Tîm Profiad Myfyrwyr yn ennill Gwobrau Cyfoethogi Bywyd Myfyrwyr
20 Mai 2025

Mae’r Tîm Profiad Myfyrwyr yn yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth wedi ennill Gwobr Cydweithrediad Dysgu ac Addysgu y Flwyddyn yng Ngwobrau Cyfoethogi Bywyd Myfyrwyr 2025.
Mae Gwobrau Cyfoethogi Bywyd Myfyrwyr yn cydnabod gwaith caled y staff a’r myfyrwyr sydd wedi gwneud cyfraniad cadarnhaol ym maes profiad myfyrwyr. Mae’r gwobrau’n cael eu cynnal ar y cyd rhwng Prifysgol Caerdydd ac Undeb y Myfyrwyr.
Cyflwynodd staff a myfyrwyr dros 1,950 o enwebiadau ar gyfer y gwobrau eleni.
Dyma a ddywedodd Rob Meredith, Rheolwr Profiad y Myfyrwyr:
“Aelodau Pwyllgor Profiad Myfyrwyr ENCAP yw’r canlynol: fi, sef Rheolwr Ymgysylltu a Phrofiad y Myfyrwyr a Catalina Popescu, Swyddog Profiad y Myfyrwyr, ac rydyn ni’n hynod o falch o gyrraedd rhestr fer Gwobr Cydweithredu Dysgu ac Addysgu’r Flwyddyn 2025 ESLA.
“Dros yr ychydig o flynyddoedd diwethaf, mae'r ddau ohonon ni wedi gweithio'n galed i wella profiad myfyrwyr ENCAP drwy gymryd nifer o gamau a mentrau, gan gynnwys:
- Mewn ymgynghoriad â phrosiect y Myfyrwyr Hyrwyddo, rhoi system adborth byw ac effeithiol ar waith i fyfyrwyr sy'n caniatáu iddyn nhw roi adborth ar unrhyw adeg, 24-7-365. Adborth myfyrwyr a chamau’r Ysgol i’w gweld yn glir ledled yr adran ac yn rheolaidd yn y cyfryngau cymdeithasol.
- Yn yr un modd, gan ddefnyddio Myfyrwyr Hyrwyddo, rydyn ni wedi creu platfform Amgylchedd Dysgu Rhithwir (VLE) gwell a mwy hygyrch i gyrchu adnoddau a chyflwyno aseiniadau.
- Cymryd rhan mewn cyfarfodydd rhyngwladoli unwaith y semester, cwrdd â myfyrwyr rhyngwladol o bob rhan o'n hadran i ddeall eu hamgylchiadau unigryw a rhoi camau ar waith i wella eu profiadau.
- Archwilio data arolygon yn rheolaidd, gan gynnwys Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr (NSS)/Arolwg Ôl-raddedigion a Addysgir Prifysgol Caerdydd (CUPTS)/Arolwg Profiadau Ymchwilwyr Ôl-raddedig (PRES), Gwella Modiwlau, a hynny i roi trosolwg o dueddiadau’r data a llunio adroddiadau ag argymelliadau i’r Pwyllgor Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr (ESEC).
- Creu cynllun cyfeillio i’r Ôl-raddedigion a Addysgir yn yr ysgol sy’n eithaf tebyg i gynllun y Myfyrwyr Mentora ar y lefel israddedig pan fydd myfyrwyr MA a oedd gynt yn israddedigion yn yr Ysgol bellach yn uwch-gyfeillion i'r myfyrwyr newydd sbon.
- Creu archif o draethodau hir copi meddal lle ceir cannoedd o deitlau sy’n cynnwys arferion gorau i gyfeirio atyn nhw ac sydd ar gael i fyfyrwyr a staff ar unrhyw adeg.
- Ystod o ddigwyddiadau a mentrau sefydledig i hyrwyddo synnwyr o gymuned yn yr adran, megis Gŵyl Wythnos Ddarllen ENCAP, digwyddiadau cymdeithasol ledled yr ysgol i groesawu staff a myfyrwyr, llu o gystadleuaethau a nifer o deithiau i weld cynyrchiadau, lleoedd arwyddocaol ac atyniadau.
- Cydlynu tîm o staff a myfyrwyr i godi arian a rhedeg yn Hanner Marathon Caerdydd, a mwy.
- Cynhyrchu ac archifo Cylchlythyr wythnosol ENCAP i gyfleu digwyddiadau a chyfleoedd yn yr adran a thu hwnt.
- Cefnogi cymdeithasau poblogaidd yr Ysgol drwy eu hybu yn ogystal â’u cyllido a rhoi cymorth sefydliadol iddyn nhw ar brydiau.
- Creu Cronfa Profiad y Myfyrwyr er mwyn i’r myfyrwyr wneud cais am arian i gynnal digwyddiadau neu fentrau, gan fagu felly synnwyr o gymuned.
- Siarad yn rheolaidd mewn ystod o gyfarfodydd dros Rwydwaith Llais a Phrofiad y Myfyrwyr, y Coleg a mwy, gan gynnig awgrymiadau ar gyfer arferion gorau.
“Ychydig yn unig yw’r rhain o blith y camau rydyn ni wedi eu cymryd hyd yn hyn, ond mae Catalina a minnau’n falch o'r hyn rydyn ni wedi'i greu hyd yn hyn. Mae mwy o syniadau ar y gweill ac edrychwn ymlaen at wneud rhagor o welliannau.”
Mae dyrchafu a dathlu bywyd myfyrwyr yn genhadaeth sylfaenol i’r Brifysgol, ac mae’r gwobrau’n chwarae rhan allweddol wrth roi cyfle i ni ddathlu cyfraniadau’r myfyrwyr a’r staff sy’n mynd yr ail filltir i wella profiad myfyrwyr.
Eleni, daeth 1,950 o enwebiadau i law mewn 16 o gategorïau.