derfynol eleni, ac rwy’n llawn cyffro i weld eich busnesau’n parhau i dyfu.
Georgina Moorcroft Uwch-reolwr Menter a Chychwyn Busnes i Fyfyrwyr

Gall ennill yn y Gwobrau Cychwyn Busnes a Llawrydd wir helpu i symud syniad busnes ymlaen. Defnyddiodd enillydd Gwobr y Sylfaenydd Rhagorol y llynedd, myfyriwr israddedig Hanes Modern a Gwleidyddiaeth yn ei ail flwyddyn, Elliot Allen, ei wobr ariannol o £5,000 i brynu fan i fynd â’i gwmni symud a storio myfyrwyr, MoveMe, i’r lefel nesaf. Mae enillwyr Gwobr y Peirianwyr Ysbrydoledig 2024, Hajira Irfan, myfyriwr Peirianneg Integredig israddedig yn ei flwyddyn olaf, a Harry Parkinson, myfyriwr Ffiseg gyda Seryddiaeth yn ei flwyddyn olaf, wedi mynd â’u syniad, y Ffotobioadweithydd Algâu, i uchelfannau aruthrol, gan gael eu henwi’n Bencampwyr Cenedlaethol Enactus y DU ac Iwerddon 2025 yn ddiweddar, yn ogystal ag ennill llu o wobrau, gan gynnwys Gwobr Byd Gwell British Airways, Gwobr Adeiladu Cymunedau Cynaliadwy C3 Cwmni Moduron Ford, Gwobr Action4Impact, a gwobr Cymrodoriaeth Peirianwyr mewn Busnes.

Dyma a ddywedodd Rhys Pearce Palmer, Rheolwr Gweithrediadau Arloesi yn Arloesi Caerdydd: "Y tu mewn i adeilad sbarc|sparc mae dros chwe deg o sefydliadau sy’n cwmpasu’r sector preifat, y sector cyhoeddus a’r trydydd sector. Y llinyn aur sy’n eu dwyn ynghyd yw cydweithio a phartneriaeth â’r byd academaidd. Pa le gwell i fyfyrwyr ddod i archwilio a meithrin eu datrysiadau creadigol eu hunain yn fentrau go iawn?”

Rhys Pearce-Palmer
Mae prifysgolion yn cael eu gyrru gan chwilfrydedd ac arloesedd, sy’n amgylchedd perffaith i fyfyrwyr archwilio cychwyn busnes. Mae arbenigedd academaidd o’u hamgylch nhw, ac ar ben hynny gallan nhw fanteisio ar y cyfoeth o gysylltiadau busnes a diwydiant sydd gan y brifysgol.
Mr Rhys Pearce-Palmer Rheolwr Gweithrediadau Arloesi