Ewch i’r prif gynnwys

Mae technoleg newydd yn defnyddio tonnau sain tanddwr i greu rhybuddion cyflymach a mwy dibynadwy mewn amser real yn achos tswnami

18 Mehefin 2025

Infograffig am dechnoleg Global Real-time Early Assessment of Tsunamis
Global Real-time Early Assessment of Tsunamis (GREAT), yn defnyddio tonnau sain sy'n teithio drwy'r cefnfor yn llawer cyflymach na tswnamis ac yn ganfyddadwy gan ficroffonau tanddwr o’r enw hydroffonau.

Mae offeryn newydd sy'n asesu lefel y perygl gan tswnamis mewn amser real bellach ar waith ar raddfa fyd-eang.

Mae'r system rhybuddio cynnar, Global Real-time Early Assessment of Tsunamis (GREAT), yn defnyddio tonnau sain sy'n teithio drwy'r cefnfor yn llawer cyflymach na tswnamis ac yn ganfyddadwy gan ficroffonau tanddwr o’r enw hydroffonau.

Dan arweiniad tîm o Brifysgol Caerdydd, gallai’r dechnoleg helpu i achub bywydau drwy roi mwy o amser i bobl weithredu a ffoi. Byddai hyn yn helpu i leihau galwadau diangen sy’n niweidio ymddiriedaeth mewn systemau rhybuddio.

Mae’r dechnoleg, a gyflwynwyd yn y cyfnodolyn Geoscientific Model Development, wedi bod yn defnyddio data hydroacwstig amser real Sefydliad y Cytundeb Cynhwysfawr ar Wahardd Profion Niwclear (CTBTO) drwy law’r Instituto Português do Mar e da Atmosfera (IPMA) ers mis Mehefin 2024 i wneud profion byw go iawn yn y Ganolfan Rhybuddio yn achos Tswnami newydd yng Nghaerdydd.

Dyma a ddywedodd arweinydd y prosiect Dr Usama Kadri, Darllenydd Mathemateg Gymhwysol ym Mhrifysgol Caerdydd: “Mae ein gwaith yn dangos y gallwn ni ddefnyddio tonnau sain y cefnfor i asesu tswnamis yn gyflym ac yn fyd-eang, a hynny wrth iddyn nhw ddigwydd ac nid ar ôl i’r don gyrraedd yr arfordir.

“Mae'r dechnoleg yn gweithio mewn amser real, nid yw’n dibynnu ar dempledi neu ragdybiaethau sefydledig, ac mae wedi bod yn destun profion llwyddiannus sy’n defnyddio data go iawn gan hydroffonau.

“Cam nesaf y profion yw IPMA, sef asesu perfformiad y system o dan amodau gweithredu go iawn gan fynd i'r afael â heriau megis cyfyngiadau caledwedd, oedi wrth drosglwyddo data a methiannau posibl gan y synwyryddion.

Bydd hyn oll yn ei gwneud hi’n bosibl rhybuddio’n gynharach ac yn fwy dibynadwy, a gallai hyn achub bywydau yn y cymunedau hynny ledled y byd sydd mewn perygl.

Dr Usama Kadri Darllenydd mewn Mathemateg Gymhwysol

Gwyliwch ffilm wedi’i hanimeiddio ar system GREAT (Global Real-time Early Assessment of Tsunamis) ar YouTube

Mae’r systemau rhybuddio presennol yn aml yn seiliedig ar synwyryddion ar lefel y môr fel bwiau DART sydd ond yn canfod tswnamis ar ôl iddyn nhw gyrraedd, gan adael ychydig o amser i ymateb.

Erbyn i'r signal gyrraedd canolfannau rhybuddio, efallai y bydd hi'n rhy hwyr eisoes, yn enwedig yn achos ardaloedd sy'n agos at y ffynhonnell fel tswnami Swmatra yn 2004 pan gyrhaeddodd y tonnau cyntaf ond 14 munud ar ôl y daeargryn.

“Defnyddir seismomedrau hefyd i rybuddio canolfannau rhybuddio pan fydd daeargryn yn digwydd, ond allan nhw ddim pennu maint y tswnami os caiff un ei greu,” meddai Dr Kadri.

Yn lle hynny, gall GREAT ychwanegu at y seilweithiau rhybuddio presennol, gan weithio ochr yn ochr â nhw i ddilysu’n annibynnol drwy law modelau dadansoddol a dysgu peirianyddol uwch. Bydd yn canfod tonnau sain sy’n teithio’n gyflymach, a gynhyrchir ar yr un pryd â’r tswnami, i gael darlun cynharach a mwy manwl gywir o’r hyn sydd i ddod.

Dr Usama Kadri

Ar ben hynny, nid yw dulliau rhybuddio traddodiadol yn gallu asesu tswnamis a gynhyrchir gan ffynonellau nad ydyn nhw’n seismig fel tirlithriadau, llosgfynyddoedd, meteotswnamis, meteorynnau a ffrwydradau, ymhlith eraill.

Gall GREAT ddal priodweddau tswnamis y ffynonellau hyn oherwydd eu bod hefyd yn cynhyrchu tonnau disgyrchol acwstig.

Fodd bynnag, mae'r tîm yn cyfaddef mai her sylweddol i'r dechnoleg sy'n dod i'r amlwg yw'r nifer gyfyngedig o orsafoedd hydroacwstig.

Mae gan y CTBTO 11 o orsafoedd yn fyd-eang, ond dim ond pedair gorsaf hydroffon sy'n darparu data amser real drwy law IPMA ar hyn o bryd.

Ar ben hynny, mae eu dosbarthiad daearyddol gwasgaredig yn cyfyngu ar y cwmpas rhanbarthol.

Ychwanegodd Dr Kadri: “Ar yr amod bod digwyddiad o fewn mil o gilometrau i orsaf hydroffon, ar gyfartaledd bydd yn cymryd chwe munud i greu asesiad o’r naill ben i’r llall.

“Dim ond ychydig eiliadau y mae’r dadansoddiad ei hun yn ei gymryd mewn gorsaf gyfrifiadurol safonol.”

“Er mwyn sicrhau rhybuddio cynnar byd-eang, byddai angen tua dau ddwsin o orsafoedd â hydroffon, sef nifer gymharol fach o’u cymharu â’r systemau monitro sy’n bodoli eisoes.”

Cymeradwywyd GREAT gan y Cenhedloedd Unedig yn un o brosiectau Ocean Decade.

Cyflwynodd Dr Kadri y dechnoleg yng Nghynhadledd Gyntaf Dinasoedd Arfordirol Rhyngwladol Ocean Decade: Gwell Cefnfor, Gwell Dinas yn Qingdao, Tsieina, a'r Unfed Sesiwn ar Ddeg ar Hugain o Grŵp Cydlynu Rhynglywodraethol System Rhybuddio a Lliniaru Tswnamis y Môr Tawel yn Beijing, Tsieina.

Cyhoeddwyd y papur, 'GREAT v1.0: Global Real-time Early Assessment of Tsunamis’, yn Geoscientific Model Development.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn ymrwymedig i addysgu, ysgolheictod ac ymchwil rhagorol, ac i gefnogi ei myfyrwyr i wireddu eu potensial academaidd.